Ymgeiswyr anabl yn trafod rhwystrau wrth sefyll mewn etholiad

Kat WatkinsFfynhonnell y llun, Anabledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Kat Watkins o Anabledd Cymru fod 'cynrychiolaeth yn hanfodol' gan alw am newid i wneud Cymru'n fwy cyfartal

  • Cyhoeddwyd

Rhiwiau serth, blychau post isel a chamsyniadau cyffredin - dyma rhai o'r rhwystrau y mae ymgeiswyr anabl yn dweud sy'n eu hwynebu cyn etholiad y Senedd.

Dywed Anabledd Cymru fod rhwystrau, boed yn sefydliadol, amgylcheddol neu agweddol, "yn gynhenid mewn gwleidyddiaeth".

Ychwanegodd fod dros 20% o'r boblogaeth yn bobl anabl, sy'n golygu y byddai angen i Senedd nesaf Cymru gael 19 AS anabl er mwyn bod yn gynrychioliadol, wrth i nifer yr aelodau gynyddu o 60 i 96.

Siaradodd BBC Cymru ag ymgeiswyr o'r pleidiau gwleidyddol am eu profiadau personol o anabledd a gwleidyddiaeth.

Bydd pleidleiswyr yn mynd i'r polau ddydd Iau.

'Angen rhywun ag anabledd er mwyn deall'

Cafodd Dr Gareth Thomas, 52, ei ryddhau o'r fyddin gydag anaf i linyn ei asgwrn cefn ac mae'n defnyddio cadair olwyn.

"Pe bawn i'n cael fy ethol, fi fyddai'r defnyddiwr cadair olwyn llawn amser cyntaf yn y Senedd," dywedodd.

"Mae hynny'n syfrdanol."

Mae'n sefyll ar ran Reform yn etholaeth Pen-y-Bont Bro Morgannwg, ac yn dweud bod dulliau ymgyrchu arferol yn gallu bod yn heriol.

"Alla' i ddim mynd i lawr llwybrau pobl a chnocio drysau, oherwydd mae yna risiau. Mae pob math o rwystrau [fel] sbringiau ar giatiau."

Dr Gareth ThomasFfynhonnell y llun, Tina Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Gareth Thomas wedi gweithio i sefydliadau di-elw ac elusennau anabledd

"Pan dw i wedi gwneud e, dwi wedi mynd allan gyda thîm, dwi wedi bod ar ymyl palmant.

"Os yw rhywun eisiau dod i siarad â mi, mi allant."

Mae'n teimlo nad yw anabledd yn flaenoriaeth mewn gwleidyddiaeth.

"Fi'n credu bod wir angen rhywun sydd gydag anabledd er mwyn deall pobl ag anabledd i wneud y newid hwnnw.

"Dyna pam es i wleidyddiaeth, dros gyn-filwyr anabl ac iechyd meddwl."

Mae rhestr lawn holl ymgeiswyr etholaeth Pen-y-Bont Bro Morgannwg yma.

Penderfynodd ymgeisydd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru dros Frycheiniog Tawe Nedd, Jackie Charlton, i ddatgan yn glir ar ei thaflenni ei bod hi'n fyddar.

"Dwi'n meddwl bod rhywbeth eithaf pwerus os gallwch chi fod yn agored amdano," meddai.

Cafodd y cynghorydd sir fewnblaniad cogyrnol wyth mlynedd yn ôl.

Mae ganddi gi clywed o'r enw Juno sydd, meddai, yn gliw gweledol ei bod hi'n anabl.

"Mae ychydig fel cael siaradwr gwefusau - rhywbeth gweledol iawn y gall pobl gysylltu ag ef ac mae goresgyn rhwystrau'n llawer, llawer haws o'i herwydd."

Jackie CharltonFfynhonnell y llun, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jackie Charlton ei bod wedi dechrau mewn gwleidyddiaeth trwy ymgyrchu ar faterion cydraddoldeb a bod anabledd yn rhan o hynny

Teimla Ms Charlton bod angen iddi wneud "job well nag unrhyw un arall", oherwydd byddai pobl yn y pen draw yn beio ei hanabledd pe na bai'n gwneud hynny.

"Mae bod yn weladwy fel menyw anabl yn hynod bwysig ac rwyf wastad wedi bod yn groch ac yn falch o fod yn fenyw.

"Ond rwyf wedi mynd gam ymhellach trwy fod yn groch ac yn falch fel rhywun ag anabledd."

Mae rhestr lawn holl ymgeiswyr etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd yma.

'Un person yn llai oedd yn gorfod teimlo fel fi'

Mae Kayleigh Unitt, 26, yn agored ynghylch ei hanabledd fel rhywun sy'n creu cynnwys ar-lein ers blynyddoedd.

"Do'n i methu ffeindio unrhyw un gyda fy nghyflwr oedd yn creu cynnwys ac roeddwn i eisiau teimlo'n llai unig," meddai.

"Meddyliais petawn i'n gallu bod y person yna i rywun arall, dyna un person yn llai oedd yn gorfod teimlo fel fi."

Yn 26 oed, mae ganddi syndrom Ehlers-Danlos ac yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Fflint Wrecsam.

Kayleigh UnittFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Kayleigh Unitt fod cynrychiolaeth yn bwysig i bobl ifanc

Dywed Ms Unitt, sy'n defnyddio ffon gerdded a sgwter symudedd, iddi osgoi cnocio ar ddrysau, yn enwedig mewn ardaloedd bryniog, a chanolbwyntio yn hytrach ar gyfryngau cymdeithasol.

"Mae llawer o bobl yn meddwl os ydych chi'n ifanc, na allwch chi fod yn anabl.

"Mae yna ddisgwyliad oedran penodol cyn ei bod hi'n gymdeithasol dderbyniol bod angen yr holl bethau yma."

Dyna pam, mae hi'n dadlau, bod pobl ifanc anabl angen gweld pobl eraill yn yr un sefyllfa "hyd yn oed os nad ydyn nhw am fynd i wleidyddiaeth... gan wybod gallen nhw wneud unrhyw beth".

Mae rhestr lawn holl ymgeiswyr etholaeth Fflint Wrecsam yma.

Mae Lisa Pritchard, 44, yn ymgeisydd Llafur Cymru yn Afan Ogwr Rhondda.

Mae'n byw gyda'r cyflwr pengamrwydd ers ei geni ac arthritis gwynegol am fwyafrif ei hoes.

Gall ymgyrchu, meddai, fod yn anodd ac mae'n anodd cyrraedd blychau post isel neu gartrefi anhygyrch.

Esboniodd ei bod eisiau dangos i eraill beth sy'n bosib i'w gyflawni.

"Fi'n credu nad yw llawer o bobl anabl yn teimlo'n ddigon hyderus," dywedodd.

"Wnes i ddim, wnes i erioed freuddwydio y gallwn i gynrychioli unrhyw un, felly fi'n meddwl bod hyder yn rhwystr enfawr."

Lisa PritchardFfynhonnell y llun, Lisa Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lisa Pritchard ei bod yn gallu helpu addysgu pobl heb anabledd am y rhwystrau y mae hi'n eu hwynebu

Un o'i hofnau mwyaf, meddai, oedd aflonyddu ar-lein, ond roedd cynrychiolaeth anabledd, yn y pen draw, yn bwysicach.

"Mae'n anodd iawn, yndyw e? Pan rydych chi'n edrych ychydig yn wahanol ac yn rhoi eich hun ymlaen, allwch chi ddim diflannu i'r cefndir mewn gwirionedd.

"Felly, dwi'n meddwl bod gennym ni groen mwy trwchus fel pobl anabl beth bynnag, oherwydd y rhwystrau ni wedi'u teimlo y rhan fwyaf o'n bywydau."

Mae rhestr lawn holl ymgeiswyr etholaeth Afan Ogwr Rhondda yma.

'Cwmpasu ystod eang o gefndiroedd'

Mae James Bennett, 35, yn niwroamrywiol ac yn sefyll dros y Blaid Werdd ym Mhontypridd Cynon Merthyr.

"Fi'n credu mai un o'r heriau mawr a welais i yw bod ymgyrchu'n anodd.

"Mae'n flinedig, a chi'n treulio lot o amser o'r tŷ ac ar sesiynau hyfforddi. Mae wedi bod yn eithaf dwys."

James BennettFfynhonnell y llun, Angela Karadog
Disgrifiad o’r llun,

Dywed James Bennett nad yw cynrychiolaeth anabledd "yn wych" ac mae'n gobeithio y bydd yr etholiad yn gyfle i gael "cynrychiolaeth o bob math o leisiau"

Dywedodd fod pobl yn disgwyl cwrdd â "fersiwn niwronodweddiadol delfrydol o wleidydd".

"Mae yna ddisgwyl i chi ymddwyn mewn ffordd benodol, i gyflwyno'ch hun mewn ffordd benodol, ac mae hynny'n eithaf anodd.

"Tydw i ddim eisiau beio'r etholwyr am hynny.

"Mae eu canfyddiadau wedi eu llunio gan y cyfryngau a'r ffordd y mae gwleidyddion eraill wedi cyflwyno eu hunain."

Mae'n gobeithio y bydd y cynnydd yn nifer Aelodau'r Senedd yn gyfle am newid.

"Mae hynny'n nifer fawr o bobl. Dylai hynny gwmpasu ystod eang o gefndiroedd gwahanol.

"Dylai pobl niwroamrywiol fod yn rhan o hynny'n bendant."

Mae rhestr lawn holl ymgeiswyr etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr yma.

'Chwalu'r rhwystrau'

Mae Toby Jones, 44, yn ymgeisydd i'r Ceidwadwyr Cymreig dros Gasnewydd Islwyn ac mae'n dad i blentyn anabl, sy'n ddefnyddio cadair olwyn.

"Y rheswm ro'n i eisiau bod mewn gwleidyddiaeth etholedig yw oherwydd y diffyg cynhwysiant a'r ffordd rwy'n teimlo bod pobl anabl yn cael eu gwthio i'r ochr yn aml," meddai.

Ers dod yn dad, meddai, mae wedi sylweddoli ar yr "annhegwch" o ran cael cymorth.

"Tan i chi fyw'r bywyd hwnnw, dydych chi ddim yn ei ddeall go iawn.

"Dydw i ddim am fod yn nawddoglyd i'r rhai sydd ddim yn deall - mae yna lawer o ddeddfwriaeth, polisi a phobl sydd â bwriadau da iawn yn gweithio yn y meysydd hyn.

"Ond mae angen byw'r bywyd hwnnw i'w ddeall go iawn."

Toby JonesFfynhonnell y llun, Ceidwadwyr Cymreig
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Toby Jones y gall fod yn "flinedig" i deuluoedd anabl sy'n gorfod paratoi ar gyfer brwydr bob tro maen nhw'n ceisio cael cymorth neu gefnogaeth

Dywedodd Mr Jones, sy'n gyn-gynghorydd gwleidyddol, nad oedd am ddyfalu'r canlyniadau, ond mae'n gobeithio gweld mwy o gynrychiolaeth ar ôl 7 Mai.

"Mae angen i ni gofleidio rhai o'r cynlluniau mentora gwych sydd ar gael fel bod pobl anabl yn gallu mynd i wleidyddiaeth.

"Ond mae angen i ni chwalu'r rhwystrau, er mwyncael pobl anabl i fod yn ymgeiswyr yn y lle cyntaf."

Mae rhestr lawn holl ymgeiswyr etholaeth Casnewydd Islwyn yma.

Yn ôl Anabledd Cymru, mae pobl sydd â phrofiad o fyw gydag amhariad wedi eu neilltuo am rhy hir.

"Dyw gwleidyddiaeth heb esblygu i ddarparu ar gyfer pawb ar sail deg," meddai'r swyddog prosiect gwleidyddiaeth, Kat Watkins.

Mae hi'n helpu i redeg rhwydwaith sy'n anelu at wneud y system yn fwy hygyrch i bobl anabl ac mae wedi cynhyrchu siarter i gynghori pleidiau gwleidyddol.

"Mae gwleidyddiaeth ar gyfer pawb, mae cynrychiolaeth yn hanfodol," dywedodd.

"Gadewch i ni newid y system a gwneud Cymru yn wlad fwy cyfartal."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.