Cofrestru yn yr Eisteddfod 'a rŵan ella bo' fi'n rhoi cyfle arall i rywun fyw'

Elin RowlandsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Wythnos ar ôl cofrestru yn yr Eisteddfod, cafodd Elin Rowlands wybod "bo' fi'n match"

GanGwen Aeron
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Roedd Elin Rowlands o Ynys Môn wedi gweld pobl yn sôn am roi bôn-gelloedd ar y cyfryngau cymdeithasol, ond doedd hi heb feddwl rhyw lawer am y peth pan ddaeth rhywun ati yn yr Eisteddfod a gofyn iddi gofrestru.

Dim ond rhyw ddwy funud gymrodd hi i Elin roi ei henw ar y gofrestr.

Ond wythnos yn ddiweddarach, daeth galwad ffôn annisgwyl a newidiodd popeth.

Cafodd wybod ei bod yn rhoddwr addas a "do'n i ddim cweit yn gwbod be' o'dd hynny'n feddwl, ond o'n i jest yn gwbod bo' rhaid i fi fynd i Nottingham i gael check-up.

"Felly dyna be' 'nes i. Jest neidio yn y car 'efo Mam a mynd!"

Aeth ymlaen i roi ei bôn-gelloedd mewn proses y disgrifiodd fel un poenus, ond roedd hi werth pob pigiad, meddai.

Mae nawr yn annog eraill i gofrestru ac ystyried rhoi hefyd.

"Amser yw'r peth gorau alle ti roi i rywun," a "ti byth yn gwybod pryd falle mai dy stem cells di sy'n gallu bod yn gyfle arall i rywun".

'Na i ddim dweud celwydd, 'naeth o frifo'

Roedd y cyfan wedi digwydd mor gyflym fel nad oedd Elin wedi cael llawer o amser i brosesu'r hyn oedd yn digwydd.

"O'n i newydd orffen shifft fi yn gwaith a do'n i ddim yn adnabod y rhif oedd yn ffonio.

"O'n i'n meddwl taw sgam oedd o, felly nes i roi'r ffôn lawr.

"Wedyn 'naethon nhw ffonio eto a rhywun o [elusen] Anthony Nolan oedd 'na, yn d'eud bo' fi'n match."

Ar ôl cyrraedd Nottingham "ges i'r pethau 'ma i injectio fy hun, ac ar ôl tridia' o'n i 'nôl yn yr ysbyty ac o'n i'n cael y driniaeth.

"'Naeth o gyd ddigwydd mor fast. Ges i ddim eiliad i actually meddwl be' o'n i'n 'neud!"

Cyn y driniaeth ei hun, roedd Elin wedi gorfod cael pigiadau am bum diwrnod er mwyn cynyddu nifer y bôn-gelloedd yn ei gwaed.

"Roedd 'na lot o side effects, a doedd o ddim yn neis, ond o'dd o 100% werth o."

Elin Rowlands (dde) a'i MamFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elin (dde) bod y broses wedi brifo, ond bod "hynny'n ddim i gymharu â be' ti'n rhoi i rywun arall"

Ar ddiwrnod y rhodd, cafodd Elin ganwla ym mhob braich wrth i'w gwaed gael ei gylchredeg drwy beiriant.

"O'n i'n cael canwla yn un llaw ac o'dd gwaed fi'n cael ei dynnu allan a mynd trw'r machine i dynnu'r stem cells allan.

"Wedyn o'dd gweddill y gwaed yn mynd 'nôl mewn trw'r canwla yn y llaw arall."

Mae'r broses fel arfer yn cymryd tua phum awr, wrth i'r peiriant wahanu'r bôn-gelloedd oddi wrth weddill y gwaed.

Er bod Elin yn cyfaddef nad oedd y broses yn hawdd, mae hi'n dweud bod y boen yn ddim o'i gymharu â'r hyn y gallai ei rhodd olygu i rywun arall.

"'Na i ddim dweud celwydd, 'naeth o frifo - y prep a'r driniaeth.

"Ond ma' hynny'n ddim i gymharu â be' ti'n rhoi i rywun arall.

"Os dwi'n gorfod dioddef bach o boen er mwyn rhoi cyfle arall i rywun fyw, sut alla i gwyno am hynny?"

'Helpu rhywun i fyw'

Mae gwybod bod ei bôn-gelloedd hi wedi gallu rhoi cyfle arall i rywun yn rhywbeth sy'n "emosiynol iawn" i Elin.

"'Nes i grio i Mam a'n chwaer i am y peth achos dwi jest methu coelio bo' fi'n helpu rhywun i fyw.

"Ddim yn aml wrth gofrestru i betha' fel hyn ti'n troi allan yn match.

"Car dy gymydog fel ti dy hun de, a ma' hynny wedi sticio 'efo fi drwyddo fo gyd.

"Mae'n od meddwl bod rhywbeth sydd gen i i'w roi wedi gallu mynd at rywun arall a rhoi cyfle iddyn nhw."

Offer meddygolFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Elin ganwla ym mhob braich wrth i'w gwaed gael ei gylchredeg drwy beiriant

"Os oedd rhywun o fy nheulu i angen y stem cells yma, fyswn i'n erfyn ar rywun i 'neud," meddai.

Dydy Elin ddim yn gwybod eto pwy sydd wedi cael ei bôn-gelloedd, na ble yn y byd maen nhw.

"Dwi'n cael gwybod mewn 'chydig o wythnosa' pwy 'dio.

"Gall o fod yn rhywun yn rhywle ar hyd y byd i gyd.

"Dwi ddim yn gwybod pwy ydyn nhw, ond dwi jest yn gobeithio bod o'n helpu rhywun."

Mae'r profiad wedi gwneud Elin yn benderfynol o annog mwy o bobl i gofrestru.

"Dwi jest yn gobeithio bod rhywun arall yn teimlo'r un fath petai rhywun annwyl iddyn nhw angen bôn-gelloedd, bysa nhw yn gwneud.

"Felly gobeithio bod o'n helpu rhywun."

Dywedodd elusen Anthony Nolan fod "amser yn gallu bod yn hollbwysig" i gleifion sy'n aros am drawsblaniad, ac maen nhw'n annog mwy o bobl i gofrestru fel darpar roddwyr.

Ers sefydlu'r gofrestr yn 1974, mae mwy na 22,000 o drawsblaniadau bôn-gelloedd wedi bod yn bosibl drwy'r elusen.

Yn ôl yr elusen, un o bob 800 yw'r siawns o gael eich paru â chlaf yn ystod y pum mlynedd gyntaf o fod ar y gofrestr.

Ond mae'r galw am gyfleusterau casglu bôn-gelloedd wedi cynyddu, gyda mwy o bwysau ar gapasiti ledled y DU.

'Pob eiliad wedi bod werth o'

I Elin, mae'r ffaith mai cofrestru yn yr Eisteddfod, ar fympwy, oedd dechrau'r daith yn rhywbeth sy'n dal i'w rhyfeddu.

"Pan nes i gofrestru, o'n i jest yn meddwl, 'pam ddim?'

"Doedd gen i ddim syniad y byddwn i'n cael galwad ffôn mor sydyn, a bod o gyd yn digwydd mor fast.

"Ond rŵan dwi'n edrych 'nôl arno fo ac yn meddwl, os ma' hynny wedi rhoi cyfle arall i rywun, ma' pob eiliad o'r broses wedi bod werth o.

"Felly, os wyt ti'n gallu cofrestru, plis gwna.

"Ti byth yn gwybod pryd falle mai dy stem cells di sy'n gallu bod yn gyfle arall i rywun.

"Amser yw'r peth gorau alle ti roi i rywun.

"Ma' rhoi 'chydig ddyddiau o dy amser di er mwyn helpu rhywun i fyw lot hirach yn werth pob injection!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig