Cyhuddo gyrrwr ifanc o achosi marwolaeth seiclwr yn Sir Gâr

Bu farw Alice Smith ar ôl cael ei tharo gan gar yn 2024
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth seiclwr yn Sir Gaerfyrddin ddwy flynedd a hanner yn ôl.
Roedd Alice Smith, 31, yn seiclo ar y B4306 ger Yr Hendy pan fu mewn gwrthdrawiad â char Seat Ibiza coch, ddydd Sadwrn, 9 Mawrth, 2024.
Fe wnaeth Connor Clive Rees, 22 o Fancffosfelen, ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Siaradodd Mr Rees i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni yn unig, ac nid oedd gofyn iddo roi ple.
Cafodd ei ryddhau ar fechniaeth, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 5 Hydref.
'Gwên a gair caredig i bawb'
Mewn teyrnged yn dilyn marwolaeth Alice Smith, dywedodd ei theulu ei bod "yn paratoi ar gyfer triathalon yn Barcelona eleni ac roedd hi ar ei ffordd i Langyndeyrn pan fu farw".
"Roedd Alice ar ei hapusaf ymhlith ei ffrindiau agos, ei chydweithwyr a'i chylch marchogaeth.
"Roedd ganddi bob amser wên a gair caredig i bawb a gyfarfu â nhw."
Ynghyd â'i hyfforddiant triathlon ac Ironman, dywedodd ei theulu ei bod yn "farchoges dressage ddawnus oedd ar fin mynd i gystadlu yn rowndiau terfynol Petplan yn Addington Manor gyda'i cheffyl annwyl Tess".
"Mae colli Alice wedi gadael twll enfawr yn ein bywydau a phawb oedd yn ei hadnabod," meddai'r teulu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.