Ruby Evans yn ennill medal aur gyntaf Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad

Ruby EvansFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru wedi ennill naw medal yn yr Alban hyd yma

  • Cyhoeddwyd

Mae'r fabolgampwraig Ruby Evans wedi ennill medal aur gyntaf Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

Daeth Evans, 19 oed, i'r brig yn yr elfen olaf o'r cystadlaethau gymnasteg yn Glasgow - y gwaith llawr.

Abigail Martin o Loegr ddaeth yn ail, gyda Shantae-Eve Amankwaah o Loegr yn cipio'r efydd.

Daw'r fuddugoliaeth wedi i Evans gael ei gweld yn ei dagrau nos Wener, ar ôl gorffen yn chweched mewn cystadleuaeth unigol - a hynny wedi i Gymru orffen yn bedwerydd yn y gystadleuaeth tîm.

Dyma'r fedal aur gyntaf i Gymru ei hennill yn yr Alban, gan ychwanegu at ddwy fedal arian a chwe medal efydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig