Arian i gapten Cymru, Olivia Breen, yng Ngemau'r Gymanwlad

Olivia BreenFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae capten tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad, Olivia Breen, wedi sicrhau'r ail fedal arian Gymreig yn Glasgow yn y 100m T38.

Cafodd Breen, oedd wedi ennill y gystadleuaeth yn y gemau yn Birmingham yn 2022, ei churo i'r aur y tro hwn gan Sophie Hahn o Loegr.

Mae'r categori T38 ar gyfer athletwyr sydd â phroblemau cydsymud, fel parlys neu anafiadau ar yr ymennydd, neu strôc.

Dywedodd Breen ar ôl y ras ei bod hi'n "hapus iawn" hefo'i pherfformiad a'i bod wedi gadael popeth ar y trac.

Emily ac Abigail Roper yn dathlu ennill eu medalau efyddFfynhonnell y llun, Tîm Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Emily ac Abigail Roper yn dathlu ennill eu medalau efydd

Yn gynharach ddydd Llun fe wnaeth pâr o efeilliaid ennill dwy fedal efydd yn y gymnasteg o fewn ychydig oriau i'w gilydd.

Gorffennodd Abigail Roper yn drydydd yn y llofnaid (vault), cyn i'w chwaer Emily ennill efydd yn y bariau anwastad (uneven bars).

Mae Cymru bellach wedi sicrhau saith medal yn y gemau hyd yma - dwy arian a phump efydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig