Creu bagiau synhwyraidd i 'wneud bywyd yn haws' yn Eisteddfod yr Urdd

Emma a'i mab Noa
- Cyhoeddwyd
Bydd mam o Borthmadog, sydd wedi bod yn trefnu bocsys synhwyraidd, i helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cynnig bagiau arbennig yn Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn eleni.
Mae Emma Wyn a'i mab Noa, 11, wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ers i'w mab gael diagnosis chwe blynedd yn ôl.
Mae Emma wedi bod yn casglu arian i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ers blynyddoedd drwy deithiau cerdded, raffl a digwyddiadau eraill.
Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i greu bocsys ac mae Emma wedi cychwyn cynnig bagiau synhwyrol Noa hefyd ar gyfer plant sydd eu hangen i'w difyrru.
Bydd 100 o fagiau synhwyraidd Noa ar gael ar gyfer teuluoedd ag ysgolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) fydd yn mynd draw i Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn fis Mai.
Mae'r bagiau hyn wedi'u creu gan Emma i "helpu'r plant gadw'n brysur a mwynhau eu hamser ar y maes ac maen nhw ar gael am ddim".

Rhai o'r teganau sydd yn y bagiau
"Mi fydd Noa yn cystadlu am y tro cyntaf gyda'r ysgol eleni yn yr Urdd ac o'n i'n meddwl fod hi'n syniad da i ddod â'r bagiau efo fi i'r maes. "
Mae Emma yn galw ar unigolion, ysgolion neu gymdeithasau i gysylltu efo hi er mwyn archebu'r bagiau i'w defnyddio ar faes Eisteddfod yr Urdd.
"Mae 'na gymaint o rieni wedi cysylltu yn deud fod nhw'n helpu," meddai.
"Doedd na ddim digon o adnoddau ar gael pan oedd Noa yn ifanc felly isio helpu rhieni eraill dwi a gwneud bywyd yn haws i bawb, fel bod pawb yn gallu enjoio ar y maes."

Mae Emma wedi creu 100 o fagiau synhwyraidd Noa
Mae cyfanswm o £35,000 wedi ei gasglu ar gyfer Apêl Noa ers 2017 "gyda'r arian yna'n mynd i ysgolion lleol, defibs, tîm awtistiaeth Gwynedd ac ymgyrch bocs sensori Noa".
Cafodd Emma'r syniad o greu bocsys ar ôl bod yn aros mewn apwyntiad yn Ysbyty Gwynedd gyda'i mab Noa sy'n awtistig.
"Roedd y cyfan yn heriol - doedd Noa ddim yn gallu aros yn llonydd, oedd o'n stryglo'n ofnadwy ac o'n i'n meddwl bydd rhaid i fi 'neud rhywbeth i 'neud bywyd yn haws i ni a theuluoedd eraill," ychwanegodd.
Erbyn hyn mae Emma yn anfon y bocsys ar draws Cymru ac at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, meddygfeydd a deintyddfeydd lleol. Mae'r bocsys hefyd i'w cael yng nghlwb pêl-droed Wrecsam, Venue Cymru a Stadiwm Principality, Caerdydd.
Meddai Emma: "Dwi'n trio cael cymaint o focsys allan yna â phosib."

Emma a Noa yn cyrraedd STōK Cae Ras Wrecsam gyda'u bocsys arbennig
Cafodd Noa, sy'n 11 oed, ddiagnosis o awtistiaeth yn 2020.
"Doedd Noa ddim yn deall bod o angen eistedd ac aros – bob tro 'da ni'n mynd i apwyntiad mae'n meddwl bod o'n cael mynd yn syth i fewn heb aros.
"Oedd Noa yn taflu ei hun ar lawr, oedd o'n trio dwyn ffon dyn bach oedd yn eistedd ar ymyl ni – oedd o jest yn wyllt, yn rhedeg rownd.
"O'n i jest yn teimlo pan o'n i yna bod pobl eraill yn edrych arnai a dwi'n cofio clywed dynes yn dweud, 'pam dy' hi ddim yn dweud wrth yr hogyn bach i eistedd lawr a bod yn ddistaw?'
"Dydy o ddim mor hawdd â hynna."
Er mwyn helpu teuluoedd yn yr un sefyllfa, mae Emma'n creu bocsys gyda theganau i bob oedran.
Meddai: "Mae 'na stress balls, wynebau hapus, trist, blin a wyneb mewn poen fel bod plant dilafar yn gallu dangos i'r nyrs neu doctor sut maen nhw'n teimlo.
"Hefyd mae 'na fidget toys bach, pethau sy'n gwneud sŵn... maen nhw'n cadw'r plant yn brysur tra bod nhw yn aros."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2024

- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2025
