George North i ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor

Bu George North yn chwarae i'r Scarlets, Northampton Saints, y Gweilch a ProvenceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu George North yn chwarae i'r Scarlets, Northampton Saints, y Gweilch a Provence

  • Cyhoeddwyd

Mae George North wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor.

Roedd y gŵr 34 oed o Fôn eisoes wedi ymddeol o chwarae i Gymru ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2024, wrth iddo symud i glwb Provence yn Ffrainc.

Enillodd 121 o gapiau dros Gymru, gan sgorio 47 cais.

Yn ffefryn ymysg cefnogwyr Cymru, bu hefyd yn chwarae i'r Scarlets, Northampton Saints a'r Gweilch yn ystod ei yrfa.

Gwnaeth North y cyhoeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud ei bod hi'r amser iawn i ymddeol, a'i fod wedi llwyddo i fyw ei freuddwyd am nifer o dymhorau.

Diolchodd am y gefnogaeth gan ei deulu, ei ffrindiau a'i gefnogwyr, sydd wedi "golygu'r byd i mi", gan ychwanegu ei fod yn "edrych ymlaen at y bennod nesaf".

George North ar 29/06/13Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd North ar gefn y papurau yn 2013, wedi iddo gario Israel Folau (a'r bêl) wrth chwarae i'r Llewod yn erbyn Awstralia

Aeth North i Ysgol Uwchradd Bodedern ar Ynys Môn ac yna chwarae dros glybiau Llangefni a Phwllheli yn ei ieuenctid.

Mae wedi cael ei adnabod fel chwaraewr pwerus iawn ar hyd ei yrfa sydd wedi sgorio ceisiau ers iddo gyrraedd y llwyfan cenedlaethol yn 2010.

Gwnaeth hanes i Gymru, gan fod y chwaraewr ieuengaf i sgorio cais yn ei ymddangosiad cyntaf, yn 18 oed.

North hefyd ydy'r unig Gymro i chwarae yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd ar bedair achlysur.

Yn chwarae fel asgellwr neu ganolwr yn gyffredinol, cafodd ei ddewis i'r Llewod ar deithiau 2013 a 2017, gan chwarae tair gêm brawf a sgorio dau gais.

'Jonah Lomu Cymru'

Doedd gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Cennydd Davies, ddim yn gweld y newyddion fel syndod enfawr.

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd mai'r "sioc" oedd gweld mai dim ond 34 oed ydy North: "Mae e' 'di bod rownd ers hydoedd.

"Mae wedi bod yn yrfa lewyrchus, wych ac mi fydd e'n cael ei gofio ymysg oriel yr anfarwolion, mae 'di neud pob dim yn y gêm."

Ychwanegodd ei fod wedi "ffrwydro 'mlaen i'r llwyfan domestig" a bod sawl moment sy'n golygu ei bod hi'n anodd crisialu a chrynhoi ei yrfa.

George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiodd fod North "fel cawr yn Nulyn" y tro diwethaf i Gymru guro'r Gwyddelod.

"Dyna oedd e' mewn ffordd, Jonah Lomu Cymru.

"Roedd yn rhan annatod o oes aur Warren Gatland, ble oedd yr olwyr yn ymdebygu i flaenwyr," gan ddweud ei fod yn haeddu cael ei gydnabod am ei gyfraniad.

"Cafodd broblem gyda chyfergyd yng nghanol ei yrfa a gath e' rhyw gyfnod gwael, fe ddath e n'ôl ac mi nath e' ail ddiffinio ei hunan.

"Asgellwr oedd e' ar ddechrau ei yrfa, ond roedd gyda fe reddf canolwr. Mi fyddwn ni'n siarad am George North, dwi'n siŵr, am flynyddoedd i ddod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig