Arestio dau wedi gwrthdrawiad sawl cerbyd sydd wedi anafu plentyn 5 oed

A4067 ger Craig-y-NosFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi eu harestio yn sgil gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd a arweiniodd at blentyn pump oed yn cael anafiadau all bygwth ei fywyd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4067 ger Craig-y-Nos ym Mannau Brycheiniog tua 17:50 ddydd Sul 5 Gorffennaf.

Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Ford Fiesta gwyrdd, Ford Fiesta melyn, Volkswagen Polo du a Vauxhall Grandland llwyd.

Cafodd pump eu hanafu'n ddifrifol a'u cludo i'r ysbyty am driniaeth - yn eu plith roedd plentyn pump oed. Mae'r plentyn mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Mae gyrrwr y Ford Fiesta gwyrdd, dyn 39 oed, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus ac esgeuluso plentyn.

Cafodd gyrrwr y Ford Fiesta melyn, dyn 65 oed, ei arestio hefyd a hynny ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.

Mae'r ddau'n parhau yn y ddalfa.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am unrhyw wybodaeth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig