Cyngor Sir Gâr wedi methu cydymffurfio â safonau iaith wrth gau ysgol gynradd

Gatiau Ysgol Gynradd Llansteffan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ysgol Gynradd Llansteffan yn cau ym mis Awst

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Gâr wedi methu cydymffurfio â safonau'r iaith gyda'u penderfyniad i gau Ysgol Gynradd Llansteffan, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal ar ôl i Gymdeithas yr Iaith honni nad yw'r cyngor wedi ystyried effaith y cynnig yn llawn ar yr iaith Gymraeg, gan gynnwys addysg Gymraeg i blant yr ardal a gweithgareddau Cymraeg yn y gymuned.

Fe wnaeth aelodau'r cyngor bleidleisio o blaid cau Ysgol Llansteffan ym mis Mawrth, gyda drysau'r ysgol i gau yn swyddogol ar ddiwedd mis Awst.

Yn ei hadroddiad, dywedodd y Comisiynydd "ni lwyddodd y Cyngor i gydymffurfio â gofynion [safonau llunio polisi] yn yr asesiad effaith ar y Gymraeg a gyhoeddwyd ynghyd â'r Hysbysiad Statudol i gau'r Ysgol".

Mae Cyngor Sir Gâr wedi cael cais am sylw.

Ysgol Llansteffan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies ym mis Mawrth bod nifer y disgyblion yn Ysgol Llansteffan wedi dwblu o 8 i 16 mewn blwyddyn ond nad oedd yr ysgol yn "gynaliadwy" yn ei ffurff bresennol

Fe fydd disgyblion Ysgol Llansteffan yn symud i ddalgylch Ysgol Llangain, rhyw bum milltir i ffwrdd, wedi i'r ysgol gau ym mis Awst.

Roedd cryn dipyn o wrthwynebiad wedi i'r cyngor gyflwyno hysbysiad statudol i gau'r ysgol ym mis Tachwedd, gyda phlant a rhieni yn casglu tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin i brotestio deuddydd cyn Diwrnod Nadolig.

Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno ei bod yn afresymol i'r cyngor fynnu mai effaith "niwtral" fyddai i gau prif sefydliad Cymraeg y pentref, ac y byddai yn groes i ymdrechion i adfywio cymunedau gwledig Cymraeg.

Ddim yn 'gynaliadwy'

Cafodd y cynnig i gau'r ysgol ei gyflwyno yn ffurfiol gan yr aelod cabinet ar gyfer addysg, y Cynghorydd Glynog Davies.

Dywedodd ar y pryd bod yr awdurdod wedi wynebu beirniadaeth gan Estyn am beidio bwrw 'mlaen yn ddigon cyflym gyda'r broses moderneiddio ysgolion.

Ychwanegodd bod rhaid "gwneud penderfyniadau anodd" ar adegau a bod yna 1000 o blant yn llai yn ysgolion sir Gâr o gymharu â'r cyfnod cyn y pandemig Covid-19.

Fe wnaeth y Cynghorydd Davies gyfaddef bod nifer y disgyblion yn Ysgol Llansteffan wedi dwblu o 8 i 16 mewn blwyddyn ond nad oedd yr ysgol yn "gynaliadwy" yn ei ffurf bresennol.

Protest i achub ysgolion bach
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth plant a rhieni gasglu tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin i brotestio deuddydd cyn Diwrnod Nadolig

Yn ei hadroddiad, mae'r Comisiynydd yn dweud bod "safonau llunio polisi yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i wneud ymdrech gydwybodol i ystyried yr effeithiau posibl ar y Gymraeg wrth wneud penderfyniad polisi".

"Mae dyletswydd hefyd i ystyried sut y gellir cynyddu effeithiau positif, a lleihau effeithiau negyddol, ar y Gymraeg," meddai.

"Ni lwyddodd y Cyngor i gydymffurfio â'r gofynion hyn yn yr asesiad effaith ar y Gymraeg a gyhoeddwyd ynghyd â'r Hysbysiad Statudol i gau'r Ysgol."

Dyfarniad y Comisiynydd oedd "bod y Cyngor wedi methu cydymffurfio â safonau 88, 89 a 90", sydd yn ymwneud ag asesu effaith polisïau ar y Gymraeg.

Wrth ymateb ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin dywedodd Ffred Ffransis: "Y gwir plaen yw fod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymryd penderfyniad yn Nhachwedd 2025 i gyhoeddi Hysbysiad Cau Ysgol Llansteffan ar sail Asesiad Effaith Iaith ddiffygiol, ac nid yw'r ffaith iddynt geisio cymryd rhai camau lliniaru wedyn yn dadwneud yr anghyfiawnder hwnnw a'r niwed sydd wedi'i wneud i'r teuluoedd ac i'r gymuned leol.

"Mae eisoes hanes am un teulu lleol yn rhoi eu tŷ ar y farchnad er mwyn symud i gymuned arall lle mae ysgol.

"Byddwn yn tynnu sylw Prif Weithredwr y Cyngor, Wendy Walters, at y diffygion o ran gweithredu strategol ar draws adrannau.

"Mae cais i adeiladu tai fforddiadwy yn y pentre', ond beth yw'r diben gwneud hynny i geisio cadw a denu teuluoedd ifainc os bydd adran arall yn cau'r ysgol."

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: "Fe wnaethom gyflwyno ein dyfarniad terfynol ar ymchwiliad yn ymwneud â chynnig Cyngor Sir Gâr i gau Ysgol Llansteffan i'r cyngor ac i'r achwynydd ar 2 Gorffennaf.

"Yn unol â'r drefn mae gan y cyngor hyd at 28 niwrnod i gyflwyno apêl i Dribiwnlys y Gymraeg mewn perthynas â'r ymchwiliad hwn.

"O ganlyniad ni fyddai'n briodol gwneud sylw pellach ar y mater ar hyn o bryd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.