'O'n nhw mor gas' - sylwadau ar fideo cynghorydd o fad achub lleol

"O'n i wir wedi cael sioc, o'n nhw mor gas - o'dd 'na gasineb a dwi ffaelu ailadrodd y comments a dweud y gwir," medd Elizabeth Evans
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd yn dweud ei bod wedi cael "sioc" ar ôl derbyn sylwadau "hyll" a "chas" ar fideo y rhannodd hi o fad achub lleol.
Rhannodd Elizabeth Evans fideo o'r RNLI yn ymarfer yng Ngheinewydd yn sir Ceredigion dros y penwythnos .
Ychydig oriau'n ddiweddarach roedd 30,000 wedi gwylio'r clip ac fe ddechreuodd sylwadau lifo i mewn yn ei herbyn hi a'r sefydliad.
"O'n nhw mor gas - o'dd 'na gasineb," meddai.
Yr wythnos diwethaf, penderfynodd yr RNLI adolygu eu canllawiau diogelwch er mwyn gwarchod eu gwirfoddolwyr yn dilyn protestiadau yn erbyn mewnfudo yn Dover a Portsmouth y penwythnos cynt.
Dywedodd prif weithredwr y sefydliad, Peter Sparkes, yr wythnos diwethaf: "Byddwn ni'n ymateb i'r alwad bob tro, pwy bynnag sydd angen ein cymorth."
Mae "dyletswydd gyfreithiol a moesol ar ein gwlad" i wneud hynny, meddai.

Mae gan yr RNLI orsaf yng Ngheinewydd
"Tynnais fideo bach ohonyn nhw [yr RNLI] yn ymarfer, achos o'n i moyn gweld y cwch yn dod lawr y slip," meddai'r cynghorydd sy'n gweithio ar ward Aberaeron ac Aber-arth wrth siarad ar raglen Dros Frecwast.
Rhannodd y fideo ar y cyfryngau cymdeithasol heb feddwl gormod am y peth.
Ond erbyn brynhawn Sul "o'dd e' fel spike - o'dd 30,000 wedi gwylio'r fideo 'ma".
"Ond beth synnes i, oedd darllen yr ymatebion o dan y fideo.
"O'n i wir wedi cael sioc, o'n nhw mor gas - o'dd 'na gasineb a dwi ffaelu ailadrodd y comments a dweud y gwir.
"Mae'r casinebwyr mas 'na... ac yn anffodus maen nhw'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol nawr fel rhyw fath o lwyfan i dyfu casineb."
Sylwadau 'positif' hefyd
Dywedodd y cynghorydd ei bod yn teimlo'n euog wedyn "achos o'n i'n meddwl: 'Fi wedi rhoi'r fideo 'ma lan yn cefnogi'r RNLI' - a nawr ro'n i'n tynnu sylw negyddol atyn nhw fel sefydliad.
"I gyd oedd ar fy meddwl i oedd dileu, dileu, dileu, achos oedden nhw mor gas, mor hyll," pwysleisiodd y cynghorydd Evans.
Er bod ymatebion cas yn dal i gael eu gadael ar y fideo fe bwysleisiodd bod yna sylwadau "positif" hefyd am y gwaith y mae'r sefydliad yn ei wneud "ar draws y wlad i gyd".
"Dyle nhw wybod bod cod 'da sefydliad yr RNLI," meddai, sef "diogelu bywyd ar y môr, pwy bynnag yw e'."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai

- Cyhoeddwyd12 Mai

