URC yn 'weithle mwy diogel' wedi canfyddiadau o ddiwylliant gwenwynig

- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewyr rygbi, hyfforddwyr a staff bellach yn fwy diogel wrth weithio i Undeb Rygbi Cymru (URC) yn dilyn newidiadau sydd wedi'u gwneud yn sgil canfyddiadau o ddiwylliant "gwenwynig", yn ôl rheoleiddiwr cydraddoldeb.
Dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) fod yr undeb wedi "gwneud y gwaith caled" ac wedi gwneud "gwelliannau" i'r ffordd mae'n delio ag aflonyddu a gwahaniaethu.
Datgelodd rhaglen BBC Wales Investigates yn 2023 honiadau o rywiaeth a chasineb at fenywod yn URC, gan arwain at ymchwiliad annibynnol a gadarnhaodd yr honiadau.
Dywedodd URC eu bod wedi "cyflwyno cyfres o fesurau rhagweithiol" i wella eu diwylliant.
Gweithle 'gwenwynig'
Fe wnaeth adolygiad annibynnol yn 2023 ganfod fod agweddau o'r diwylliant yn URC yn rhywiaethol, yn wrth-fenywaidd, yn hiliol ac yn homoffobig – ac yn mynd heb gael ei herio.
Dywedodd rhai gweithwyr fod y gweithle yn un "gwenwynig" ac fe wnaeth yr undeb ymddiheuro ar y pryd i'r rhai a gafodd eu heffeithio.
Rygbi: 'Cydweithiwr wedi gwneud sylw am fy nhreisio'
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023
Mwy o fenywod yn codi llais yn sgil honiadau rhywiaeth URC
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2023
Undeb rygbi 'wedi'i rybuddio' am gydraddoldeb menywod
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023
Daeth yr adolygiad, a gafodd ei gomisiynu gan URC, yn sgil ymchwiliad gan BBC Cymru i'r undeb.
Ynddo, daeth honiadau o rywiaeth a chasineb at fenywod i'r amlwg, gyda chyn-reolwr rygbi merched Cymru, Charlotte Wathan, yn datgelu bod cydweithiwr arall wedi dweud ei fod eisiau ei "threisio".
Dywedodd Wathan a chydweithiwr benywaidd arall eu bod wedi ystyried lladd eu hunain oherwydd yr hyn y disgrifion nhw fel "diwylliant gwenwynig" o rywiaeth yn URC.
Wythnos ar ôl y rhaglen, ymddiswyddodd cyn-brif weithredwr URC, Steve Phillips, gan dderbyn taliad ymadael o £480,000, gyda Nigel Walker yn cymryd yr awenau dros dro.

Dywedodd URC eu bod wedi "cyflwyno cyfres o fesurau rhagweithiol" i wella eu diwylliant
Dywedodd Mary-Ann Stephenson, cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: "Fe wnaethon ni lofnodi'r cytundeb hwn gydag Undeb Rygbi Cymru i fynd i'r afael â diwylliant yn y gweithle a oedd yn 'wenwynig' i nifer sylweddol o weithwyr, yn ôl adolygiad annibynnol.
"Ers hynny, mae URC wedi gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod y sefydliad yn lle mwy diogel i weithio.
"Bellach mae gweithdrefnau gwell ar waith i amddiffyn staff rhag aflonyddu a gwahaniaethu, a ffyrdd llawer mwy effeithiol i staff godi pryderon yn y lle cyntaf."
Er mwyn cwblhau'r cynllun gweithredu, mae'r EHRC yn dweud bod URC wedi:
Gwneud hyfforddiant ar aflonyddu rhywiol yn orfodol i bob rheolwr;
Cofnodi cwynion am wahaniaethu ac aflonyddu mewn "system safonol";
Diweddaru ei asesiad risg o aflonyddu rhywiol;
Cael cyngor allanol ar wahaniaethu ac aflonyddu.
Mae'r EHRC bellach wedi dod â'u cytundeb gyda'r undeb i ben oherwydd y datblygiadau sydd wedi'u gwneud.
'Rhaid i ni nawr adeiladu'
Dywedodd prif swyddog pobl URC, Lydia Stirling: "Ers yr adolygiad annibynnol yn 2023, ac yn wir cyn iddo ddod i'w gasgliadau a gwneud ei argymhellion, rydym wedi cyflwyno cyfres o fesurau, protocolau a chanllawiau rhagweithiol i wella ein diwylliant a sicrhau bod ein gwerthoedd yn cael eu cynnal trwy'r busnes.
"Rydym wedi gweithio'n galed i weithredu pob un o argymhellion yr adolygiad annibynnol a'r cytundeb EHRC ac rydym yn hynod ddiolchgar i EHRC am eu canllawiau a'u cyngor yn ystod y cyfnod hwn.
"Mae'n rhaid i ni nawr adeiladu ar y gwaith gwych sydd eisoes wedi'i wneud a pharhau i fodloni ein disgwyliadau ein hunain ar gyfer diwylliant cadarnhaol yn y gweithle."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.