Dyn, 19, a darodd fenyw â char yn fwriadol, yn euog o lofruddio

Bu farw Shelley Davies o'i hanafiadau, dair wythnos ar ôl y digwyddiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn, 19, a yrrodd at ddynes a'i lladd yng Nghaerau, Caerdydd wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth.
Fe wnaeth Kian Bateman yrru'n fwriadol tuag at Shelley Davies, 38, a'i phartner David Bratcher, 40, tu allan i Glwb y 4th Glamorgan Homeguard ar 27 Medi 2025.
Bu farw Ms Davies yn yr ysbyty dair wythnos yn ddiweddarach.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Bateman wedi gyrru tuag at y cwpl ar ôl i Mr Bratcher fod yn rhan o ffrae gyda'i frawd, Kai a David Bratcher.
Cafodd ei fodryb, Louise Bateman, ei tharo gan y car hefyd.

Cafodd Kian Bateman ei ganfod yn euog yn Llys y Goron Caerdydd
Cyfaddefodd Kian Bateman ei fod wedi bod yn anadlu ocsid nitrus o falŵns ar y noson honno.
Wedi iddo gael ei arestio, dywedodd wrth yr heddlu bod ei gar wedi cael ei amgylchynu gan bobl a dywedodd ei fod yn "ofni" ei fod yn "mynd i gael cweir".
Dywedodd iddo yrru'r car er mwyn dianc ac nad oedd yn ymwybodol ei fod wedi taro yn erbyn unrhyw un tan i'w gefnder ei ffonio fore drannoeth.
Roedd bargyfreithiwr yr erlyniad, Michael Jones KC, wedi dweud wrth y rheithgor yn y gorffennol fod lluniau CCTV yn dangos nad oedd pobl o amgylch y car.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Trelái ar 27 Medi
Cafodd Bateman, o Heol Muston yn Nhrelái, ei ganfod yn euog o lofruddio Miss Davies ond yn ddieuog o geisio llofruddio Mr Bratcher.
Cafwyd yn euog o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol i Mr Bratcher.
Wrth iddo gael ei arwain o'r doc, roedd Bateman yn gweiddi: "Weles i mo Shelley, wnes i ddim ei gweld hi, wnes i ddim ei gweld hi."
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 3 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd20 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd29 Medi 2025
