Cyfle i eisteddfodwyr 'ddweud eu dweud' ar ddyfodol y Brifwyl

- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn y broses o lunio strategaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ac yn ystod mis Mehefin mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar draws Cymru i drafod y dyfodol.
Nos Fawrth bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal yn Yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd o dan arweiniad y darlledwr Betsan Powys.
Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd, Sir Benfro fydd prifwyl gyntaf Nic Parry fel Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod.
Yn ystod cyfarfodydd Mehefin bydd yn rhannu ei weledigaeth gan drafod ei waith, ei flaenoriaethau a'i uchelgais ar gyfer yr Eisteddfod dros y blynyddoedd nesaf.

Cafodd Nic Parry ei benodi yn Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod yn 2025
Bydd cyfle hefyd i'r cyhoedd ofyn cwestiynau yn ystod y cyfarfodydd.
"Yn gam neu'n gymwys mae 'na deimlad efallai fod lleisiau rhai eisteddfodwyr ddim yn cael eu clywed - felly dyma gyfle i'r bedair cornel gael dweud eu dweud," meddai Nic Parry.
"Mae'n gyfle hefyd i ni gael syniadau ar sut i barhau i gael noddwyr i'r Eisteddfod gan ei bod yn gyfnod ariannol heriol."
Wrth gael ei holi os byddai'r Eisteddfod yn elwa o fynd i ddau neu dri o leoliadau parhaol, dywedodd: "Mae cwynion yn codi bob blwyddyn am ardaloedd lleol ddim yn elwa, ond ar ddiwedd yr Eisteddfod yr adborth sy'n dod nôl ydy fod ymweliad yr Eisteddfod wedi bod werth o.
"Cymerwch Wrecsam neu Bontypridd - mae'r ddwy ardal yn dweud bod yr ymweliadau wedi bod yn arbennig yn lleol."

Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal ledled Cymru fis yma
Wedi'r cyfarfod yng Nghaerdydd bydd cyfle i drigolion Abertawe, Bethesda a Rhuthun glywed am y weledigaeth a holi cwestiynau.
Ar ddydd Sadwrn olaf y Brifwyl bydd cyfle pellach yn yr Eisteddfod yn Llantwd.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Nic Parry, Llywydd y Llys mai'r bwriad yw gwrando ar bobl Cymru.
"A'r ffordd orau i wneud hynny [gwrando ar y bobl] ydy i fynd allan atyn nhw fel ymddiriedolwyr i glywed, rhannu a gwrando."
Er ei fod yn cydnabod ei fod yn "disgwyl clywed yr un themâu," dywedodd ei fod yn awyddus i "glywed rhywbeth newydd neu syniad newydd".
Dywedodd nad oes "newidiadau dramtig ar y gweill" gan yr Eisteddfod, ond bod hwn yn gyfle i helpu'r Eisteddfod i lunio ei strategaeth am y pum mlynedd nesaf.
Wrth sôn am y cystadlu yn yr Eisteddfod eleni, dywedodd fod 'na dros 70 o gorau a mwy na 1,200 o unigolion yn cystadlu.
"Ma' rhaid i ni sicrhau mai cystadlu ydi craidd yr eisteddfod, dyna fuodd o erioed," meddai.
Ethol Nic Parry yn Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2025
Beth yw Llys yr Eisteddfod?
- Cyhoeddwyd16 Awst 2018
Cafodd Nic Parry, sy'n gyn-farnwr, ei benodi yn Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod yn 2025 wedi proses recriwtio agored.
Yn syth wedi ei benodiad dywedodd Mr Parry y byddai'n brwydro yn erbyn unrhyw awgrym o lacio'r rheol Gymraeg.
Mae hefyd wedi addo sicrhau tryloywder ym mhenderfyniadau'r Llys a'r Bwrdd Rheoli.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.