Dŵr pob ardal yn Rhondda Cynon Taf yn ddiogel i'w yfed

Roedd Tonypandy yn un o'r ardaloedd a gafodd eu heffeithio
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd berwi dŵr oedd yn effeithio ar bobl mewn rhannau o sir Rhondda Cynon Taf bellach wedi cael ei godi'n llwyr.
Roedd y rhybudd i ferwi 'rhag ofn' yn dal mewn grym yn Nhrebannog, Tonyrefail, Penrhiwfer, Y Cymer, Trewiliam, Porth, Tonypandy a Glynfach.
Y rheswm am y rhybudd, meddai Dŵr Cymru, oedd i "ddiogelu iechyd y cyhoedd".
Ond bellach, mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau mewn datganiad y gallai pobl bellach ddefnyddio'r dŵr fel yr arfer - ar gyfer yfed, coginio bwyd a brwsio dannedd.
Diolchodd Steve Wilson, Prif Swyddog Gweithrediadau Dŵr Cymru "i'r holl gwsmeriaid am eu hamynedd a'u dealltwriaeth drwy gydol y digwyddiad hwn".
'Cydnabod y drafferth sylweddol'
Dywedodd Mr Wilson fod Dŵr Cymru yn "cydnabod y drafferth sylweddol y mae hyn wedi'i achosi, yn enwedig yn ystod y cyfnod diweddar o dywydd poeth ac rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a brofwyd gan gwsmeriaid a chymunedau lleol".
"Ein blaenoriaeth bob cam oedd diogelu iechyd y cyhoedd.
"Cyn codi'r rhybudd, buom ynsamplu ansawdd dŵr, profi a fflysio'r rhwydwaith i sicrhau bod cyflenwadau yn cyrraedd y safonau uchel y mae ein cwsmeriaid yn eu disgwyl."

"Mae gwybodaeth bellach ar gael ar ein gwefan," medd Steve Wilson ar ran Dŵr Cymru
"Dim ond ar ôl cyfres o ganlyniadau clir a gadarnhaodd fod y dŵr yn ddiogel i'w ddefnyddio fel arfer y mae'r rhybudd wedi'i godi," meddai Steve Wilson.
"Hoffem hefyd ddiolch i swyddogion Cyngor Rhondda Cynon Taf, aelodau etholedig a sefydliadau lleol am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad drwy gydol y digwyddiad.
"Mae gwybodaeth bellach ar gael ar ein gwefan, dolen allanol gan gynnwys manylion trefniadau iawndal ar gyfer cwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt.
"Hoffem ddiolch i gwsmeriaid unwaith eto am weithio gyda ni tra'n bod ni yn datrys y digwyddiad yma'n ddiogel," ychwanegodd Mr Wilson.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.