Gwraig a gollodd ei gŵr i Covid yn benderfynol o gael swydd fel nyrs

Ar ôl gweld y gofal a gafodd ei gŵr penderfynodd Rachel Ohene-Adjei ddechrau ar y daith tuag at gymhwyso fel nyrs
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Gaerdydd sydd wedi graddio fel nyrs yn sgil y gofal gafodd ei gŵr a fu farw o Covid, wedi dweud na fydd yn "rhoi'r gorau" i chwilio am swydd.
Bu farw gŵr Rachel Ohene-Adjei, Ericm ym mis Ebrill 2021, ar ôl saith wythnos mewn uned gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Oherwydd ei bod yn llawn edmygedd o'r gofal a gafodd Eric, penderfynodd Rachel ddechrau astudio Mathemateg a Saesneg TGAU a arweiniodd at gwrs mynediad nyrsio ac mae bellach newydd raddio.
Mae Rachel, sy'n 44 oed, yn graddio ar adeg pan mae yna lai o swyddi ar gael yn y proffesiwn ond mae hi'n dweud ei bod yn benderfynol o gael swydd.
"Wna i ddim rhoi'r gorau iddi," meddai.
"Mae'n rhaid i fi fod yn nyrs.
"Dwi wedi gweithio mor galed i ddangos i fy mhlant bod unrhyw beth yn bosib.
"Felly fe wna i gael swydd."
Dywedodd nad oedd yn llwyddiannus yn ystod y rownd gyntaf o geisio am swyddi, ond ei bod yn obeithiol yr eildro, ar ôl gwneud cais am dair swydd newydd.

Yn ôl Rachel roedd Eric bob amser yn "berson mor gefnogol a chadarnhaol"
Fe wnaeth Rachel ac Eric gyfarfod mewn bar yn 2003, a dywedodd Rachel eu bod wedi "syrthio mewn cariad yn syth", gan briodi bedair blynedd yn ddiweddarach a chael tri o blant.
Dywedodd nad oedd wedi mwynhau dysgu yn yr ysgol, gan adael heb basio TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, ond bod Eric wedi helpu i godi ei hyder.
"Roedd fy ngŵr bob amser yn berson mor gefnogol a chadarnhaol," meddai.
Profodd Eric yn bositif am Covid ym mis Chwefror 2021 gan gael ei gludo i'r ysbyty, ond bu farw ychydig fisoedd yn ddiweddarach.
"Roedd gweld y gofal gafodd o wedi plannu rhywbeth yn fy mhen fy mod i angen helpu a gofalu am bobl," dywedodd Rachel.
Mae'n cyfaddef iddi fod yn anodd ar adegau gyfuno ei hastudiaethau gyda bod yn rhiant, gan astudio weithiau "drwy'r nos".
Ond roedd yn benderfynol o gario ymlaen, gan ddweud bod cefnogaeth teulu a ffrindiau wedi helpu.
Roedd hefyd eisiau profi i'w phlant y gallai hi wneud yr hyn yr oedd eisiau ei gyflawni.
"Roedden nhw'n gwybod fy mod yn ei wneud er mwyn dangos iddyn nhw nad ydy o bwys beth sy'n digwydd mewn bywyd, neu pa mor hen ydych chi.
"Os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth a rhoi eich meddwl ar waith, yna fe allwch chi ei wneud o."

Dywedodd Rachel nad oedd cyfuno ei hastudiaethau gyda bod yn fam i dri o blant bob amser yn hawdd
Wrth siarad gyda'r BBC yn y seremoni raddio, dywedodd merch 13 oed Rachel ac Eric, Ebony ei bod yn "falch iawn" o'i mam yn dilyn y cyfan y mae hi wedi ei wynebu.
"Yn amlwg gyda marwolaeth Dad mae wedi bod mor anodd arni hi.
"Rwy' wedi ceisio ei helpu hi drwyddo."
Dywedodd Rachel yn y seremoni raddio "nad oedd yn teimlo'n real".
"Dwi methu credu fy mod wedi ei wneud," meddai.
"Mae gen i un ffrind oedd bob amser yn dweud y dylwn i fod yn nyrs.
"Roeddwn i'n dweud 'alla i ddim, dwi ddim digon clyfar'.
"A...dwi wedi ei wneud o."
Pan ofynnwyd iddi beth fyddai ymateb Eric ei bod wedi graddio fel nyrs, dywedodd:
"Byddai'n eithriadol o falch ohonof fel yr oedd bob amser."
Straeon Perthnasol
Nyrsys cyntaf erioed yn graddio o Brifysgol Aberystwyth
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Prinder swyddi graddedigion iechyd yn creu perygl o 'niwed hirdymor i'r GIG'
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.