Nyrsys cyntaf erioed yn graddio o Brifysgol Aberystwyth

GraddioFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd myfyrwyr yn graddio ddydd Iau ar gyrsiau nyrsio oedolion a nyrsio iechyd meddwl

GanGwen Aeron
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r myfyrwyr cyntaf erioed i astudio nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi graddio ddydd Iau.

Dechreuodd y garfan gyntaf ar eu cyrsiau ym mis Medi 2022, pan agorodd y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd am y tro cyntaf.

Roedd bron i 40 o fyfyrwyr yn graddio ddydd Iau ar gyrsiau nyrsio oedolion a nyrsio iechyd meddwl.

Ers cychwyn y cynllun, mae'r ddarpariaeth wedi ehangu'n sylweddol, gyda 239 o fyfyrwyr bellach yn astudio ar y cyrsiau yn ystod y flwyddyn academaidd yma.

Mae tua hanner y myfyrwyr yn siarad Cymraeg ac yn gallu astudio hyd at hanner eu gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwenno JonesFfynhonnell y llun, Gwenno Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwenno Jones ei bod yn "hynod falch" o raddio gyda dosbarth cyntaf ar ôl tair blynedd o astudio

Ymhlith y rhai fu'n graddio oedd Gwenno Jones o Ddolgellau, a dderbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn nyrsio iechyd meddwl.

"Mae'n fraint enfawr cael bod yn rhan o'r garfan gyntaf erioed," meddai.

"Mae'n deimlad chwerwfelys. Dwi mor falch o gyrraedd y diwedd, ond ar yr un pryd mae'n drist gadael ar ôl tair blynedd.

"Mae'r gymuned yma wedi bod mor gefnogol ac mae'r bobl dwi wedi cwrdd â nhw wedi gwneud y profiad yn arbennig."

Dywedodd Gwenno fod ei phrofiadau personol gydag iechyd meddwl, ynghyd ag ysbrydoliaeth gan ei modryb oedd yn nyrs, wedi ei harwain at y proffesiwn.

'Syrthio mewn cariad ag Aberystwyth'

Mae hi bellach yn gweithio ar ward asesu iechyd meddwl i oedolion yn Ysbyty Bronglais ac yn gobeithio parhau i fyw a gweithio yn y canolbarth.

"Dwi wedi syrthio mewn cariad gydag Aberystwyth a'r gymuned yma," meddai.

Ychwanegodd nad oedd hi erioed wedi ystyried ei hun yn "berson academaidd", felly roedd ennill gradd dosbarth cyntaf yn gyflawniad arbennig.

"Ro'n i yn y gwaith ar y ward pan ddaeth yr e-bost drwyddo. Ro'n i methu credu'r peth.

"Nes i orfod eistedd lawr yn syth a ffonio Mam, ac ro'n i'n crio. Dwi mor falch o'r hyn dwi wedi'i gyflawni."

Nyrsys Prifysgol AberystwythFfynhonnell y llun, Gwenno Jones
Disgrifiad o’r llun,

Myfyrwyr y garfan gyntaf erioed o gwrs nyrsio Prifysgol Aberystwyth ar eu diwrnod olaf gyda'i gilydd

Dywedodd pennaeth addysg gofal iechyd Prifysgol Aberystwyth, Amanda Jones, ei bod yn "galonogol" gweld y myfyrwyr yn cyrraedd y garreg filltir yma.

"Mae wedi bod yn anrhydedd bod yn rhan o hanes, gan ddysgu'r garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio yma yn Aberystwyth.

"Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw i'r dyfodol."

Ychwanegodd is-ganghellor y brifysgol, yr Athro Jon Timmis, fod y diwrnod yn un "arbennig iawn".

"Rydyn ni'n hynod o falch o hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o nyrsys ar gyfer y sector gofal iechyd a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

"Mae wrth galon ein hagenda i newid bywydau er gwell, meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol