'Dynion yn disgyn trwy'r tyllau' - galw am sgrinio canser y prostad

GwyndafFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwyndaf Jones yn galw am gynnig profion canser y prostad i bob dyn rhwng 40 ac 80 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaernarfon sy'n byw gyda chanser y prostad wedi dweud y dylai pob dyn rhwng 40 ac 80 oed gael cynnig prawf PSA (prostate-specific antigen).

Daeth sylwadau Gwyndaf Jones wedi i Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig ddweud ddydd Iau na ddylai'r mwyafrif o ddynion gael cynnig sgrinio ar gyfer canser y prostad.

Mae'r pwyllgor yn dweud y dylid canolbwyntio'r sgrinio ar ddynion sydd ag amrywiolyn genetig peryglus, neu sydd â hanes teuluol o ganser.

Ond dywedodd Mr Jones ei fod yn anghytuno â'r argymhellion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n ystyried argymhelliad y pwyllgor yn ofalus "cyn y bydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu cymryd ynglŷn â'i gyflwyno".

'Dynion ddim yn cael prawf gan eu GPs'

"'Da ni'm yn meddwl bod o digon pell so 'da ni'n anghytuno efo fo i dd'eud y gwir, a 'da ni'n gobeithio bydd yr aelod o'r Senedd Mabon ap Gwynfor (y gweinidog iechyd) yn mynd lot pellach a dangos y ffordd i weddill Prydain," meddai ar raglen Post Prynhawn.

"'Da ni fel rhan o grŵp ymwybyddiaeth y prostad yng ngogledd Cymru yn coelio dylsai bob dyn rhwng 40 ac 80 gael prawf."

Dywedodd hefyd fod y grŵp yn cynnal sesiynau profi ledled gogledd Cymru.

"Dwi'n meddwl fyddan ni'n rhoi prawf i 600 o ddynion am ddim oherwydd dyw dynion ddim yn cael prawf gan eu GPs," meddai.

"Dwi 'di clywed digon o straeon o bobl heb symptomau a dim hanes yn y teulu o ganser y prostad yn disgyn trwy'r tyllau."

'Naethon nhw dd'eud bod gen i ganser a bod y PSA off y scale'

Gwyndaf Jones yn siarad ar raglen Post Prynhawn

Yn ôl adolygiad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, am bob 1,000 o ddynion yn eu 50au fyddai'n cael eu sgrinio, byddai dau fywyd yn cael eu hachub dros y 15 mlynedd nesaf.

Ond byddai hefyd yn golygu bod 20 o ddynion yn cael gwybod bod ganddyn nhw ganser na fyddai byth angen triniaeth, ac yn ôl y pwyllgor, byddai'n rhaid iddyn nhw fyw gyda'r baich seicolegol hwnnw o gael diagnosis o ganser am weddill eu hoes.

Mae rhai mathau o ganser y prostad yn tyfu mor araf fel y byddai'n rhaid cyrraedd 120 i 150 oed cyn iddyn nhw fod yn fygythiad.

Dywedodd y pwyllgor fod triniaethau ar gyfer canser y prostad yn gallu achosi sgil effeithiau difrifol, gan gynnwys problemau rheoli'r bledren a phroblemau rhywiol.

Gwyndaf yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwyndaf Jones fod ei ganser wedi lledaenu erbyn iddo gael diagnosis

Wrth sôn am ei brofiad ei hun, dywedodd Gwyndaf Jones iddo fynd at y meddyg dair blynedd yn ôl, ond na chafodd brawf PSA bryd hynny.

"Ar ôl blwyddyn ro'n i'n dangos lot o symptomau ac es i'n breifat, ac fe 'naethon nhw dd'eud ar y diwrnod bod gen i ganser a bod y PSA off y scale a'r canser 'di lledaenu trwy fy nghorff i," meddai.

Dywedodd ei fod yn credu y gallai'r canser fod wedi cael ei ddal yn gynharach petai wedi cael prawf yn gynt.

"'Sa nhw 'di ei ddal o'n fwy cynnar, mwy na thebyg 'swn i 'di cael llawdriniaeth efo'r peiriant 'Da Vinci' yn union fel fy ewythr i, ac mae o rŵan yn iawn heb unrhyw sgil effeithiau," meddai.

"Dwi 'di gorfod mynd trwy driniaeth fel chemo a hormone therapy ac mae gen i sgil effeithiau horrendous."

Gwyndaf a'i wraig MarleneFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwyndaf Jones - yma gyda'i wraig Marlene - fod dynion fel fo sydd â hanes o ganser yn y teulu hefyd yn cael eu siomi gan y system bresennol

Dywedodd Mr Jones ei fod yn credu bod y system bresennol yn methu dynion fel fo.

"Dwi'n esiampl o rywun gyda mam efo canser y fron - sy'n eich gwneud chi bron 30% yn fwy tebygol o gael canser y prostad - ac mae fy nhad a'i frawd o wedi cael canser y prostad hefyd, ond ges i ddim prawf.

"Mae hynny'n dangos bod y system ddim yn gweithio."

Dywedodd hefyd ei fod wedi penderfynu talu'n breifat i gael profion cynnar i'w fab oherwydd yr hanes o ganser sydd yn ei deulu.

"Fo 'di'r ieuengaf, felly 'da ni 'di talu iddo fo gael prawf ac wrth lwc bod o'n glir, ond fe fydd o'n mynd am brawf bob blwyddyn rŵan," meddai.

"'Swn i'n tybio bod ganddo fo'r genyn yma maen nhw'n sôn amdano, felly mae'r siawns ohono fo'n ei gael o yn reit uchel."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn ystyried yn ofalus argymhelliad Pwyllgor Sgrinio'r Deyrnas Unedig ar sgrinio canser y prostad, a'i oblygiadau i Gymru, cyn y bydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu cymryd ynglŷn â'i gyflwyno.

"Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda'r GIG yng Nghymru a'r trydydd sector.

"Dylai unrhyw un sydd â symptomau neu bryderon am ganser y prostad, gysylltu â'u meddyg teulu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.