'Mandy Burnham': Dwi'n edrych fel y Prif Weinidog newydd!

Gwahanwyd yn y groth? Emma Roberts ac Andy Burnham
- Cyhoeddwyd
Pan ddechreuodd Andy Burnham ei swydd newydd fel Prif Weinidog y DU ddydd Llun 20 Gorffennaf, ychydig a feddyliai Emma Roberts y byddai'r penodiad yn dod â sylw iddi hi hefyd.
Ond mae pobl ar y cyfryngau cymdeithasol wedi sylwi ar debygrwydd y gwleidydd o ogledd Lloegr a'r caplan o Abertawe.
Ac yn hytrach na theimlo cywilydd neu geisio anwybyddu'r peth, mae Emma wedi cofleidio'r sefyllfa, ac yn galw ei hun yn 'Mandy Burnham' ar Tik Tok.
"Dwi'n meddwl mai'r sbectols neu'r aeliau yw e," meddai Emma ar BBC Radio Wales.
"Mae gen i sianel YouTube, Quakerology, a dwi ar TikTok, yn siarad â phobl am eu siwrne â ffydd.
"O'n i'n siarad am Andy Burnham a'i ffydd Gatholig, ac oedd pobl yn dweud 'Dwi ddim yn gwrando, ti'n edrych fel Andy Burnham!'."
Mae rhai o fideos Emma bellach wedi mynd yn feiral, gyda channoedd ar filoedd o wylwyr, ac mae hi'n amlwg yn hoffi dipyn o jôc, achos ei bod hi dechrau cyfeirio at ei hun yn ei fideos fel ei henw newydd mabwysiedig, 'Mandy'.
Dipyn bach o hwyl yw e, meddai Emma, a dydy hi ddim yn meindio'r sylw gan fod y Prif Weinidog yn ymddangos fel "boi deche".
Y gobaith i Emma nawr yw i gael sgwrs gydag Andy Burnham ar ei sianel, i drafod ei ffydd – "Andy a Mandy - byddai hynny'n wych."
Tybed oes gan Brif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, doppelgänger allan yno yn rhywle?!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
