Cyngor Gwynedd i gadarnhau a ydyn nhw am gau ysgol leiaf y sir

Dau ddisgybl sy'n mynychu Ysgol Y Garreg, ac mae'r ddau yn mynd i'r ysgol uwchradd eleni
- Cyhoeddwyd
Bydd cabinet Cyngor Gwynedd yn gwneud penderfyniad terfynol ddydd Mawrth ar gau ysgol leiaf y sir.
Dim ond dau ddisgybl sy'n mynychu Ysgol Y Garreg yn Llanfrothen, a bydd y ddau yn mynd i'r ysgol uwchradd eleni.
Mae'r cabinet eisoes wedi cyhoeddi fis Chwefror mai eu bwriad oedd cau'r ysgol dros yr haf.
Ond roedd yn rhaid cyhoeddi hysbysiad statudol 28 diwrnod i bobl gael lleisio eu barn cyn y byddai modd cadarnhau hynny.
Y disgwyl yw y bydd y penderfyniad yn cael ei gymeradwyo ddydd Mawrth, gyda'r ysgol i gau ar 31 Awst.
Bydd disgyblion y dalgylch yn mynychu Ysgol Cefn Coch ym Mhenrhyndeudraeth - ychydig dros ddwy filltir i ffwrdd.
Cyngor Gwynedd yn bwrw 'mlaen gyda chau ysgol â dau ddisgybl
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
Trafod cau ysgol gynradd sydd â dau ddisgybl yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
Yn ôl dogfennau Cyngor Gwynedd, roedd 22 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol yn 2021 ac 17 o ddisgyblion yn Ionawr 2025, ond mae niferoedd wedi gostwng yn sylweddol ers hynny.
Ar hyn o bryd, mae pennaeth dros dro yn rhannu dyletswyddau rhwng Ysgol Y Garreg ac ysgol arall drwy drefniant anffurfiol.
Mae un athro a chymhorthydd rhan amser yn gweithio yn yr ysgol.
Cyfartaledd cost fesul dysgwr yn Ysgol Y Garreg yw £14,621, o gymharu â'r cyfartaledd sirol o £5,780.
Mae'r ddau ddisgybl sy'n mynychu'r ysgol ym mlwyddyn 6, sy'n golygu na fyddai unrhyw blentyn ar y gofrestr o fis Medi ymlaen beth bynnag.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.