Gŵyl y Gelli fel 'pont rhwng Cymru a gweddill y byd'

Mae prif weithredwr byd-eang Gŵyl y Gelli, Julie Finch am ddathlu Cymry drwy gydol eu dathliadau dros y flwyddyn nesaf
- Cyhoeddwyd
Gyda Gŵyl y Gelli arall newydd ddirwyn i ben mae'r sefydliad yn edrych ymlaen at flwyddyn fawr o'u blaenau gan obeithio "pontio Cymru a gweddill y byd" wrth ddathlu 40 mlynedd.
Cafodd yr ŵyl, sy'n elusen ddiwylliannol boblogaidd, ei sefydlu yn Y Gelli Gandryll yn 1987 ac maen nhw'n bwriadu cynnal blwyddyn gyfan o ddathliadau yn arwain at y digwyddiad yn 2027.
"Mae yna gymaint i ddathlu," meddai Prif Weithredwr Byd-eang yr ŵyl, Julie Finch "a 'da ni'n sicr am ddathlu Cymru".
Mae'r ŵyl yn gwahodd siaradwyr gwadd a pherfformwyr ar draws y byd i gyd ac eleni roedd rhai o'r enwau mawr yn cynnwys yr ymgyrchydd Gisèle Pelicot, yr actores Emma Thompson a'r digrifwr Dawn French.
Ond mae Ms Finch yn pwysleisio bod hyrwyddo Cymru dal wrth wraidd yr ŵyl: "Mae yna nifer o artistiaid Cymraeg [yma]", meddai.
"Mae siopau Cymreig, cynnyrch Cymreig, bwyd Cymreig a ni'n ymgysylltu â'n Cymreictod fel tref ar y ffin ym mhob ffordd."

Roedd y gweithiwr elusennol, Nazanin Zaghari-Ratcliffe, a gafodd ei charcharu yn Iran am bron chwe blynedd, ymhlith yr enwau mawr yng Ngŵyl y Gelli eleni
Mae'n credu bod Cymru'n gallu creu argraff yn fyd-eang: "Mae ganddi'r cynnig twristiaeth anhygoel yma - mae pobl eisiau ymweld â Chymru.
"Mae'n lleoliad ynddi hi ei hun."
Mae'r ŵyl wedi cyhoeddi partneriaeth newydd eleni gyda sefydliadau yn Norwy er mwyn cynnal gŵyl yno hefyd.
Mae Ms Finch yn credu bod hyn gyfle gwych i hyrwyddo Cymru mewn gwlad newydd a dechrau perthynas newydd sbon.
Ychwanegodd: "Fel sefydliad rhyngwladol rydym mewn sefyllfa wych i allu creu rhyw fath o bont rhwng Cymru a gweddill y byd" a hynny "mewn ffordd gyffrous".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.