Elin Undeg Williams yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn

Elin Undeg WilliamsFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Elin Undeg Williams hefyd enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Elin Undeg Williams o ardal Betws Gwerful Goch, Sir Ddinbych sydd wedi ennill y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.

Mae Elin yn 19 oed, a hi oedd prif ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr y llynedd.

Hi yw'r cyntaf i fod wedi ennill y Fedal Ddrama a'r Goron ers Llŷr Titus (coron 2011 a medal 2012) - un o'r beirniaid eleni.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Lowri Bebb o Gaernarfon, gyda Ffion Eleri Thomas o Fangor yn drydydd.

'Darlun byw a gwreiddiol'

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Betws Gwerful Goch ac Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, mae Elin yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio'r gyfraith a Chymraeg proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae hi'n aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled ac Aelwyd Pantycelyn, ac wedi mwynhau canu gyda nhw ddechrau'r wythnos.

Mae'n diolch i'w chyn-athrawon am eu cefnogaeth amhrisiadwy, ac yn benodol i Dr Eurig Salisbury o adran y Gymraeg Aberystwyth am ei anogaeth, ac i'w theulu am bopeth.

Mae buddugoliaeth Elin yn golygu mai merched sydd wedi ennill y tair prif wobr lenyddol am y tair blynedd diwethaf.

Coron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Myfanwy Jones bod traethau a symbolau Celtaidd Môn "yn themâu cryf yn nyluniad y goron"

Gofynion y gystadleuaeth eleni oedd cyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith creadigol dros 2,500 o eiriau, ar y thema Lloches.

Daeth 14 ymgais i law, gyda'r beirniad Llŷr Titus a Sonia Edwards "yn gweld pob un hefo rhywbeth gwerth ei ganmol ynddynt".

Dywedon nhw am y gwaith buddugol: "Myfyrdodau neuadd bentref sydd yma a'r neuadd honno yn edrych ar ddigwyddiadau'r gymuned o'i chwmpas a'r hyn sydd yn mynd ymlaen ynddi.

"Dyma enghraifft glyfar o 'waliau'n siarad'.

"Mae yma ddychan, beirniadu, anwylo, craffu gwirioneddol a darlun byw, a gwreiddiol o gymuned amaethyddol."

Mae'r cyntaf, ail a thrydydd yn y prif gystadlaethau llenyddol yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru er cof am Olwen Dafydd, drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

Y gemydd Myfanwy Jones sydd wedi dylunio Coron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.

Ar ôl cwblhau gradd mewn dylunio gemwaith ym Mhrifysgol Central Saint Martin yn Llundain, fe wnaeth hi ddychwelyd i Ynys Môn yn 2022 ar ôl 15 mlynedd.

Mae Myfanwy yn creu gemwaith yn defnyddio'r dull arbenigol cerfio cwyr ac mae hi wedi dylunio llawer o emwaith ar gyfer ffilm a theledu, yn ogystal â gweithio ar gomisiynau gemwaith cain.

Mae'r goron eleni yn cynnwys dwy garreg opal a darnau bach o garreg jâd, gyda defnydd melfed gwyrdd ar y tu mewn sy'n cyfleu lliwiau traethau'r ynys.

Rhoddir y goron gan gwmni gosod a gwerthu tai Eiddo Cyf, ac mae mwy o wybodaeth am y goron ei hun ar gael yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.