Glain Llwyd yn ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd

Glain LlwydFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y beirniaid fod Glain Llwyd yn "ddramodydd hynod gyfforddus ac aeddfed"

  • Cyhoeddwyd

Glain Llwyd o Dal-y-bont ger Aberystwyth sydd wedi ennill medal prif ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.

Mae Glain yn 22 oed ac yn byw yng Nghaerdydd ar ôl graddio o gwrs BA Perfformio, Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru.

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn rhan bwysig o'i bywyd ers iddi gystadlu am y tro cyntaf pan yn chwech oed.

Mae'n aelod o Gwmni Theatr yr Urdd ac ym mis Awst bydd yn chwarae un o'r prif rannau yn y sioe gerdd Calon yng Nghanolfan y Mileniwm.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Siriol Haf Ousey o'r Rhyl, gyda Lleucu Angharad Hughes o Lanuwchllyn yn drydydd.

'Chwip o gystadleuaeth'

Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i gael ei llwyfannu mewn gofod theatrig ar gyfer un, dau neu dri pherfformiwr (nid o reidrwydd cymeriadau).

Roedd disgwyl i hyd y cynhyrchiad fod rhwng 15 a 30 munud.

Yn ôl y beirniaid, Gareth Evans-Jones a Mared Llywelyn, daeth 15 ymgais i law "mewn chwip o gystadleuaeth", gyda phob sgript yn "ddiddorol ac yn arbennig" a'r beirniaid wedi mwynhau darllen pob un.

Cafodd y Fedal Ddrama ei rhoi er cof am yr actores a chynhyrchydd Audrey Mechell, gan ei merched Linda a Sandra a'i wyrion Elin, Gwen, Glesni a Cai.

Disgrifiad,

"Fi dal mewn sioc" - Glain Llwyd yn ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd

Bydd gwaith Glain yn cael ei gyhoeddi ar ffurf llyfryn gan Gyhoeddiadau'r Stamp yn syth ar ôl y seremoni.

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y gystadleuaeth yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd, diolch i nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

Fe fyddan nhw hefyd yn cael blwyddyn o fentoriaeth a chyfleoedd datblygu gyda Theatr Cymru, fel Dramodydd Preswyl Ifanc ac yn derbyn hyfforddiant pellach gyda'r BBC.

Dywedodd Glain: "Dwi wedi perfformio ar lwyfannau ers yn ifanc, fel aelod o Theatr Ieuenctid Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, clybiau Drama Arad Goch ac ar lwyfannau Tafwyl a'r Eisteddfod Genedlaethol fel aelod o'r grŵp Diffiniad.

"Hoffwn ddiolch i Mam a Dad am fy annog i gystadlu ac i ysgrifennu, i Miri fy chwaer am roi ei barn onest ar y sgript cyn ei hanfon i'r gystadleuaeth, ac i Jarvis Cocker o Pulp am ysbrydoli fy ffug enw (Jarvis)!"

Dywedodd y beirniaid fod Glain yn "ddramodydd hynod gyfforddus ac aeddfed".

"Mae'r syniad yn syml ond yma ceir datguddiadau graddol, deialog chwareus a llachar.

"Dyma ddrama sy'n chwarae gyda'r dwys a'r difri'n effeithiol ac yn gadael teimlad cynnes, llawn gobaith ar ei ôl, heb fod yn or-sentimental."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.