Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2029 i'w chynnal yng Ngheredigion

- Cyhoeddwyd
Mae'r Urdd wedi cadarnhau y bydd Eisteddfod Genedlaethol 2029 yn cael ei chynnal yng Ngheredigion.
Yn 2029 bydd Prifwyl yr Urdd yn dathlu ei chanfed pen-blwydd wedi i'r Urdd ei hun gael ei sefydlu gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922.
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth aelodau cabinet Cyngor Sir Ceredigion gefnogi'r posibilrwydd o wario hyd at £500,000 i groesawu Eisteddfod yr Urdd i'r sir.
Y tro diwethaf i Geredigion gynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd oedd yn Llanerchaeron, ger Aberaeron yn 2010 a chyn hynny yn Llanbedr Pont Steffan yn 1999.
Nododd adroddiad a oedd gerbron y cynghorwyr bod disgwyl i'r cyngor sy'n cynnal yr ŵyl wneud cyfraniad ariannol o £200,000 tuag at gynnal Eisteddfod yr Urdd.
Ychwanegodd yr adroddiad y byddai angen cyfraniad o hyd at £300,000 er mwyn i'r awdurdod lleol gael presenoldeb ar y Maes yn ogystal ag unrhyw ffioedd cysylltiedig fel cau ffyrdd a chael gwared ar derfynau cyflymder dros dro.
"Felly, fe fyddai angen cyfanswm o £500,000 i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2029," meddai'r adroddiad.

Yn 2010 fe gafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ceredigion ei chynnal yn Llanerchaeron
Ddydd Mercher dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: "Rydym yn falch iawn o glywed bod aelodau Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi cytuno'n ffurfiol i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2029, ar beth fydd blwyddyn arbennig iawn, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant ein prifwyl.
"Llwyddiant yr Eisteddfod yr Urdd gyntaf yng Nghorwen yn 1929 yw'r sylfaen i'r hyn a welwn heddiw, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddychwelyd i Geredigion am y tro cyntaf ers 2010.
"Ein bwriad yw cynnal cyfarfod cyhoeddus ar nos Iau, 18 Mehefin er mwyn dechrau ar y gwaith trefnu ar y cyd â gwirfoddolwyr lleol."

Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn y gynhadledd i'r wasg fore Mercher
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Mae'n achlysur balch iawn i Geredigion gael y cyfle i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn ystod blwyddyn ei chanmlwyddiant, sy'n atgyfnerthu'r gwreiddiau a'r cysylltiadau dwfn sydd gan Ceredigion â'r Urdd.
"Mae'r ŵyl yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r Gymraeg, y celfyddydau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc, ac edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda'r Urdd a chymunedau lleol i wireddu Eisteddfod gofiadwy yn 2029."
Wrth siarad â Cymru Fyw ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Môn, dywedodd ei bod "wastad yn her" o ran meddwl am yr arian sydd angen ei godi.
"Ond mae'n fwy na'r elfen ariannol achos mae'n dod â chymunedau at ei gilydd i greu pethau diwylliannol a chymdeithasol hefyd.
"Ond fel 'dwi wastad yn dyfynnu, 'Nid yw dwrn y cardi'n dynn a'i gyfoeth pan fo'r gofyn!"
'Cydweithio'n hollbwysig'
Dywedodd Sian Lewis, prif weithredwr yr Urdd, fod y mudiad yn "gyffrous tu hwnt ac yn falch fod Cyngor Ceredigion wedi estyn allan a'n fodlon cydweithio gyda ni ar gyfer 'Steddfod y canmlwyddiant".
"Mae'r Eisteddfod wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf, y bwriad bydd sicrhau bod y 'Steddfod 100 mlwyddiant yn un sbesial."
Ychwanegodd bod y "cydweithio yn hollbwysig oherwydd 'da ni angen yr arian, ac mae'r Cardis yn rhoi eu dwylo yn eu poced i gefnogi gweledigaeth o sicrhau bod y 'Steddfod canmlwyddiant yn mynd i fod yn sbesial, sbesial iawn i bawb".
"Heb os, ro'n i'n meddwl mai dyma'r lle gorau i fynd oherwydd mae'n ganolog hefyd i bob un gobeithio gallu teithio a sicrhau bod hwnna'n mynd i fod yn un i'w gofio."
Meddai Helen Medi, cadeirydd Rhanbarth Ceredigion yr Urdd: "Mae pwyllgor rhanbarth Ceredigion yn llawenhau o glywed y newyddion cyffrous fod yr wŷl yn dychwelyd i'r sir yn 2029.
"Pa le gwell i ddathlu canfed pen-blwydd yr Eisteddfod nag yng nghwmni'r Cardis?!
"Rydym yn awchu i ddechrau ar y gwaith o gydweithio gyda'r holl randdeiliaid er mwyn sicrhau y cyfleodd a'r profiadau gorau i'n plant a'n pobol ifanc."

Mae Alaw Beechey, Alun Jones a Jennifer Crees yn awyddus i weld yr Eisteddfod yn dod i ardal Aberystwyth
Dyw lleoliad yr Eisteddfod o fewn y sir ddim wedi cael ei benderfynu eto, ond dywedodd rhai pobl a busnesau yn Aberystwyth eu bod yn gobeithio y bydd yn cael ei gynnal yn agos at y dref.
Cafodd y newyddion ynglŷn ag Eisteddfod 2029 ei groesawu gan Alaw Beechey, sy'n gweithio yn Siop Inc yn Aberystwyth.
"Dwi'n meddwl bod hi'n newyddion brilliant clywed bod hi'n dod i Geredigion," meddai.
"Mae'n 'Steddfod bwysig, 100 mlynedd, a grêt bydd y dathlu yma yng Ngheredigion."
Roedd Alun Jones, sy'n gweithio mewn siop cigydd yn Aberystwyth, wedi gweld y newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Good news!" meddai. "Gobeithio ddaw hi yn agos i Aberystwyth, gobeithio.
"Tipyn bach o help gyda'r busnes ac ar gyfer y bobl leol."
Dywedodd Jennifer Crees, oedd yn cerdded ei chi Muffin: "Bydd yn neis i gael hi yma yng Ngheredigion i fynd i weld hi oherwydd i deithio lan i Ynys Môn yn y tywydd yma, no joy!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.