Gwagio tai wrth i griwiau ddelio â thân sied mawr yn Nhreharris

Yn ôl adroddiadau mae mwg o hyd yn yr ardal, ond mae'r fflamau bellach wedi cilio
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi ym Merthyr Tudful wrth i'r gwasanaethau brys ymateb i dân sied.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod "yn delio â digwyddiad mawr" yn Heol Fictoria, Treharris.
Yn ôl Heddlu De Cymru, mae sawl eiddo wedi cael eu gwagio a bod trigolion wedi cael eu cludo i neuadd gymunedol leol.
Mae dwy stryd arall ar gau - Heol Mary a Heol Thomas - ac mae yna gyngor i drigolion lleol gadw drysau a ffenestri ar gau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 15:20 brynhawn Sul yn dilyn adroddiadau o dân yng ngardd eiddo yn Heol Fictoria.
Mae criwiau tân wedi eu hanfon yno o Aberbargoed, Pontypridd, Merthyr Tudful, Caerffili a Maendy, ynghyd â thri thanc dŵr.
Ychwanegodd y gwasanaeth tân bod "plu mawr o fwg i'w gweld yn yr ardal" ac y dylai pobl osgoi'r ardal "i adael i'r gwasanaethau brys weithio'n ddiogel a chadw lonydd yn glir".
Does dim lle i amau fod unrhyw un wedi cael niwed.
'Eitha' brawychus'
Dywedodd Andrea Parfitt, sy'n byw yn Heol Thomas dros y ffordd i safle'r tân, mai'r cyntaf y gwyddai bod yna dân oedd pan ogleuodd fwg a chau ei ffenestri.
"Mae yna lot o fwg ac roedd yna lot o fflamau," dywedodd.
"Mae'r fflamau wedi cilio ac mae'n edrych fel bod y brigâd dân bellach wedi gallu mynd i'r adeilad.
"Neuadd Ambiwlans San Iawn oedd yr adeilad - mae'n cael ei ddefnyddio fel storfa nawr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Fictoria, Treharris ganol prynhawn Sul
"Mae rhai o'r cymdogion wedi gadael eu cartrefi. Mae yna lot o fwg o hyd yn y stryd.
"Roedd yn eitha' brawychus - ro'n i rhwng dau feddwl gadael trwy fy nrws cefn.
"Ddois i adref o dŷ Mam ac ro'n i'n gallu ogleuo mwg a gweld y fflamau.
"Dydw i ddim yn ymwybodol os yw e wedi effeithio ar unrhyw dai ond mae'r holl erddi yn cefnu ar ei gilydd."
Dywedodd cynghorydd lleol, Gareth Richards, bod tri o drigolion lleol yn y neuadd gymunedol, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan aelodau'r gwasanaethau brys.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.