Cau amgueddfa am flynyddoedd yn 'bosibilrwydd realistig' i wneud gwaith £43m

Mae gwerth £43m o waith atgyweirio angen cael ei wneud ar yr Amgueddfa Genedlaethol, yn ôl penaethiaid - £13m o hwnnw ar frys
- Cyhoeddwyd
Mae'n "bosibilrwydd realistig" y gallai'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd gau am hyd at bedair blynedd ar gyfer gwaith atgyweirio, yn ôl pennaeth Amgueddfa Cymru.
Dywedodd Jane Richardson fod angen ystyried "yr holl opsiynau", ond y bydd penderfyniad yn debygol o gael ei wneud cyn diwedd y flwyddyn.
Ychwanegodd ei bod hi'n "wyrth" fod yr adeilad ar agor o wythnos i wythnos, a bod gwerth £43m o waith atgyweirio sydd angen ei wneud i "bob ystafell, pob to".
Mae undeb y PCS, sy'n cynrychioli gweithwyr yr amgueddfa, wedi galw am sicrwydd na fydd diswyddiadau gorfodol yn digwydd fel rhan o'r cynllun adnewyddu.
'Pob ystafell, pob to'
Mae Amgueddfa Cymru'n gyfrifol am wyth o safleoedd ar draws y wlad, gan gynnwys lleoliadau twristaidd poblogaidd fel Sain Ffagan a'r Amgueddfa Lofaol.
Un arall o'r rheiny yw'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, sy'n cynnwys celf gan artistiaid byd enwog ac arddangosfeydd arbennig gan gynnwys ar hanes Cymru.
Ond mae'r adeilad ei hun mewn cyflwr difrifol, meddai prif weithredwr Amgueddfa Cymru mewn cyfweliad arbennig gyda BBC Cymru.
"Dan ni wedi bod yn 'neud gwaith dros y dair blynedd ddiwethaf, ond maen nhw just yn trwsio rhai manylion a dweud y gwir," meddai Jane Richardson, sydd wedi bod yn y swydd ers 2023.

Yn ôl Jane Richardson dim ond 30% o ofod yr adeilad presennol sydd ar gael i'w ddefnyddio ar gyfer arddangosiadau cyhoeddus
"Rŵan 'dan ni angen rhaglen drwy'r holl adeilad, pob ystafell, pob to.
"Felly mae'n raglen fawr, ond mae'n gyfle mawr hefyd, achos os 'dan ni'n 'neud gwaith ar y scale yna, mae'n gyfle i ailfeddwl holl brofiad yr ymwelwyr i'r adeilad."
Ychwanegodd y gallai'r holl waith sydd angen ei wneud gostio £43m, gydag £13m o hwnnw'n waith sydd angen ei wneud ar frys.
Roedd adroddiadau fis diwethaf y gallai hynny olygu cau'r adeilad am bedair blynedd, ac mae Ms Richardson yn cydnabod fod hwnnw'n "bosibilrwydd realistig".
Arddangosfa yn dathlu'r arlunydd 'ysbrydoledig' Gwen John
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
'Angen cadw holl rannau amgueddfeydd Cymru am ddim i bawb'
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2025
"Rhaid i ni feddwl am yr holl opsiynau, a bydd y bwrdd yn cymryd penderfyniad ar hynny yr hydref," meddai.
"Ond mae'n bwysig bod yn onest, achos mae'r prosiect yn un mawr.
"Os ti'n meddwl am wneud gwaith yn y tŷ, ac yn gwneud pob 'stafell, rhaid i ti feddwl os wyt ti am aros yn byw yn yr adeilad, neu byw yn rhywle arall am amser byr."
Amgueddfa 'ar y lôn'
Bu'n rhaid i'r Amgueddfa Genedlaethol gau am rai dyddiau ym mis Chwefror ar gyfer gwaith cynnal a chadw brys, ac yn ôl Ms Richardson, mae angen gweithredu cyn i hynny ddod yn batrwm cyson.
"Mae gyda ni cymaint o broblemau yma... pob wythnos dan ni'n brwydro efo rhyw broblem efo'r adeilad, a phenderfynu gawn ni gario 'mlaen wythnos yma," ychwanegodd.
"Does ganddon ni ddim yr holl amser yn y byd i benderfynu, felly byswn i'n dweud wnawn ni wybod beth sy'n digwydd yn union cyn blwyddyn nesaf."
Mynnodd na fyddai mynediad at ddiwylliant yng Nghymru yn dioddef o ganlyniad i gau'r adeilad dros dro, gan gyfeirio at yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis fel esiampl.

Mae bron pob twll a chornel o adeilad yr Amgueddfa Genedlaethol angen gwaith adnewyddu arno bellach, yn ôl penaethiaid
Mae'r safle hwnnw wedi bod ar gau ers 2024 ac yng nghanol proses adnewyddu gwerth £21m fydd yn golygu ailagor yn 2028, i gyd-fynd â statws treftadaeth byd ardaloedd llechi Gwynedd.
Mae'r amgueddfa honno wedi bod yn cynnal arddangosfeydd symudol yn ystod y cyfnod, rhywbeth allai gael ei efelychu gyda chasgliadau'r Amgueddfa Genedlaethol.
"Dydi diwylliant ddim wedi cyfyngu i bedair wal," meddai Ms Richardson. "Mae diwylliant yn rhywbeth byw, ac mae'n fyw ledled Cymru.
"Mae ganddon ni 5.3 miliwn o eitemau yn ein casgliad ni, gan gynnwys dros 40,000 o weithiau celf.
"Felly os 'dan ni'n gorffen efo'r opsiwn o gau'r adeilad yma, mi fyddan nhw ar y lôn eto, yn rhannu diwylliant Cymru efo pobl Cymru."
Rhys Mwyn yn rhoi eitemau eiconig Yr Anhrefn i Amgueddfa Cymru
- Cyhoeddwyd23 Mai
Beibl a oroesodd drychineb Aberfan yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
Hen ffotograffau sy'n dangos bywyd yng Nghymru yn yr 1800au
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2025
Bydd achos busnes nawr yn cael ei gyflwyno yn yr hydref i Lywodraeth Cymru, sy'n ariannu rhan helaeth o gyllid Amgueddfa Cymru.
Mae disgwyl i gyfran sylweddol o'r arian ar gyfer adnewyddu ddod o goffrau'r llywodraeth, ond fe ddywedodd Ms Richardson y byddai'r amgueddfa hefyd yn chwilio am nawdd neu roddion allanol.
Ac mae undeb y PCS (Public and Commercial Services Union), sy'n cynrychioli 188 o staff yr amgueddfa, eisiau sicrwydd am swyddi'r gweithwyr.
"Mae unrhyw brosiect i uwchraddio'r adeilad yng Nghaerdydd yn mynd i orfod digwydd mewn partneriaeth gyda'r undebau, yn ein barn ni," meddai eu llefarydd, Doug Jones.
"Os bod ni'n mynd i sicrhau fod y sefydliad yma am y 100 mlynedd nesaf, mae angen i'r staff sy'n gofalu am yr eitemau, eu diogelu, a'u cyflwyno i bobl, fod wrth galon y prosiect.
"Dan ni eisiau addewid bod dim diswyddo gorfodol yn mynd i ddigwydd... a bod telerau gwaith pobl yn cael eu hamddiffyn."
'Sefyllfa argyfyngus'
Dywedodd Jane Richardson y byddai Amgueddfa Cymru'n parhau i ymgynghori â staff ac undebau, ond y byddai cyfleoedd "cyffrous" i weithwyr gyfrannu at wedd newydd yr adeilad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gwaith sydd ei angen ar yr amgueddfa yn dangos y "sefyllfa argyfyngus mae'r llywodraeth hon wedi etifeddu pan mae'n dod at asedau diwylliannol Cymru".
Ychwanegodd llefarydd eu bod eisoes wedi darparu £4.8m ar gyfer gwaith atgyweirio brys, ac y byddai trafodaethau'n parhau ar gyfer rhagor yn y dyfodol.
"Bydd unrhyw benderfyniadau ar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ond yn gallu cael eu gwneud unwaith y bydd Amgueddfa Cymru wedi datblygu achos busnes llawn a chadarn, a bod hwnnw wedi ei asesu'n drylwyr a'i gymeradwyo'n ffurfiol drwy'r prosesau priodol," meddai.
"Bydd hyn yn sicrhau bod y cynigion yn fforddiadwy a bod modd eu cyflawni gyda'r holl gyllid yn ei le."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.