Cwmni marchnata Orchard yn mynd i'r wal ar ôl 16 mlynedd

Mae swyddfa'r cwmni wedi'i leoli ger gorsaf Caerdydd Canolog
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni marchnata a chyfathrebu Orchard yn cael ei ddiddymu, gan feio "marchnad sy'n crebachu a chystadleuaeth gynyddol".
Wedi'i leoli ar Trade Street yng Nghaerdydd, mae'r cwmni wedi bod yn gweithio gyda Menter Caerdydd ac S4C ers bron i 10 mlynedd yn ffilmio Tafwyl ar gyfer darlledu ar y teledu a sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Maen nhw hefyd wedi gweithio gyda Netflix, Dŵr Cymru, Principality a Thrafnidiaeth Cymru ac eraill yn y gorffennol.
Cafodd Orchard ei sefydlu yn 2010, a'r gweithwyr sydd wedi bod yn berchen arno ers 2024.
Mae'r cwmni'n darparu gwasanaethau cyfathrebu, strategaeth, gwaith creadigol, creu cynnwys, digwyddiadau a brandio.
Dywedodd y bwrdd rheoli eu bod wedi dod i'r "penderfyniad anodd i roi'r gorau i fasnachu ac wedi cyfarwyddo Menzies LLP i roi'r cwmni yn nwylo'r diddymwyr".
Ychwanegodd y cwmni "nad oedd maint ac ansawdd ein gwaith bellach yn gynaliadwy".
"Bydd Menzies LLP yn cysylltu â'r holl gleientiaid a chyflenwyr perthnasol cyn gynted â phosibl.
"Hoffem ddiolch i'n cleientiaid, ein cyflenwyr a'n partneriaid am eu cefnogaeth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.