'Hynod annhebygol' cael sector cyhoeddus sero net erbyn 2030 - adroddiad

- Cyhoeddwyd
Mae corff gwarchod gwariant wedi beirniadu'r diffyg cynnydd y mae sefydliadau'r sector cyhoeddus wedi ei wneud er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Mae "datgarboneiddio" wedi dod yn llai o flaenoriaeth i gyrff cyhoeddus ers i Lywodraeth Cymru ddatgan "argyfwng hinsawdd" yn 2019, yn ôl Archwilio Cymru.
Dywedon nhw fod llawer o newidiadau cadarnhaol ond ei bod hi dal yn annhebygol y bydd yr "uchelgais gyfunol" am sector cyhoeddus "sero net" yng Nghymru erbyn 2030 yn cael ei chyflawni.
Amcangyfrifir y byddai'n costio o leiaf £2.3 biliwn i ddatgarboneiddio adeiladau cyngor Cymru yn unig.
Mae sero net yn golygu cydbwyso faint o nwyon "tŷ gwydr" sy'n cael eu cynhyrchu gan weithgareddau dynol gyda faint sy'n cael ei dynnu o'r atmosffer.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod "uchelgais 2030 wedi ysgogi gweithredu ac arweinyddiaeth, ond mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud".
'Llai o flaenoriaeth i gyrff cyhoeddus'
Yn ôl Archwilio Cymru mae'r canfyddiadau newydd yn disodli eu hadroddiad yn 2022.
Yn yr adroddiad newydd, maen nhw'n dweud bod cyrff cyhoeddus ym mhob sector yn cydnabod bod datgarboneiddio yn bwysig.
Ond ers 2022, "mae datgarboneiddio bellach yn llai o flaenoriaeth i gyrff cyhoeddus, yn rhannol oherwydd pwysau ariannol".
Mae beirniadaeth o Lywodraeth Cymru, gyda'r adroddiad yn dweud bod yr "uchelgais gyfunol wedi bod yn ysgogiad i weithredu ond mae wedi'i diffinio'n wael".
Dywedodd Archwilio Cymru eu bod wedi cael gwybod gan gyrff cyhoeddus fod cyllid Llywodraeth Cymru yn aml ar gyfer y tymor byr sy'n ei gwneud hi'n "anodd cynllunio a chyflawni rhaglenni datgarboneiddio tymor hir".
Mae'r corff yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru egluro a chefnogi'r cyfeiriad strategol, gwella eu prosesau o ran adrodd ar allyriadau carbon a chefnogi cynllunio ariannol gwell.
Dywedodd Ann-Marie Harkin o Archwilio Cymru: "Gallwn restru enghreifftiau cadarnhaol, ond nid oes digon o gynnydd wedi cael ei wneud ar y cyfan, ac mae'n ddyletswydd arnom i wneud yn well er mwyn cenedlaethau'r dyfodol."
Darganfod chwilen brin 'anhygoel' am y tro cyntaf ers 60 mlynedd
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Cynlluniau i wahardd peilonau dur a bwriad i osod ceblau o dan y ddaear
- Cyhoeddwyd23 Hydref
Bwriad i addasu awyrennau milwrol i frwydro tanau gwyllt
- Cyhoeddwyd23 Hydref
Yn 2017, galwodd y Llywodraeth Lafur ar y pryd am sector cyhoeddus net sero erbyn 2030, gan ddweud bod cyrff cyhoeddus mewn "sefyllfa unigryw" i ddylanwadu ar allyriadau mewn meysydd fel adeiladau a thrafnidiaeth.
Y syniad oedd, pe bai cyrff cyhoeddus yn gwneud y newid ac yn buddsoddi mewn seilwaith fel cerbydau trydan, pŵer adnewyddadwy a systemau gwresogi, y byddai'n ei gwneud hi'n haws ac yn rhatach i'r cyhoedd wneud yr un peth yn y pen draw.
Nid yw'r "uchelgais gyfunol" yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob corff cyhoeddus gyrraedd sero net erbyn 2030 ond mae'n gosod disgwyliad eu bod yn cyfrannu at leihau allyriadau.
'Mwy o waith i'w wneud'
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sector cyhoeddus net sero yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
"Rydym am barhau i gefnogi datgarboneiddio'r sector cyhoeddus i ostwng allyriadau, biliau ynni a chryfhau diogelwch ynni.
"Mae uchelgais 2030 wedi sbarduno gweithrediad ac arweinyddiaeth, ond mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud ar ddatgarboneiddio ar draws a thu hwnt i'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
"Byddwn yn nodi ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol ar gyfer gweithredu hinsawdd y sector cyhoeddus maes o law, gan dynnu ar y canfyddiadau a'r argymhellion gwerthfawr a nodir yn adroddiad Archwilio Cymru."

Mae lleihau allyriadau yn golygu troi o lo, olew a nwy i ffynonellau ynni glanach fel pŵer gwynt a solar
Mae llywodraeth Plaid Cymru wedi dweud ei bod hi'n uchelgais i Gymru gyrraedd sero net erbyn 2040 – sydd 10 mlynedd yn gynt na'r targed cyfreithiol i Gymru a'r DU.
Yn ymarferol, mae lleihau allyriadau yn golygu newid i raddau helaeth o lo, olew a nwy i ffynonellau ynni glanach fel pŵer gwynt a solar.
Mae hefyd yn cynnwys defnyddio technolegau gwyrdd fel cerbydau trydan a phympiau gwres yn lle ceir petrol neu ddisel a boeleri nwy.
Ond nid yw'n bosib dileu'r holl allyriadau – er enghraifft yr allyriadau sy'n dod o amaethyddiaeth ac awyrennau.
Felly mae angen cyfateb yr allyriadau sy'n weddill â phethau fel plannu coed ychwanegol, adfer mawndiroedd neu ddefnyddio peiriannau i dynnu CO2 allan o'r awyr.
Ond mae cyfyngiadau i'r technegau "tynnu carbon" hyn o ran graddfa a chost.
Dyna pam mae'r rhan fwyaf o'r ffocws ar leihau allyriadau'n sylweddol yn y lle cyntaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.