Cannoedd o siarcod marw wedi'u canfod ar draethau Cymru

Siarcod ar y traethFfynhonnell y llun, Pauline Morris
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Pauline Morris fod yr olygfa yn "syfrdanol i'w weld, oherwydd ei faint"

  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o siarcod marw a physgod eraill wedi cael eu canfod ar draethau yng Nghymru dros y dyddiau diwethaf.

Daeth Pauline Morris o hyd i rwyd lawn o bysgod marw wrth fynd â'i chŵn am dro ar draeth Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sadwrn.

Dywedodd Pauline, sy'n dod o Aberdâr, ei bod yn "erchyll gweld" y golygfeydd.

Yr wythnos diwethaf daeth cerddwr arall o hyd i bentwr o fywyd môr marw ar draeth Saundersfoot yn Sir Benfro.

'Syfrdanol i'w weld'

Dywedodd Pauline, sy'n 65 oed ac yn gweithio fel nyrs yn Ysbyty Cwm Cynon yn ardal Aberpennar, fod yr olygfa yn "syfrdanol i'w weld, oherwydd ei faint".

"Roedd pysgod a siarcod mewn rhwyd fawr dros ardal eithaf mawr," meddai.

"Dwi ddim yn gwybod a oedden nhw wedi dod yn rhydd o long dreillio neu wedi cael eu taflu oherwydd nad oedden nhw eisiau nhw."

Yn ôl sylfaenydd Sea Trust Wales, Cliff Benson, roedd llawer o'r pysgod yn debygol o fod yn gath-siarcod.

Dywedodd ei fod wedi rhoi gwybod i Gyfoeth Naturiol Cymru am y rhai oedd wedi'u darganfod yn Saundersfoot ar ôl gweld lluniau o'r pysgod ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Gallai'r pysgod fod wedi dod o long dreillio," meddai.

Siarcod ar y traethFfynhonnell y llun, Pauline Morris

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru nad oedd y pysgod ar draeth Pen-bre wedi cael eu hadrodd iddyn nhw, ond ei bod yn ymddangos fel bod y pysgod wedi'u taflu neu'n rhan o ddalfa goll.

Ychwanegodd llefarydd fod swyddog wedi ymweld â thraeth Saundersfoot ond nad oedd olion o'r pysgod yno erbyn hynny gan eu bod wedi cael eu golchi yn ôl i'r môr.

"Fe wnaethon ni ymchwilio i adroddiadau o bysgod marw yn Saundersfoot ac ni chafwyd tystiolaeth o ddigwyddiad llygredd," meddai'r llefarydd.

"Mae'n debygol mai morgi yw'r pysgod, ac mae hyn yn debygol o fod yn gysylltiedig â dalfeydd pysgota yn cael eu taflu'n ôl i'r môr."

Ychwanegodd fod y llanw wedi "clirio'r rhan fwyaf o'r pysgod oddi ar y lan" ac nad oedd unrhyw "effaith amgylcheddol ehangach" wedi'i nodi.

"Rydym wedi hysbysu'r awdurdod lleol a phartneriaid perthnasol."

Mae cynghorau Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig