Caernarfon mewn ras i godi £50,000 erbyn yr haf i chwarae yn Ewrop

Mae gwaith sylweddol ar yr Oval yng Nghaernarfon wrth i'r maes baratoi i gynnal pencampwriaeth UEFA yr haf yma
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon mewn ras i godi £50,000 erbyn mis Gorffennaf er mwyn gallu chwarae yn Ewrop y tymor nesaf.
Ym mis Ebrill, fe gipiodd y Cofis Gwpan Cymru am y tro cyntaf yn hanes y clwb, gan sicrhau lle yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf.
Ond er mwyn cyrraedd gofynion UEFA ar gyfer y gystadleuaeth mae angen i'r clwb godi arian dros yr wythnosau nesaf i gwblhau gwaith ar eisteddle newydd a fydd yn dyblu capasiti stadiwm Yr Oval.
Mae gwaith gwerth £1m yn mynd rhagddo ers Tachwedd y llynedd i uwchraddio'r safle, gan gynnwys cae newydd.
"Mae rhannau o'r eisteddle wedi cyrraedd ond 'da ni angen y £50,000 i orffen petha' off. Heb hynna fyddan ni methu chwarae yn Ewrop," meddai cadeirydd y clwb, Paul Evans.

Mae Paul Evans yn gobeithio y byddan nhw'n llwyddo i roi'r eisteddle yn ei le gan y "bydd rhaid i ni gael dwbl" nifer y seddi sydd yno nawr
Yn siarad ar raglen Post Prynhawn fe ddywedodd Mr Evans nad yw'r clwb "yn gallu chwarae yn Ewrop fel ma' petha' oherwydd 'sgennyn ni ddim digon o seddi".
"Genna ni tua 600 o seddi ond er mwyn cael chwarae yn Ewrop yr ha' 'ma gobeithio bydd rhaid i ni gael dwbl hynna felly'r bwriad ydi i roi'r eisteddle yn ei le," meddai.
Y bwriad yw enwi'r eisteddle newydd ar ôl y cyn-chwaraewr, Wyn Davies - yn enedigol o Gaernarfon, ac fe chwaraeodd i rai o glybiau mwyaf Uwch Gynghrair Lloegr, gan gynnwys Manchester United, Manchester City, Newcastle United, a Bolton Wanderers, yn ogystal â Wrecsam.
Bu farw Davies, a oedd yn cael ei alw'n 'Wyn the Leap', y llynedd yn 83 oed.

'Wyn the Leap' yn chwarae i Manchester United yn erbyn Crystal Palace yn 1972
Gyda'r holl waith ailwampio sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn Yr Oval, mae'r tîm wedi gorfod chwarae eu holl gemau cartref y tymor hwn 30 milltir i ffwrdd yn Llandudno.
"Y peth mwya' oedd y cae ei hun. Oedd 'na slope naw troedfedd o un ochr y cae i'r llall felly fysa ni byth wedi gallu chwarae yn Ewrop efo cae efo gymaint o slope," meddai Mr Evans.
"Felly wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ofyn i ni os fysa ni yn hoffi iddyn nhw roi arian i mewn i sortio allan y slope ond hefyd i godi'r cyfleusterau i safon fysa'n galluogi twrnamaint dan-19 Ewrop gael ei chynnal yn Yr Oval yr ha' 'ma.
"Mae'r CBDC wedi buddsoddi dros £1m a 'da ni'n ddiolchgar iddyn nhw ac wrth gwrs i Noel Mooney sy'n rhedeg y sioe yna."
Ychwanegodd y bydd mwy o gemau yn gallu cael eu chwarae ar y cae newydd ac y bydd mwy o bobl yn cael y profiad o chwarae yn Yr Oval o ganlyniad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai

- Cyhoeddwyd12 Ebrill

- Cyhoeddwyd13 Ebrill
