Biliau ynni i godi yn sgil effaith y rhyfel yn Iran

Bydd cost nwy yn codi 24% am dri mis o ddechrau Gorffennaf - 5% yn achos trydan - ond bydd dim newid yn nhaliadau sefydlog
- Cyhoeddwyd
Bydd y cap ar bris ynni'n codi 13% o fis Gorffennaf, gan adlewyrchu am y tro cyntaf effaith y rhyfel yn Iran ar y marchnadoedd rhyngwladol.
Mae hynny'n gyfystyr â chynnydd o £18 y mis ar gyfartaledd yn achos aelwydydd heb gytundeb sefydlog gyda'u darparwr sy'n defnyddio nwy a thrydan.
Yn ôl y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, fe fydd aelwyd â'r defnydd nodweddiadol o nwy a thrydan yn talu £1,862 y flwyddyn - cynnydd o £221.
Mae'r cynnydd, medd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth "yn gwbl anfforddiadwy".
Ond mae pryder y gall lefel y cap godi eto ym mis Hydref os na fydd cytundeb i ddod â'r gwrthdaro i ben ac ailagor Culfor Hormuz fel bod tanceri'n gallu ailddechrau cludo cyflenwadau olew a nwy.
Bil tanwydd cwmni cludo yn codi £64,000 yr wythnos yn sgil rhyfel Iran
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
Mae'r cap yn gosod uchafswm o ran faint gall cyflenwyr godi ar gwsmeriaid am bob uned o nwy a thrydan dan gytundebau newidiol.
Dyw'r cap ddim yn effeithio ar yr oddeutu 40% o gwsmeriaid sydd ar gytundebau sefydlog, ble does dim newid ar y pris nes ddiwedd y cytundeb.
Mae'r cynnydd o 13% yn unol â'r hyn yr oedd y sector wedi ei ddisgwyl, yn ôl yr arbenigwr ar y diwydiant olew Dr Carol Bell.
"Y'n ni'n teimlo nawr beth sydd wedi digwydd yn benodol i brisiau nwy ar y farchnad ryngwladol oherwydd bod Culfor Hormuz wedi bod ar gau," dywedodd ar raglen Dros Frecwast.
Un cysur, meddai, yw bod pobl yn defnyddio llai o ynni yn gyffredinol yn ystod tri mis yr haf.
"Y'n ni'n defnyddio llai i wresogi ein tai, falle bod ni'n defnyddio mwy ar fans a pethe felly... ond y'n ni yn defnyddio ryw 7% yn llai dros yr haf o ran ynni na beth y'n ni'n 'neud yn y gaeaf.
"Felly er bod y pris wedi mynd lan, trwy drugaredd y'n ni'n wynebu hynny dros yr haf, nid dros y gaeaf."

Mae 20% o gyflenwadau olew a nwy y byd yn cael ei gludo trwy Gulfor Hormuz
Mae Dr Bell yn croesawu adolygiad Ofgem o ran nodi defnydd "nodweddiadol" o ynni, sy'n adlewyrchu'r ffaith bod pobl wedi cwtogi ar yr hyn maen nhw'n ei ddefnyddio yn y blynyddoedd diwethaf.
"Maen nhw wedi tynnu hwnna i lawr o 7% o ran trydan a 17% yn llai o ran nwy," meddai.
"Mae hynna'n beth da ac o ganlyniad i hyn bydd lefel y cap yn cael ei newid tro nesa' i adlewyrchu hyn.
"Yn od iawn, bydd e'n dod nôl lawr i ble ddechreuon ni, yn £1,663 y flwyddyn ar gyfartaledd.... bydd set o reolau newydd, bydd y goalposts wedi symud, os mynnwch chi, tro nesa' byddan ni'n edrych ar hyn."
Ond mae Dr Bell, fel Ofgem yn rhybuddio bod maint bil unrhyw aelwyd yn ddibynnol ar ddefnydd ynni, yn hytrach na'r pris fesul uned.

Mae cwsmeriaid yn cael eu hannog i gadw golwg ar faint o nwy o thrydan maen nhw'n eu defnyddio er mwyn ceisio gwneud arbedion
Hyd yn oed pe bai cytundeb rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran rŵan hyn, a Chulfor Hormuz yn ailagor yn llawn heddiw, rhybuddia Dr Carol Bell y byddai'n "sbel fawr" cyn i brisiau olew ddychwelyd i lefelau hanesyddol arferol.
"Yn y pen draw, mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd o ddibynnu ar yr olew ffosil 'ma a'r nwy hefyd," meddai.
"Mae'n rhaid i ni ddadgarboneiddio a falle dyma'r cyfle i bawb nawr y tro nesa' byddan nhw'n newid y gwres canolog i feddwl am drydan yn hytrach nag olew neu nwy."
'Mwy'n dioddef tlodi dwys'
Fe fydd cyhoeddiad Ofgem ddydd Mercher yn "gwaethygu" sefyllfa teuluoedd sydd eisoes wedi dioddef trafferthion costau byw ers rhai blynyddoedd, medd Dr Hefin Gwilym, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.
"'Dan ni'n gweld mwy a mwy o bobol sy'n diodde' be' 'dan ni'n galw'n dlodi dwys, sef destitution," dywedodd ar Dros Frecwast.
Mae cynyddu cost ynni, a'r cynnydd dilynol ym mhrisiau nwyddau cyffredinol fel bwyd a thanwydd, yn "mynd i effeithio ar eu gallu nhw i fforddio gwahanol bethe [ac yn] golygu fel rheol gorfod 'neud toriada' yn eu gwariant".
Mae'n bwysig, meddai, "i bobl sylweddoli bod gyda nhw hawliau" ac i gysylltu â'u darparwyr ynni.
"Mae'r cwmnïa' yma wedi rhoid miliyna' o bunna' i mewn i drio helpu pobol sydd yn ca'l problema' talu bilia'."
Mae hefyd yn argymell siarad gydag "arbenigwyr fel Cyngor ar Bopeth" am ffyrdd o ddelio â dyledion ac am gronfeydd i helpu pobl ond mae'n cydnabod bod gwneud synnwyr o'r wybodaeth sydd ar gael ar-lein yn "anodd iawn i berson sydd ddim yn arfer edrych ar y petha' 'ma".

Mewn ymateb i gyhoeddiad Ofgem, dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth: "Mae cynnydd o 13% yn y cap pris ynni yn gwbl anfforddiadwy.
"Rhaid i Lywodraeth y DU wneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn aelwydydd.
"Rwy'n ailadrodd fy ngalwad ar Keir Starmer i gynnull y bedair gwlad i gytuno ar gamau i ostwng y pris ynni cyn pwysau pellach yn yr hydref."
Dywedodd llefarydd ar rhan Llywodraeth y DU wrth y BBC eu bod "yn gwybod y bydd teuluoedd yn pryderu am effaith y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ar eu biliau ynni".
Mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, meddai, "yw prif flaenoriaeth" y llywodraeth.
Mae'r sefyllfa, fe ychwanegodd, "yn wers eto fyth" bod angen i'r DU ddibynnu llai ar danwydd ffosil a defnyddio ynni glân "yr ydym ni yn ei reoli".
Mam o Gaernarfon yn poeni wrth i 'gostau fynd i fyny o bob ongl'
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Biliau dŵr yng Nghymru'n codi unwaith eto ym mis Ebrill
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.