Rhybudd am ragor o stormydd mellt a tharanau ddydd Gwener

- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am ragor o stormydd mellt a tharanau ar gyfer rhannau helaeth o'r wlad.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 12:00 a 21:00 ddydd Gwener.
Dywedon nhw y gallai'r tywydd garw arwain at lifogydd mewn mannau ac fe allai effeithio ar y ffyrdd a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Y disgwyl yw y bydd rhwng 10-20mm o law yn disgyn mewn cyfnod byr o fewn ardal y rhybudd, gyda rhwng 30-40mm yn bosib mewn mannau.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i holl siroedd Cymru ac eithrio Ynys Môn, Caerdydd, Sir Benfro a Bro Morgannwg.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.