Prentisiaethau busnes

Diddordeb mewn adnoddau dynol, rheoli prosiectau, busnes, y gyfraith, cyllid neu farchnata? Bydd prentisiaeth yn un o’r pynciau hyn yn eich helpu i ddysgu’r sgiliau sy’n helpu’r BBC i weithredu fel busnes.

Info: Mae ceisiadau ar gau ar hyn o bryd

Bydd ceisiadau ar gyfer cynlluniau Medi 2027 yn agor ddiwedd hydref 2026.

Bydd y wybodaeth ar y wefan hon yn cael ei diweddaru gyda manylion cynlluniau 2027 pan fydd y ceisiadau’n agor. Sylwch fod y cynlluniau a’r lefelau yn newid bob blwyddyn.


Prentisiaethau Sylfaen

Lefel 2
Datblygu ymddygiadau a sgiliau trosglwyddadwy sy’n ategu’r gwaith o gyflawni amrywiaeth eang o dasgau gweinyddol, gan helpu timau i redeg yn effeithlon ac yn effeithiol.

Uwchbrentisiaethau/ Prentisiaethau uwch

Lefel 3-5
Dysgwch sut mae cefnogi gweithgareddau marchnata sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid a fydd yn helpu i sbarduno’r galw am wasanaethau neu gynnyrch y BBC a datblygu sgiliau o ran cyflwyno mentrau marchnata ar draws amrywiaeth o lwyfannau.
Dysgwch sut mae cefnogi gweithgareddau marchnata sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid a fydd yn helpu i sbarduno’r galw am wasanaethau neu gynnyrch y BBC a datblygu sgiliau o ran cyflwyno mentrau marchnata ar draws amrywiaeth o lwyfannau.
Datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ategu’r gwaith o gyflawni gweithgareddau prosiect eang sy’n galluogi sefydliadau i gyflawni eu nodau busnes.

“Ar ôl gorffen fy arholiadau Lefel A, roeddwn i’n ansicr ynghylch fy nghamau nesaf ac nid oeddwn i’n hollol siŵr taw mynd i’r brifysgol oedd y dewis iawn i mi. Mae’r cyfle hwn yn y BBC wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’n sicr wedi bodloni fy nisgwyliadau, ac wedi rhagori arnynt.”

Harry, Prentis Rheolwr Prosiect

Prentisiaethau sy’n cyfateb i radd

Lefel 6
Dysgu sut mae rheoli a gweithredu systemau a phrosesau cyfrifyddu a chyllid sy’n ategu penderfyniadau ac amcanion strategol y BBC.

Prentisiaethau ôl-raddedig

Lefel 6-7
Astudiwch ar gyfer eich Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) a chael profiad go iawn yn y gwaith fel rhan o dîm cyfreithiol y BBC. Byddwch eisoes wedi cwblhau gradd yn y gyfraith neu radd nad yw’n gysylltiedig â’r gyfraith, yn ogystal â Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: