Hil a mewnfudo
Gwaddol caethwasiaeth yn Unol Daleithiau America (UDA)
Roedd caethwasiaeth yn America o’r 17eg ganrif tan 1865. Roedd llawer o bobl wedi'u caethiwo yn cael eu gorfodi i weithio ar planhigfaYstâd lle caiff cnydau fel cotwm, siwgr, tybaco a choffi eu tyfu. Yn ystod y caethfasnach dros yr Iwerydd, byddai person wedi'i gaethiwo wedi cael ei orfodi i weithio ar blanhigfa., yn enwedig yn nhaleithiau’r de. Ychydig iawn o hawliau oedd gan bobl wedi'u caethiwo, ac roedd eu hamodau byw a gweithio yn aml yn galed.
Roedd caethwasiaeth yn un o’r prif bethau a achosodd y Rhyfel Cartref yn UDA rhwng 1861 a 1865. Yn 1860, cafodd Abraham Lincoln ei ethol yn arlywydd ac roedd yn gwrthwynebu caethwasiaeth. Roedd taleithiau’r de yn ofni y byddai ethol Lincoln yn bygwth dyfodol caethwasiaeth a’u ffordd o fyw. Felly, ceisiodd y taleithiau hyn adael UDA a sefydlu’r Taleithiau Cydffederal (neu’r Confederacy yn Saesneg). Arweiniodd hyn at ddechrau rhyfel cartref rhwng taleithiau’r gogledd (yr Undeb) a’r Taleithiau Cydffederal.
Ar 1 Ionawr 1863, cyhoeddodd yr Arlywydd Lincoln y Proclamasiwn Rhyddfreinio a oedd yn datgan y byddai pobl a oedd wedi’u caethiwo yn y taleithiau Cydffederal yn cael eu rhyddhau. Fodd bynnag, ni ddaeth hyn â chaethwasiaeth i ben ar unwaith ym mhob man yn UDA. Ar ôl i’r Taleithiau Unedig ennill Rhyfel Cartref America yn 1865, cafodd y 13eg Diwygiad ei gadarnhau, gan ddiddymu caethwasiaeth ar hyd a lled UDA.
Cyfreithiau Jim Crow
Ar ôl diddymu caethwasiaeth yn 1865, roedd llawer o bobl wyn yn nhaleithiau de yr Unol Daleithiau yn gwrthwynebu hawliau cyfartal i bobl Ddu. Cyflwynodd llywodraethau’r taleithiau gyfreithiau oedd yn arwahanuMesurau gorfodol i gadw pobl o wahanol grwpiau ethnig neu hil ar wahân drwy ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus ar wahân, fel ysgolion, llyfrgelloedd ac ystafelloedd aros. ar sail hil mewn sawl agwedd ar fywyd bob dydd.
Roedd pobl yn aml yn cael eu harwahanu mewn ysgolion, parciau, ysbytai, bwytai, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Cyflwynodd llawer o daleithiau’r de brofion llythrennedd a chyfyngiadau eraill a oedd yn ei gwneud yn anodd i lawer o bobl Ddu bleidleisio.
Roedd y cyfreithiau hyn yn cael eu hadnabod fel cyfreithiau Jim Crow. Cawsant eu henwi ar ôl cymeriad llwyfan hiliol a oedd yn cael ei ddefnyddio yn adloniant y 19eg ganrif i wneud pobl Ddu yn destun sbort.
Taleithiau'r gogledd
Rhwng 1916 a 1930, symudodd tua 1.5 miliwn o Americanwyr Du o daleithiau’r de i ddinasoedd yn y Gogledd, fel Chicago ac Efrog Newydd. Y Mudo Mawr yw’r enw ar hyn. Gadawodd llawer y De i osgoi gwahaniaethu ac arwahanu o dan gyfreithiau Jim Crow, ac i chwilio am gyfleoedd gwaith gwell.
Roedd llawer yn gobeithio am fywyd gwell yn y Gogledd. Fodd bynnag, roedd hiliaeth a gwahaniaethu yn dal i fodoli. Roedd Americanwyr Du yn aml wedi’u cyfyngu i swyddi a oedd yn talu llai, ac roedd llawer yn byw mewn cymdogaethau gorlawn, fel Harlem yn Efrog Newydd. Yn 1919, arweiniodd tensiynau hiliol at derfysgoedd a thrais mewn dros 20 o ddinasoedd ar hyd a lled UDA. Cafodd y digwyddiadau hyn eu hachosi gan raniadau hiliol cynyddol o ganlyniad i wahaniaethu a chystadleuaeth am swyddi a thai.
Ffaith bwysig
Weithiau, cyfeirir at 1919 fel yr ‘Haf Coch’ oherwydd y trais hiliol eang a ddigwyddodd ar hyd a lled UDA. Yn ystod y cyfnod hwn, bu ymosodiadau ar lawer o Americanwyr Du a chafodd llawer eu lladd mewn terfysgoedd a digwyddiadau treisgar eraill.
Y Ku Klux Klan (KKK)
Grŵp o oruchafwyr gwyn oedd y KKK a oedd yn credu bod pobl wyn yn well na phobl o hiliau eraill. Cafodd ei sefydlu yn 1865 ar ôl Rhyfel Cartref America. Roedd y grŵp yn hyrwyddo syniadau hiliol ac yn defnyddio trais a bygythiadau yn erbyn pobl Ddu a’r rhai a oedd yn cefnogi hawliau cyfartal.
Roedd y KKK yn gyfrifol am frawychu a thrais gyda’r nod o gynnal arwahanu hiliol a gwrthod hawliau i bobl Ddu. Roedd y rhain yn cynnwys:
- lynsioY term a oedd yn cael ei ddefnyddio am y KKK yn lladd Americanwyr Du yn anghyfreithlon.
- llofruddio ac ymosod yn gorfforol ar bobl Ddu
- rhoi tar a phlu ar bobl
- llosgi bwriadol
- bygwth a chodi ofn
- lledaenu syniadau hiliol drwy bamffledi, papurau newydd a digwyddiadau cyhoeddus
Roedd y KKK yn aml yn gallu osgoi cael eu cosbi oherwydd bod rhai gwleidyddion lleol, swyddogion heddlu a barnwyr naill ai’n cefnogi’r grŵp neu’n peidio â chymryd camau yn erbyn ei aelodau.
Triniaeth Americanwyr Brodorol
Roedd yr Americanwyr Brodorol wedi byw yng Ngogledd America am filoedd o flynyddoedd cyn creu’r Unol Daleithiau. Yn ystod y 19eg ganrif, ehangodd UDA tua’r gorllewin o’i thaleithiau gwreiddiol yn y dwyrain. Cafodd ffermydd, trefi a dinasoedd newydd eu sefydlu ar dir a oedd wedi bod yn gartref i Americanwyr Brodorol ers amser maith.
Roedd llawer o ymsefydlwyr a gwleidyddion UDA o’r farn bod Americanwyr Brodorol yn eu hatal rhag ehangu tua’r gorllewin. O ganlyniad, bu gwrthdaro a thrais yn erbyn llawer o Americanwyr Brodorol, a chawsant eu gorfodi i symud. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd y rhan fwyaf o’r Americanwyr Brodorol yn UDA wedi cael eu gorfodi i fyw ar randiroedd, lle roedd eu bywydau’n cael eu rheoli gan y llywodraeth ffederal.
Hefyd, cyflwynodd llywodraeth UDA bolisïau a oedd â'r nod o cymhathuDod yn rhan o grŵp, diwylliant neu wlad arall. , gan annog Americanwyr Brodorol i gefnu ar eu hieithoedd, eu diwylliant a’u traddodiadau. Cafodd llawer o'u plant eu hanfon i ysgolion preswyl ymhell oddi wrth eu teuluoedd. Roedd yr amodau yn yr ysgolion hyn yn aml yn llym. Roedd plant yn aml yn cael enwau Saesnig, yn cael torri eu gwallt, ac yn cael eu hannog neu eu hatal rhag siarad eu hieithoedd neu ymarfer eu diwylliannau eu hunain.
Yn 1928, fe wnaeth adroddiad gan lywodraeth UDA o’r enw Adroddiad Meriam archwilio effaith y polisïau hyn. Daeth i'r casgliad bod llawer o Americanwyr Brodorol wedi profi tlodi, a phrin oedd eu mynediad at ofal iechyd ac addysg.
Rhoddodd Deddf Dinasyddiaeth yr Indiaid 1924 ddinasyddiaeth UDA i Americanwyr Brodorol. Fodd bynnag, mewn rhai taleithiau, roedden nhw'n dal i wynebu rhwystrau a oedd yn eu hatal rhag pleidleisio.
Mewnfudo newydd
Mae UDA weithiau’n cael ei disgrifio fel ‘gwlad o fewnfudwyr’ oherwydd bod llawer o’r bobl wnaeth ymgartrefu yno wedi dod o rannau eraill o’r byd. Cafodd y trefedigaethau Americanaidd cyntaf eu sefydlu gan fewnfudwyr o Brydain, gan gynnwys Cymru a Lloegr, yn ogystal â'r Iseldiroedd a Ffrainc yn yr 16eg a’r 17eg ganrif. Yn y 19eg ganrif, daeth tonnau mawr o fewnfudwyr o Iwerddon a’r Almaen. Am ran helaeth o’r 19eg ganrif, roedd UDA yn annog mewnfudo a chymharol ychydig o gyfyngiadau oedd ar fewnfudwyr o Ewrop.
Ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, cynyddodd lefelau’r mewnfudo i UDA yn fwy fyth. Daeth llawer o newydd-ddyfodiaid o wledydd yn ne a dwyrain Ewrop, gan gynnwys yr Eidal, Gwlad Pwyl, Rwsia a Gwlad Groeg.
Wrth i fewnfudo gynyddu, dechreuodd rhai Americanwyr gefnogi rheolaethau llymach ar bwy allai ddod i mewn i’r wlad. Roedd y rhesymau dros hyn yn cynnwys:
- nifer cynyddol o bobl yn cyrraedd UDA
- pryderon ynghylch cystadleuaeth am swyddi a thai
- gwahaniaethau o ran iaith, diwylliant a chrefydd rhwng rhai newydd-ddyfodiaid a grwpiau o fewnfudwyr cynharach
- ofnau y gallai mewnfudo achosi mwy o broblemau cymdeithasol, gan gynnwys troseddu
- pryderon am syniadau gwleidyddol fel comiwnyddiaeth yn dilyn digwyddiadau fel Chwyldro Rwsia yn 1917
Penderfynodd y llywodraeth newid ei pholisïau a chyflwyno cyfres o gyfreithiau i gyfyngu ar fewnfudo i UDA, gan gynnwys:
- Fformiwla Tarddiad Cenedlaethol 1921 – Cyfraith a oedd yn cyfyngu nifer y mewnfudwyr i ffigwr penodol pob blwyddyn.
- Deddf Mewnfudo 1924 – Roedd y gyfraith hon yn lleihau'r cwota o fewnfudwyr ymhellach. Ei nod oedd cyfyngu ar fewnfudwyr o dde a dwyrain Ewrop, ac hefyd rhoi cyfyngiadau ar fewnfudo i UDA o Asia.
Y '20au gwyllt
Ffyniant Economaidd y 1920au
Yn ystod y 1920au, cafodd UDA gyfnod o ffyniant economaidd. Ystyr ffyniant yw pan mae gwlad yn mynd yn fwy cyfoethog, lle mae mwy o swyddi, mae busnesau’n gwneud yn dda, ac mae gan bobl fwy o arian i’w wario.
Digwyddodd ffyniant y 1920au am sawl rheswm:
- Roedd UDA wedi dod allan o’r Rhyfel Byd Cyntaf gydag un o'r economïau cryfaf yn y byd. Daeth yn ganolfan ariannol y byd, ac roedd yr arian roeddent wedi'i fenthyca i wledydd eraill yn ystod y rhyfel yn cael ei ad-dalu gyda llog, a oedd yn gwneud UDA yn fwy cyfoethog.
- Roedd gan UDA lawer o adnoddau naturiol fel glo, coed ac olew.
- Roedd ffatrïoedd yn UDA yn defnyddio technegau masgynhyrchuGwneud symiau mawr o’r un cynnyrch yn gyflym ac yn rhad gan ddefnyddio peiriannau a gweithwyr ffatri., a oedd yn sicrhau bod nwyddau’n cael eu cynhyrchu’n gyflym ac yn rhad. Roedd Henry Ford yn arloeswr yn hyn o beth, gan annog ffyniant yn y diwydiant ceir.
- Roedd gan arlywyddion Gweriniaethol bolisïau a elwid yn laissez-faireMae'n cyfieithu i 'gadael i fod' neu 'gadael i'r bobl ddewis'. Polisi'r llywodraeth o ymyrryd cyn lleied â phosibl mewn polisi cymdeithasol ac economaidd. , yn ogystal ag unigolyddiaeth rymusRhyddid personol a chystadleuaeth rydd, a’r syniad y dylai pobl fod yn hunanddibynnol., a oedd yn sicrhau bod y llywodraeth ddim yn atal busnesau rhag gwneud elw.
- Cyflwynodd UDA Dariff Fordney McCumber yn 1922 a oedd yn ei gwneud yn ddrytach i werthu nwyddau o wledydd eraill yn UDA – roedd hyn yn annog pobl i brynu nwyddau Americanaidd.
Fodd bynnag, ni wnaeth pob Americanwr elwa ar y cyfnod hwn o dwf economaidd:
- Roedd ffermwyr ar eu colled oherwydd gorgynhyrchu.
- Roedd llawer o fewnfudwyr yn dal i weithio mewn swyddi â chyflogau isel.
- Roedd rhai diwydiannau hŷn yn ei chael hi’n anodd oherwydd eu bod wedi methu moderneiddio.
- Roedd llawer o Americanwyr Du yn dal i wynebu gwahaniaethu ac arwahanu yn y gwaith.
Adloniant poblogaidd yn y 1920au
Roedd y 1920au hefyd yn oes aur adloniant yn UDA am sawl rheswm:
- Roedd dros 12 miliwn o setiau radio wedi cael eu gwerthu erbyn diwedd y 1920au ac roedd radio mewn nifer fawr o gartrefi ledled UDA.
- Sinema oedd un o’r mathau mwyaf o adloniant poblogaidd. Daeth actorion enwog fel Charlie Chaplin a Clara Bow yn enwau adnabyddus. Roedd ffilmiau’n fud ar ddechrau’r 1920au ond yn 1927 cafodd y talkie cyntaf, o’r enw The Jazz Singer, ei ryddhau.
- Cafodd gweithgynhyrchu, cludo a gwerthu diodydd gydag alcohol ei wahardd yn UDA yn y 1920au. Y gwaharddiadGwahardd alcohol yn UDA, a phasio’r 18fed Diwygiad yn 1920 yn dilyn hynny. oedd yr enw ar hyn. Fodd bynnag, cafodd bariau cudd o'r enw speakeasies eu hagor. Roedd rhain yn leoedd hynod boblogaidd i fynd i yfed a dawnsio.
- Roedd cerddoriaeth Jazz yn boblogaidd iawn. Daeth cerddorion fel Duke Ellington yn enwog iawn.
Adfywiad Harlem
Symudodd llawer o Americanwyr Du i daleithiau gogleddol UDA ar ddechrau’r 20fed ganrif, yn aml i ddianc rhag cyfreithiau Jim Crow yn nhaleithiau’r de.
Daeth ardal Harlem yn Efrog Newydd yn gartref i lawer o Americanwyr Du. Roedd yn ganolbwynt adfywiad diwylliannol yn y 1920au. Byddai cerddorion fel Duke Ellington a Louis Armstrong yn perfformio yn y ‘Cotton Club’ enwog yn Harlem, er bod y clwb yn gwahardd pobl Ddu i raddau helaeth. Yn Harlem, roedd celf, cerddoriaeth a diwylliant Du yn ffynnu.
Diwedd ffyniant
Cwymp economaidd
Wnaeth ffyniant economaiddCyfnod pan mae’r economi’n ehangu ac yn tyfu. y 1920au ddim para yn UDA. Yn 1929, bu cwymp economaidd enfawr. Roedd sawl rheswm pam y digwyddodd hyn, gan gynnwys:
Achosion hirdymor:
- Gorgynhyrchu: Roedd busnesau’n gwneud mwy o nwyddau nag yr oedd pobl eisiau neu’n gallu fforddio eu prynu. O ganlyniad, roedd cwmnïau’n cael trafferth gwerthu eu cynnyrch ac yn colli arian.
- Llai o alw gan ddefnyddwyr: Roedd cyfoeth wedi’i rannu’n anghyfartal yn UDA, felly ni allai llawer o bobl fforddio prynu nwyddau traul. Roedd pobl eraill wedi prynu nwyddau ar gredyd ac eisoes mewn dyled.
- Polisïau Gweriniaethol: Roedd tariffau uchel yn ei gwneud yn anoddach i wledydd tramor werthu nwyddau yn UDA ac yn anoddach i fusnesau Americanaidd werthu nwyddau dramor.
- Diffyg rheoleiddio gan y llywodraeth: Ychydig iawn o reolaeth oedd gan y llywodraeth dros fanciau a’r farchnad stoc. Roedd hyn yn caniatáu i fusnesau a buddsoddwyr gymryd mwy o risgiau.
- Gormod o hapfasnachu: Cododd prisiau cyfranddaliadau i lefelau afrealistig o uchel oherwydd bod buddsoddwyr yn disgwyl i brisiau barhau i godi.
Achosion tymor byr:
- Roedd llawer o bobl wedi prynu cyfranUned ariannol y mae modd ei phrynu i alluogi rhywun i fod yn berchen ar ddarn (cyfran) o gwmni. drwy fuddsoddi canran o’r cyfanswm eu hunain a benthyca gweddill yr arian. Roedd hyn wedi gwthio prisiau cyfrannau hyd yn oed yn uwch.
- Yn ystod hydref 1929, dechreuodd rhai buddsoddwyr werthu eu cyfrannau. Fe wnaeth hyn achosi panig, a dechreuodd llawer o bobl eraill werthu eu cyfrannau hefyd.
- Wrth i fwy o bobl werthu cyfrannau, gostyngodd prisiau’n gyflym.
- 24 Hydref 1929 (‘Dydd Iau Du’): Cafodd 13 miliwn o gyfrannau eu masnachu wrth i fuddsoddwyr ruthro i werthu.
- 29 Hydref 1929 (‘Dydd Mawrth Du’): Cafodd 16.5 miliwn o gyfrannau eu masnachu. Plymiodd prisiau cyfrannau a chollodd llawer o bobl symiau mawr o arian.
- Cwymp Wall Street yw’r enw a gafodd ei roi ar y cwymp hwn ym mhrisiau cyfrannau.
Effaith y Dirwasgiad Mawr
Y Dirwasgiad Mawr yw’r enw a roddir ar yr hyn a ddigwyddodd ar ôl Cwymp Wall Street.
- Bu cynnydd dramatig mewn diweithdra a digartrefedd.
- Aeth banciau i'r wal am nad oedd pobl yn gallu ad-dalu eu benthyciadau mwyach, a rhuthrodd cwsmeriaid i dynnu eu holl gynilion allan. Collodd pobl eu cynilion oes gan na allai banciau fforddio rhoi’r arian roeddent wedi’i gynilo i bawb.
- Roedd llawer o bobl a oedd yn byw mewn tlodi yn byw mewn llochesi ac mewn trefi siantiAnheddiad o gartrefi gwael lle mae pobl yn byw mewn tlodi, yn aml heb wasanaethau sylfaenol fel trydan a dŵr tap. a elwid yn ‘Hoovervilles’ ar gyrion trefi a dinasoedd. Cafodd y rhain eu henwi ar ôl yr Arlywydd Hoover a oedd yn cael ei feio gan lawer am y sefyllfa economaidd wael. Nid oedd gan y bobl hyn unrhyw gyfleusterau sylfaenol fel dŵr na thrydan, ac roedd caledi eithriadol yno.
- Daeth yr Arlywydd Hoover yn amhoblogaidd iawn ac roedd llawer yn ei feio am y dirwasgiad. Collodd yr etholiad canlynol yn 1932 i Franklin D Roosevelt.
Y Fargen Newydd
Pan ddaeth Roosevelt yn Arlywydd, gwnaeth addewid i helpu’r economi i adfer. Rhwng 1933 a 1939, lansiodd gyfres o raglenni i geisio helpu pobl. Y Fargen Newydd oedd yr enw ar y rhain, ac roeddent yn cynnwys:
- Sefydlu’r Federal Emergency Relief Administration i ddarparu mwy o fwyd, dillad a thai i bobl a oedd yn byw mewn tlodi.
- Fe wnaeth rhaglenni gwaith cyhoeddus, fel y Civilian Conservation Corps (CCC) a’r Works Progress Administration (WPA), greu swyddi i bobl yn adeiladu ffyrdd, ysgolion ac argaeau.
- Cafodd Nawdd Cymdeithasol ei sefydlu i ddarparu budd-daliadau i bobl hŷn, pobl anabl a phobl ddi-waith.
- Cafodd rheolau eu cyflwyno ar gyfer banciau i wneud pethau’n fwy diogel i bobl.
Helpodd y Fargen Newydd lawer o Americanwyr drwy greu swyddi, rhoi cymorth i bobl a oedd yn byw mewn tlodi, ac adennill hyder yn y system fancio. Fodd bynnag, arhosodd lefelau diweithdra’n uchel drwy gydol llawer o’r 1930au ac ni wnaeth yr economi adfer yn llwyr tan yr Ail Ryfel Byd.
Hawliau Sifil tua 1945–tua 1968
Yr Ail Ryfel Byd a Hawliau Sifil
Ymunodd UDA â’r Ail Ryfel Byd ar ôl i Japan ymosod ar ganolfan llynges yr Unol Daleithiau yn Pearl Harbor yn 1941. Yn ystod y rhyfel, fe wnaeth tua 1.2 miliwn o Americanwyr Du wasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Ar y pryd, roedd lluoedd arfog yr Unol Daleithiau wedi’u harwahanu, a oedd yn golygu bod milwyr Du yn gwasanaethu mewn unedau ar wahân i filwyr gwyn. Swyddogion gwyn oedd yn arwain yr unedau hyn fel arfer. I ddechrau, roedd llawer o Americanwyr Du yn gweithio mewn rolau cefnogol yn hytrach na rhai ymosodol. Wrth i’r rhyfel barhau ac wrth i’r galw am filwyr gynyddu, roedd mwy a mwy ohonynt yn cael eu caniatáu i wasanaethu mewn unedau ymladd.
Roedd milwyr Du gwrywaidd a benywaidd wedi gwneud cyfraniad pwysig i ymdrech y rhyfel. Er eu bod wedi wynebu arwahanuMesurau gorfodol i gadw pobl o wahanol grwpiau ethnig neu hil ar wahân drwy ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus ar wahân, fel ysgolion, llyfrgelloedd ac ystafelloedd aros. a gwahaniaethuTrin person neu grŵp o bobl yn annheg oherwydd eu cenedligrwydd, eu rhywedd, eu crefydd neu resymau eraill., fe wnaethant wasanaethu mewn amrywiaeth eang o rolau ar draws y Lluoedd Arfog.
Ymgyrch 'Double V'
Dechreuodd ymgyrch y ddwy fuddugoliaeth, neu ‘Double V', yn 1942. Cafodd yr ymgyrch ei harwain gan Americanwyr Du ac roedd yn galw am ddwy fuddugoliaeth:
- buddugoliaeth yn erbynffasgaethMath o lywodraeth adain dde eithafol a ymddangosodd am y tro cyntaf yn Ewrop ddechrau'r 1900au. Fel arfer, caiff gwledydd ffasgaidd eu rhedeg gan un plaid, sy'n cael ei rhedeg gan unben sydd â'r holl bŵer. Mae nodweddion eraill ffasgaeth yn cynnwys defnyddio trais yn erbyn gwrthwynebwyr gwleidyddol, y llywodraeth yn cadw rheolaeth dynn ar wahanol agweddau ar fywyd bob dydd, credoau hiliol, a gwahaniaethu yn erbyn grwpiau lleiafrifol. dramor yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
- buddugoliaeth yn erbyn hiliaeth yn UDA.
Roedd cefnogwyr yn dadlau ei bod yn annheg i Americanwyr Du frwydro dros ryddid dramor tra oeddent yn dal i wynebu arwahanu a gwahaniaethu gartref.
Roedd llawer o Americanwyr Du yn gobeithio y byddai eu gwasanaeth yn ystod y rhyfel yn helpu i sicrhau mwy o gydraddoldeb ar ôl i’r gwrthdaro ddod i ben. Fodd bynnag, pan ddychwelodd llawer o filwyr adref, parhaodd arwahanu a gwahaniaethu ar sail hil.
Bu rhywfaint o gynnydd ar ôl y rhyfel. Yn 1948, gorchmynnodd yr Arlywydd Harry Truman fod Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau yn cael eu dadwahanu. Daeth y penderfyniad hwn ar ôl blynyddoedd o bwysau gan grwpiau hawliau sifil, cyn-filwyr ac ymgyrchwyr Du dros gydraddoldeb hiliol.
Hawliau Sifil 1953-1968
Er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd arwahanu a gwahaniaethu wedi parhau mewn sawl rhan o UDA. O ganlyniad, tyfodd y Mudiad Hawliau Sifil yn gryfach yn ystod y 1950au a’r 1960au.
- Brown vs Y Bwrdd Addysg (1954)
Roedd Oliver Brown, gyda chefnogaeth y National Association for the Advancement of Colored People (NAACP), yn herio’r mesurau arwahanu mewn ysgolion yn Topeka, Kansas. Dyfarnodd y Goruchaf LysY llys uchaf yn y wlad. Yn UDA, mae’n cynnwys naw barnwr sy’n dyfarnu achosion lle mae pobl yn honni bod rheolau Cyfansoddiad UDA wedi cael eu torri. fod arwahanu ar sail hil mewn ysgolion cyhoeddus yn anghyfansoddiadolSet o reolau sy'n rheoli'r holl wlad yw Cyfansoddiad UDA. Mae rhywbeth yn anghyfansoddiadol pan mae'n torri un neu ragor o'r cyfreithiau hyn.. Roedd hon yn fuddugoliaeth bwysig i’r Mudiad Hawliau Sifil, er bod llawer o daleithiau wedi bod yn araf yn cydymffurfio â’r dyfarniad.
- Y Little Rock Nine (1957)
Cofrestrodd naw myfyriwr Du yn Ysgol Uwchradd Ganolog Little Rock yn Arkansas. Fe wnaethant wynebu gwrthwynebiad cryf gan rai trigolion lleol. Anfonodd yr Arlywydd Eisenhower filwyr ffederal i sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu mynychu’r ysgol yn ddiogel.
- Gorymdeithio ar Washington (1963)
Cymerodd dros 250,000 o bobl ran yn yr Orymdaith ar Washington dros Swyddi a Rhyddid. Yn ystod yr orymdaith, traddododd Martin Luther King Jr ei araith "I Have a Dream" enwog.
- Boicot Bws Montgomery (1955-56)
Dechreuodd y boicot ar ôl i Rosa Parks gael ei harestio am wrthod ildio ei sedd i deithiwr gwyn. Fe wnaeth llawer o Americanwyr Du roi’r gorau i ddefnyddio bysiau’r ddinas mewn protest. Helpodd y boicot i roi terfyn ar arwahanu ar fysiau Montgomery.
- Teithwyr Dros Ryddid (1961)
Roedd Teithwyr Dros Ryddid (Freedom Riders yn Saesneg) yn teithio ar fysiau rhyng-daleithiol i herio arwahanu mewn gorsafoedd bysiau a chyfleusterau cyhoeddus.
- Protestiadau eistedd
Trefnodd ymgyrchwyr hawliau sifil brotestiadau eistedd mewn bwytai a chaffis a oedd wedi’u harwahanu. Byddent yn eistedd yn heddychlon mewn seddi ac yn gwrthod gadael nes byddai rhywun yn gweini arnynt.
Helpodd y protestiadau a’r heriau cyfreithiol hyn i dynnu mwy o sylw at anghydraddoldeb hiliol yn UDA a chryfhau’r achos dros newid.
Arweinwyr ac ymgyrchwyr Hawliau Sifil
Cyflawnodd y Mudiad Hawliau Sifil lawer o newidiadau pwysig yn UDA:
| Martin Luther King Jr | Malcolm X |
|---|---|
| Cyd-sylfaenydd y grŵp Southern Christian Leadership Conference i arwain protestiadau Hawliau Sifil. | Roedd yn lefarydd ar ran y grŵp Nation of Islam. |
| Roedd yn credu mewn dulliau di-drais a thactegau heddychlon. | Roedd yn credu mewn Cenedlaetholdeb Du, a hunanamddiffyniad ar gyfer cymunedau Du. |
| Arweiniodd orymdeithiau fel y gorymdeithiau dros hawliau pleidleisio o Selma i Montgomery yn 1965. | Roedd yn credu mewn cyflawni nodau drwy ba bynnag fodd oedd raid. |
| Enillodd Wobr Heddwch Nobel am sut arweiniodd y mudiad Hawliau Sifil. | Cafodd ei lofruddio ar 21 Chwefror 1965. |
| Cafodd ei lofruddio ar 4 April 1968. |
Cyflawniadau a chyfyngiadau’r Mudiad Hawliau Sifil
Cyflawnodd y Mudiad Hawliau Sifil lawer o newidiadau pwysig yn UDA:
- Arweiniodd dyfarniad Brown vs Y Bwrdd Addysg (1954) at ddadwahanu ysgolion cyhoeddus.
- Cafodd gwahaniaethu ar sail hil, lliw, rhywedd neu genedligrwydd ei wneud yn anghyfreithlon yn sgil y Ddeddf Hawliau Sifil (1964).
- Nod Deddf Hawliau Pleidleisio (1965) oedd amddiffyn hawl Americanwyr Du i bleidleisio drwy wahardd arferion pleidleisio gwahaniaethol.
- Roedd Deddf Tai Teg (1968) yn ei gwneud yn anghyfreithlon gwahaniaethu wrth werthu neu rentu tai.
Roedd y cyfreithiau hyn yn helpu i wella cydraddoldeb a diogelu hawliau sifil. Fodd bynnag, ni ddiflannodd hiliaeth a gwahaniaethu. Roedd llawer o bobl Ddu yn dal i wynebu hiliaeth, rhagfarn a thriniaeth anghyfartal mewn meysydd fel tai, cyflogaeth ac addysg. O ganlyniad, parhaodd y frwydr dros hawliau sifil y tu hwnt i’r 1960au.
Ail Don Ffeministiaeth tua 1960 – tua 1980
Ffeministiaeth
Ffeministiaeth yw’r gred y dylai dynion a menywod gael hawliau a chyfleoedd cyfartal.
Ar ddechrau’r 20fed ganrif, roedd llawer o ffeministiaid yn UDA yn ymgyrchu dros fwy o gydraddoldeb, gan gynnwys yr hawl i bleidleisio. Arweiniodd eu hymdrechion at y 19eg Diwygiad yn 1920, a roddodd yr hawl i fenywod bleidleisio mewn etholiadau cenedlaethol.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe wnaeth llawer o fenywod ymgymryd â swyddi mewn ffatrïoedd, swyddfeydd llywodraeth a gwasanaethau cymorth milwrol. Wrth i fenywod ymgymryd â swyddi a oedd wedi cael eu gwneud gan ddynion yn draddodiadol, cafodd llawer o fenywod fwy o annibyniaeth a chyfleoedd newydd y tu allan i’r cartref.
Rôl menywod yn y 1950au a’r 60au
Fodd bynnag, ar ôl y rhyfel, roedd disgwyl i fenywod ddychwelyd i’w rolau traddodiadol yn y cartref ac yn magu plant. Roedd ffilm a theledu yn aml yn portreadu mai dim ond yn y cartref oedd rôl menywod. Roedd rhaglenni fel Father Knows Best, er enghraifft, yn portreadu menywod mewn rolau domestig.
Roedd llawer o fenywod yn teimlo’n rhwystredig gyda’u hawliau, yr hyn roedd cymdeithas yn ei ddisgwyl ohonynt, a’u diffyg cydraddoldeb â dynion.
Ail don ffeministiaeth
Dechreuodd mudiad protest ffeministaidd newydd yn y 1960au, o’r enw ail don ffeministiaeth. Roedd y mudiad yn canolbwyntio ar nifer o faterion, gan gynnwys hawliau atgenhedlu (gallu menywod i wneud penderfyniadau am feichiogrwydd, atal cenhedlu a chael plant), cydraddoldeb gwleidyddol, a rhoi diwedd ar gwahaniaethuTrin person neu grŵp o bobl yn annheg oherwydd eu cenedligrwydd, eu rhywedd, eu crefydd neu resymau eraill. a rhywiaeth.
Awduron ac ymgyrchwyr ffeministaidd
| Betty Friedan | Fe wnaeth ei llyfr The Feminine Mystique helpu i ysbrydoli ail don ffeministiaeth drwy dynnu sylw at y diffyg cydraddoldeb yn UDA. Cyd-sefydlodd y National Organisation for Women (NOW), sef y grŵp ffeministaidd mwyaf yn UDA ar y pryd. |
| Gloria Steinem | Newyddiadurwr Americanaidd, ymgyrchydd gwleidyddol ac arweinydd cydnabyddedig mudiad ail don ffeministiaeth. |
| Martha Weinmen Lear | Ysgrifennodd erthygl dan y teitl The Second Feminist Wave yn 1968. Roedd hon yn disgrifio'r mudiad hawliau menywod a oedd yn tyfu. |
National Organisation for Women (NOW)
- Cafodd ei sefydlu yn Washington yn 1966 gan 29 o ymgyrchwyr ffeministaidd.
- Betty Friedan oedd ei lywydd cyntaf.
- Roedd yn canolbwyntio ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau ym mhob agwedd ar fywyd.
- Arweiniodd lawer o brotestiadau dros hawliau menywod, gan gynnwys gorymdeithiau, ralïau, gwrthdystiadau a pharedau.
Beth wnaeth y mudiad Ffeministaidd ei gyflawni?
| Deddf Cyflog Cyfartal 1963 | Roedd y gyfraith hon yn mynnu bod dynion a menywod yn cael cyflog cyfartal am waith cyfartal ledled UDA. |
| Teitl VII o Ddeddf Hawliau Sifil 1964 | Roedd hwn yn rhoi cyfyngiadau ar waith i atal cyflogwyr rhag gwahaniaethu yn erbyn menywod wrth recriwtio a chyflogi. |
| Teitl IX o Ddiwygiadau Addysg 1972 | Roedd hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i ysgolion, colegau a phrifysgolion a oedd yn cael cyllid ffederal wahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu rhywedd. |
| Deddf Cyfle Addysg Cyfartal 1974 | Roedd hon yn ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i bob myfyriwr gael mynediad at addysg ddigonol. |
| Reed v. Reed 1971 | Aeth Sally Reed a Cecil Reed i’r llys i drafod pwy ddylai reoli ystâd eu mab a fu farw. Dadleuodd Sally Reed fod y gyfraith, a oedd yn rhoi blaenoriaeth awtomatig i ddynion, yn wahaniaethol. Cytunodd y Goruchaf Lys a dyfarnodd fod y gyfraith yn anghyfansoddiadol. |
| Roe v Wade 1973 | Dyfarnodd y Goruchaf Lys fod Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau yn diogelu hawl menyw i ddewis erthylu yn ystod camau cynnar beichiogrwydd. Roedd y penderfyniad yn cyfyngu ar allu taleithiau i wahardd erthyliadY broses feddygol o derfynu beichiogrwydd fel nad yw’n arwain at eni babi. yn ystod y tri mis cyntaf. Yn 2022, newidiodd y Goruchaf Lys ei benderfyniad cynharach. Roedd hyn yn golygu bod pob talaith yn cael gwneud ei deddfau ei hun ynghylch erthyliad. Ers hynny, mae cyfreithiau ar erthylu yn amrywio'n fawr ledled UDA. |
