Datrys y Stori 2: Beth yw hyn a sut mae cofrestru?

Part ofOther Side of the Story

Athrawon! Helpwch eich myfyrwyr i gryfhau eu sgiliau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau

Defnyddiwch ein hadnoddau rhad ac am ddim sy’n barod ar gyfer yr ystafell ddosbarth i addysgu eich disgyblion am ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.

Mae Datrys y Stori 2 yn gyfres ddrama sy’n cael ei chynhyrchu ar hyn o bryd. Bydd yn ymdrin â meysydd cwricwlwm CA3 gan gynnwys Saesneg, ABGI a Chyfrifiadura.

Mae’n ffordd gyffrous a diddorol o helpu eich myfyrwyr i ddysgu cysyniadau allweddol o ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, gan gynnwys:

  • Meddwl yn feirniadol a ffynonellau dibynadwy

  • Camwybodaeth, twyllwybodaeth a newyddion ffug

  • Deall sut mae algorithmau a deallusrwydd artiffisial yn gallu dylanwadu ar ddewisiadau

  • Adnabod delweddau sydd wedi’u trin

  • Diogelwch ar-lein, dinasyddiaeth ddigidol a bod yn ymwybodol osgamiau

Beth yw Datrys y Stori?

Datrys y Stori yw gwasanaethau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau Ochr Arall y Stori BBC Bitesize sydd wedi ennill gwobrau.

Bydd cyfres 2 ar gael yng ngwanwyn 2027, ac yn antur newydd gyffrous sy’n llawn dirgelwch a chyffro. Bydd myfyrwyr yn dod yn dditectifs digidol, gan roi eu sgiliau meddwl yn feirniadol a dadansoddi ar brawf wrth iddynt ddilyn anturiaethau pobl ifanc yn eu harddegau a gafodd eu dal mewn ras yn erbyn amser i ddatrys dirgelwch.

The words Solve the Story on a dark purple background. To the right is a teenage girl with blonde hair tied back in a ponytail, looking at a mobile phone

Sut mae defnyddio Datrys y Stori yn yr ystafell ddosbarth?

Mae Datrys y Stori yn gyfres gyflawn o gynnwys sy’n hawdd ei ddefnyddio ac yn hyblyg ar gyfer unrhyw amserlen ysgol.

Bydd cyfres 2 yn cynnwys chwe phennod, pob un wedi’i pharu â ffilm fer, ymarferol ‘sut mae…’, gan ganolbwyntio ar sgìl ymwybyddiaeth o’r cyfryngau penodol.

Bydd nodiadau i athrawon hefyd ar gael i gefnogi’r trafodaethau yn yr ystafell ddosbarth.

Byddwch yn barod am Ddatrys y Stori 2! Cofrestrwch eich ysgol yma a chael yr holl wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys cipolwg tu ôl i’r llenni.

This is a decorative purple line to separate and organise content on the page.

Not sure if the news you’re seeing on social media is true or false? Can you always tell if the things you see online are real or fake?

Learn how to get the other side of the story with our quizzes, videos and explainers about media skills and viral trends including popular food myths.

Solve the Story

Solve the Story is a whodunnit series designed for classroom use to help young people develop their media literacy skills

Solve the Story

Other Side of the Story

Back to our homepage for more quizzes and explainers about fake news, viral trends and media skills.

Other Side of the Story