Rhys ap Gruffudd, Tywysog Deheubarth tua 1132 – tua 1197

Part ofHistoryUnit 1: Welsh history

Cefndir teuluol Rhys ap Gruffudd

Teulu a chefndir

Roedd Rhys ap Gruffudd yn dod o ddau o deuluoedd pwysicaf Cymru yn yr Oesoedd Canol.

Gruffydd ap Rhys oedd ei dad.

Cymerodd y Normaniaid reolaeth dros yn 1093. Roedd Gruffydd ap Rhys yn credu bod ganddo hawl i adennill a rheoli’r deyrnas, fel y gwnaeth ei dad o’i flaen. Brwydrodd yn erbyn teyrnasiad y Normaniaid a gweithiodd i adennill tir ei deulu. Er mai dim ond rhan o Deheubarth y llwyddodd i’w adennill, cadwodd hawl ei deulu i’r deyrnas yn fyw.

Mam Rhys oedd Gwenllian ferch Gruffydd ap Cynan.

Fel tywysoges o deulu Gwynedd, roedd Gwenllian yn dod â chysylltiadau pwysig iawn i’r teulu. Roedd yn cefnogi gwrthsafiad Cymru yn erbyn teyrnasiad y Normaniaid yn frwd a chafodd ei lladd wrth arwain lluoedd yn erbyn y Normaniaid yng Nghydweli yn 1136.

Roedd gan Rhys ap Gruffudd gysylltiad ag arweinwyr Deheubarth drwy ei dad a chysylltiad â theulu brenhinol grymus Gwynedd drwy ei fam. Roedd y cysylltiadau hyn yn cryfhau ei statws fel arweinydd ymysg pobl Cymru a thywysogion eraill Cymru.

Roedd perthynas Rhys â’i frodyr yn bwysig hefyd. Ar ôl marwolaeth ei dad, roedd y cyfrifoldeb dros amddiffyn eu tiroedd ac adennill gweddill Deheubarth oddi wrth y Normaniaid wedi syrthio ar bob un o frodyr hŷn Rhys yn eu tro. Eu llwyddiannau milwrol wnaeth greu’r sylfaen yr adeiladodd Rhys ei reolaeth arni’n ddiweddarach.

  • Arweiniodd Anarawd sawl cynnar i adennill Deheubarth, ond cafodd ei ladd yn 1143, gan amddifadu’r teulu o arweinydd pwysig.
  • Enillodd Cadell fwy o dir yn ôl drwy arwain cyrchoedd milwrol llwyddiannus yn erbyn y Normaniaid. Bu hefyd yn mentora ac yn helpu Rhys pan oedd yn ifanc.
  • Parhaodd Maredudd â llwyddiant y teulu ar ôl i Cadell gael ei anafu’n ddrwg. Ef fu’n rheoli Deheubarth tan 1155.

Daeth Rhys yn arweinydd Deheubarth yn 1155 ar ôl marwolaeth ei frawd Maredudd. Etifeddodd deyrnas a oedd wedi cael ei hailadeiladu i raddau helaeth gan gyrchoedd ei frodyr yn erbyn y Normaniaid.

Priodas Rhys ap Gruffudd

Priododd Rhys â Gwenllian ferch Madog ap Maredudd, merch Tywysog Powys. Creodd hyn gysylltiad gwleidyddol pwysig a chynyddu ei bwysigrwydd ymhlith tywysogion Cymru. Fe wnaeth y briodas gysylltu’r teuluoedd a oedd yn rheoli’r Deheubarth, Gwynedd a Phowys, gan gryfhau safle Rhys fel un o’r arweinwyr mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Cafodd Rhys a Gwenllian lawer o blant, a helpodd i sicrhau ei .

Back to top

Pwysigrwydd rhyfela wrth ffurfio De Cymru rhwng 1146 ac 1170

Roedd yn gyffredin ac yn bwysig yng Nghymru yn y 12fed ganrif. Bu Rhys ap Gruffudd yn rhan o wrthdaro cyn ac ar ôl iddo ddod yn arweinydd Deheubarth yn 1155.

Pwysigrwydd rhyfela i adennill Deheubarth

Deheubarth oedd un o brif deyrnasoedd Cymru, ac roedd yn cwmpasu llawer o dde-orllewin Cymru, gan gynnwys Dyfed, Ceredigion, a Dyffryn Tywi.

Bu farw Rhys ap Tewdwr, Brenin Deheubarth, yn ymladd yn erbyn y Normaniaid yn 1093. Yn dilyn ei farwolaeth:

  • gwnaeth arglwyddi Normanaidd feddiannu rhannau helaeth o Deheubarth
  • cafodd cestyll eu hadeiladu mewn lleoliadau pwysig fel Aberteifi a Phenfro i sicrhau rheolaeth y Normaniaid
  • roedd llawer o Ddeheubarth wedi’i rannu rhwng arglwyddi Normanaidd, gan leihau teyrnasiad y Cymry i ddim ond ychydig o ardaloedd

Yn 1116, dychwelodd Gruffydd ap Rhys, mab Rhys ap Tewdwr, ar ôl cael ei a cheisiodd adennill teyrnas ei dad, sef Deheubarth. Cafodd gefnogaeth gan arweinwyr eraill o Gymru, gan gynnwys tywysogion Gwynedd, a lansiodd ymosodiadau yn erbyn y Normaniaid. Fodd bynnag, ni lwyddodd Gruffydd i ddod â rheolaeth y Normaniaid i ben yn llwyr. Er mai cyfyngedig fu llwyddiant ei gyrch, cadwodd y nod o adennill Deheubarth yn fyw.

Bu ymgais fwy llwyddiannus yn 1136. Fe wnaeth lluoedd Cymru ennill Brwydr Crug Mawr dan arweiniad Gruffydd ap Rhys a thywysogion Gwynedd. Roedd y fuddugoliaeth hon wedi galluogi’r Cymry i adennill ardaloedd mawr o dir ac atal twf y Normaniaid yng ngorllewin Cymru.

Parhaodd y brwydro rhwng y Cymry a’r Normaniaid ar ôl 1136. Fe wnaeth meibion Gruffydd ap Rhys – Anarawd, Cadell, Maredudd, ac yn ddiweddarach Rhys ap Gruffudd – arwain cyrchoedd milwrol pellach i wrthsefyll rheolaeth y Normaniaid a chryfhau teyrnasiad y Cymry yn Deheubarth.

Y berthynas gyda Gwynedd

Ar adegau, bu arweinwyr Deheubarth a Gwynedd yn gweithio gyda’i gilydd yn erbyn y Normaniaid, er enghraifft ym ‘Mrwydr Crug Mawr’ yn 1136. Fodd bynnag, roedd arweinwyr Deheubarth yn aml yn wynebu cystadleuaeth gan arweinwyr Gwynedd, sef teyrnas fwyaf pwerus Cymru. Roedd y gystadleuaeth dros reolaeth Ceredigion yn destun gwrthdaro sylweddol rhwng Deheubarth a Gwynedd.

  • Yn 1137 ac 1143, cafodd Castell Caerfyrddin ei ddinistrio gan Owain Gwynedd, arweinydd Gwynedd. Yn 1146, cipiodd Rhys a’i frawd, Cadell, Gastell Caerfyrddin.
  • Yn 1153, llwyddodd Rhys a’i frawd, Maredudd, i adennill rheolaeth dros Geredigion oddi ar Wynedd.

Gwrthdaro â Lloegr

  • Yn 1154, daeth Harri II yn Frenin Lloegr.
  • Yn 1158, arweiniodd Harri gyrch i Gymru i gryfhau rheolaeth Lloegr a lleihau pŵer Rhys ap Gruffudd.

I ddechrau, derbyniodd Rhys awdurdod Harri ac addo bod yn deyrngar iddo. Yn gyfnewid am hynny, cafodd ganiatâd i gadw rhywfaint o’i dir, ond collodd dir hefyd. Pan beidiodd Harri ag amddiffyn Rhys rhag ymosodiadau gan arglwyddi Normanaidd, dechreuodd y gwrthdaro eto.

  • 1159-1163: Ymosododd Rhys ar diroedd a oedd yn nwylo’r Normaniaid ac adenillodd rywfaint o dir.
  • 1163: Ymosododd Harri ar Deheubarth a gorfodi Rhys i ildio unwaith eto. Cymerodd wystlon hefyd, gan gynnwys Maredudd, mab Rhys.
  • 1164: Ymunodd Rhys â thywysogion eraill Cymru mewn gwrthryfel mawr yn erbyn Harri II.
  • 1165: Llwyddodd Rhys ac Owain Gwynedd i wrthsefyll ymosodiad Harri ar Gymru.
  • Ar ôl i Harri gael ei drechu, llwyddodd Rhys i adennill Ceredigion a thiroedd eraill.
  • Yn dilyn marwolaeth Owain Gwynedd yn 1170, Rhys oedd yr arweinydd mwyaf pwerus yng Nghymru.
Back to top

Sefydlu heddwch gyda Harri II, tua 1170 - 1189

Fe wnaeth y berthynas rhwng Rhys ap Gruffudd a Harri II wella ar ôl 1171. Fe wnaeth Rhys addo bod yn deyrngar i Harri, ac roedd Harri eisiau heddwch a sefydlogrwydd yng Nghymru ond roedd ganddo faterion eraill i ddelio â nhw mewn rhannau eraill o’i deyrnas.

Fel yr arweinydd mwyaf pwerus yng Nghymru, helpodd Rhys i gadw trefn ar bethau yng Nghymru. Yn 1172, penododd Harri ef yn Brifustus De Cymru, a oedd yn golygu bod Rhys yn gweithredu ar ran y brenin yn y rhanbarth. Roedd yn gyfrifol am gadw’r heddwch a gorfodi awdurdod y brenin. Roedd y penodiad hwn yn cydnabod mai Rhys oedd y prif arweinydd yn ne Cymru.

Aeth Rhys hefyd i gynghorau brenhinol yng Nghaerloyw a Rhydychen, gan ddangos bod Harri II yn ymddiried ynddo a’i fod wedi chwarae rhan bwysig yn llywodraeth y deyrnas.

Adeiladu cestyll

O 1171 ymlaen, aeth Rhys ati i ailadeiladu a chryfhau Castell Aberteifi gan ddefnyddio cerrig. Daeth y castell hwn yn bencadlys ar gyfer ei lywodraeth, er mai castell Dinefwr oedd cartref ei hynafiaid. Fe wnaeth Rhys ailadeiladu cestyll eraill hefyd er mwyn ceisio amddiffyn Deheubarth rhag .

Yn 1176, cynhaliodd Rhys yr hyn sy’n cael ei ystyried fel yr Eisteddfod gyntaf erioed, yng Nghastell Aberteifi. Cafodd beirdd a cherddorion eu gwahodd i gymryd rhan am wobrau. Mae llawer yn dadlau bod hyn wedi dangos bod Rhys yn arweinydd diwylliant a dysg Cymru. Dyma ddechrau’r traddodiad y datblygodd yr Eisteddfod Genedlaethol ohono.

Crefydd yng Nghymru

Roedd crefydd yn chwarae rhan bwysig yn nheyrnasiad Rhys ap Gruffudd. Drwy gefnogi’r Eglwys, llwyddodd i gryfhau ei awdurdod fel arweinydd Deheubarth a gwella ei enw da fel cefnogwr crefydd a dysg.

Roedd Rhys yn un o brif gefnogwyr Abaty Ystrad Fflur.

  • Rhoddodd dir, arian a gwarchodaeth i’r abaty.
  • Daeth Ystrad Fflur yn ganolfan bwysig ar gyfer crefydd a dysg yng Nghymru.
  • Yn yr abaty hwn y cafodd Rhys a’i deulu eu claddu.

Yn 1188, croesawodd Rhys Gerallt Gymro a Baldwin, Archesgob Caergaint, i Gastell Aberteifi yn ystod eu taith i recriwtio cefnogwyr ar gyfer y Drydedd . Er bod Rhys yn cefnogi eu hymdrechion, nid aeth ar groesgad ei hun.

Back to top

Rhesymau dros achosion pellach o ryfela a'i effaith rhwng 1189 - 1196

Gwrthdaro â Brenin Rhisiart I

Ar ôl i Harri II farw yn 1189, a daeth ei fab Rhisiart I yn Frenin Lloegr. Buan y daeth y berthynas rhwng Rhys ap Gruffudd a’r brenin newydd dan straen.

  • Dechreuodd Rhys ymosod ar diroedd ar hyd ffiniau Deheubarth. Lansiodd ymosodiadau ar ardaloedd a oedd dan reolaeth y Normaniaid – fel Penfro, Hwlffordd a Gŵyr – a chipiodd gestyll Sanclêr, Talacharn a Llansteffan.
  • Gan obeithio cynnal heddwch, anfonodd Rhisiart ei frawd John i negodi gyda Rhys. Roedd cytundeb y byddai Rhys a Rhisiart yn cwrdd yn Rhydychen, ond ni ddigwyddodd y cyfarfod erioed.
  • Roedd y ffaith bod Rhisiart wedi peidio â chwrdd â Rhys yn cael ei ystyried yn sarhad ac fe niweidiodd hyn y berthynas rhwng y ddau arweinydd.
  • Ym mis Rhagfyr 1189, gadawodd Rhisiart ar , gan adael cyngor rhaglywiaeth i lywodraethu Lloegr yn ei absenoldeb.
  • Gyda’r brenin dramor, ymosododd Rhys o’r newydd ar diroedd y Mers gan gipio Castell Nanhyfer yn 1191.

Roedd y digwyddiadau hyn yn nodi dychweliad y gwrthdaro rhwng Rhys a choron Lloegr ar ôl blynyddoedd lawer o gydweithio â Harri II.

Cyrch olaf Rhys

Bu cyrch olaf Rhys yn 1196 yn llwyddiannus iawn, gan arwain at gipio’r cestyll yng Nghaerfyrddin, Colwyn a Maesyfed, a gorchfygu’r fyddin dan arweiniad Roger de Mortimer a Hugh de Say ym Maesyfed.

  • Cymerodd Rhys reolaeth dros Gastell Caerfyrddin a llosgi’r dref, gan ymosod ar ganolfan Normanaidd bwysig yn ne-orllewin Cymru.
  • Cafodd y castell yng Ngholwyn ei ildio i Rhys a chafodd ei ddinistrio.
  • Aeth Rhys ymlaen i’r Gororau a chipio Maesyfed, gan ymestyn ei ddylanwad yn agos at y ffin â Lloegr.
  • Ar ôl cipio Maesyfed, ceisiodd arglwyddi’r Mers, Roger de Mortimer a Hugh de Say, herio byddin Rhys. Daeth Rhys â’i luoedd at ei gilydd yn gyflym, trechu’r arglwyddi, a gorfodi eu byddin i encilio.

Bu Rhys yn llwyddiannus oherwydd bod y Saeson yn brysur yn ymladd mewn mannau eraill, a rhoddodd hyn gyfle iddo ymosod ar gestyll Normanaidd. Defnyddiodd dactegau milwrol effeithiol hefyd, gan gynnwys cynnal sawl , i gipio cadarnleoedd y gelyn.

Y cyrch olaf hwn oedd uchafbwynt grym Rhys. Drwy gipio cestyll pwysig a threchu Arglwyddi pwerus y Mers, cryfhaodd Rhys reolaeth y Cymry a gwanhau dylanwad y Normaniaid. Hwn oedd ei lwyddiant mawr olaf, cyn iddo farw yn 1197.

Back to top

Marwolaeth a gwaddol Rhys ap Gruffudd

Marwolaeth a gwaddol Rhys

Yn ei flynyddoedd olaf, wynebodd Rhys ap Gruffudd broblemau difrifol yn ei deulu ei hun. Roedd ganddo sawl mab, rhai o’i briodas â Gwenllian, ac eraill gyda’i feistres.

Roedd gan Rhys berthynas arbennig o anodd gyda’i fab Maelgwn. Roedd llawer o anghytuno hefyd ynghylch pwy fyddai’n ei olynu.

  • Yn 1189, fe wnaeth Rhys a’i fab hynaf, Gruffudd, garcharu Maelgwn oherwydd ei ymddygiad a’i uchelgeisiau.
  • Ar ôl cael ei ryddhau, ymunodd Maelgwn â’i frawd Hywel Sais mewn gwrthryfel yn erbyn eu tad Rhys yn 1194.
  • Yn 1194 cafodd Rhys ei garcharu gan Maelgwn a Hywel Sais, ond buan iawn y cafodd ei ryddhau.
  • Yn 1195, carcharodd Rhys ddau fab arall, Rhys Gryg a Maredudd. Roeddent wedi cymryd rheolaeth dros Gastell Dinefwr, gan herio pŵer eu tad.

Bu farw Rhys ap Gruffudd ym mis Ebrill 1197. Nid yw union achos ei farwolaeth yn hysbys, ond mae rhai haneswyr yn credu y gallai fod wedi marw o glefyd heintus. Er iddo farw tra oedd wedi’i esgymuno, sy’n golygu ei fod wedi’i wahardd yn swyddogol o’r eglwys, gwnaeth cyn ei farwolaeth. Ar ôl iddo farw, cafodd ei gorff ei , a oedd yn caniatáu iddo gael ei gladdu yn Nhyddewi, un o’r safleoedd crefyddol pwysicaf yng Nghymru.

Arweiniodd ei farwolaeth at frwydr dros bŵer ymysg ei feibion, a fu’n ymladd dros reoli Deheubarth. Roedd Rhys wedi dewis Gruffudd ap Rhys fel ei olynydd, ond fe wnaeth ei fab arall, Maelgwn ap Rhys, herio’r penderfyniad hwn. Arweiniodd hyn at wrthdaro a rhaniadau o fewn y deyrnas. Fe wnaeth y gwrthdaro wanhau Deheubarth a lleihau ei allu i wrthsefyll pwysau o’r tu allan. O ganlyniad, collodd Deheubarth ei annibyniaeth yn raddol a daeth dan ddylanwad a gwarchodaeth arweinwyr Gwynedd.

Back to top