Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,01 Nov 2026,27 mins

Megan Wynne Jones - y milfeddyg newydd

Troi'r Tir

Available for 29 days

Terwyn Davies sy'n sgwrsio gyda Megan Wynne Jones o Gaerdydd sydd newydd raddio fel milfeddyg, bum mlynedd ers y sgwrs ddiwethaf ar Troi'r Tir. Cawn glywed lle mae hi yn ei gyrfa erbyn heddiw. Hefyd, Lois Cernyw sy'n sgwrsio gydag Elen Williams o Langwnadl, sydd wedi ysgrifennu cyfrol newydd i blant, wedi'i ysbrydoli gan ei chi defaid Tyrbo, aeth ar goll am dair wythnos yn ystod haf 2026. Sgwrs hefyd gyda rhai o fyfyrwyr Coleg Gelli Aur yn Nyffryn Tywi, Rhys Colnet ac Aled Evans, sy'n trafod eu hastudiaethau yn y coleg, yn ogystal â chlywed gan eu darlithydd, Sara Roberts. Ac Awel Mai Hughes sydd â'r newyddion diweddaraf o ran y polisiau a'r grantiau amaethyddol. Cynhyrchiad cwmni Telesgop i BBC Radio Cymru.

Programme Website
More episodes