Episode details

Available for 29 days
Y bardd a cherddor Iestyn Tyne sydd rhannu hanes un o luniau mwyaf eiconig Cymru ‘Edrych Dros y Bryniau Pell’ gan Geoff Charles. Dyma ffotograff gafodd ymateb ar draws Cymru yn 1945 pan gyhoeddwyd o gyntaf gyda hanes trasig y ddau oedd ynddo – y gohebydd a’r bardd Carneddog neu Richard Griffith a’i wraig Catrin yn gadael eu cartref, ffermdy’r Carneddi, am y tro olaf a mudo i Loegr. Ond mae mwy i’r llun na hynny. Yr hanes cudd y tu ôl i’r ffotograff ysbrydolodd albwm gysyniadol gan Iestyn a drwy gyfrwng ei cherddoriaeth mae’n datgelu mwy ar stori Hywel Wyn, mab Carneddog a Catrin ac yn cynnig cip ar pa mor anodd ydi olrhain hanes cymunedau cwiar Cymru’r gorffennol. Gyda chwmni Mari Elin Jones, y Dr Bleddyn Owen Huws a thrigolion presennol y Carneddi Ann a Ffion bydd Iestyn yn mynd ar daith sy’n dod â’r llun du a gwyn yn fyw. Cynhyrchiad Rondo Media i BBC Radio Cymru.
Programme Website