Episode details

Radio Cymru,12 Jul 2026,56 mins
Miriam Elin Sautin, comedi Cicio, adolygu Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau a chynhyrchiad Calon, Cwmni Theatr yr Urdd
Llwyfan gyda Manon Steffan RosAvailable for 30 days
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trin a thrafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. Ậ thrafod efo pobol ifanc, un ai'r rhai sy'n creu, neu'r rhai sy'n mwynhau y byd creadigol mae Manon yn y rhaglen hon. Ymhlith y gwesteion mae Gruff Huws, sydd yn un o sêr TikTok ac YouTube Cymraeg, ac wedi mynd ati ar ei liwt ei hun i greu cyfres gomedi newydd sbon. Adolygiad o sioe gerdd 'Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau', a hynny gan aelodau hollbwysig o'r gynulleidfa ifanc. Yn ogystal â hyn, mae Manon yn piciad draw i 'stafell ymarfer sioe gerdd arall hir-ddisgwyliedig gan Gwmni Theatr yr Urdd sef, 'Calon'. Ac yna yn olaf, mae Miriam Elin Sautin yn trafod ei nofel newydd, 'La Salamandra', sydd newydd ei chyhoeddi.,
Programme Website