Episode details

Radio Cymru,10 May 2026,27 mins
Sinema Brynaman yn dathlu'r 100
Available for 9 days
Eleni, mae Sinema Neuadd Gyhoeddus Brynaman yn dathlu can mlynedd ers ei sefydlu. Fel un a fagwyd yn y pentref, mae gan Roy Noble atgofion melys iawn o’r lle. Mewn rhaglen arbennig, mae Roy yn olrhain hanes y neuadd unigryw hon — o’i hadeiladu gan gymdeithas o lowyr lleol i ddod â ffilmiau diweddaraf Hollywood i’r ardal. Gyda chwmni nifer o drigolion y fro, cawn glywed am arferion mynd i’r sinema slawer dydd, am y cynyrchiadau opera a drama a lwyfannwyd yn y neuadd, am yr ‘usherettes’, y gwirfoddolwyr arbennig sy’n cadw’r lle i fynd, a theyrnged deimladwy i’r cyn-reolwr, Brian Harries.
Programme Website