Episode details

Available for 29 days
Niamh Halligan o Brifysgol Caerdydd a Judith Owen o feithrinfa Pitian Patian yn Llanwnda sy'n trafod gwaith ymchwil diweddar sy'n awgrymu bod plant ifanc sy'n chwarae efo doliau yn gallu eu helpu i ddatblygu empathi a dealltwriaeth o deimladau pobl eraill, sgil sy'n hanfodol ar gyfer sefydlu perthnasau cymdeithasol; Gyda 100 diwrnod i fynd tan Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow, sgwrs gyda'r Chef de Mission, Gethin Jones; Y trefnydd proffesiynol, Gwenan Rosser o Bentyrch, sy'n trafod sut y gall creu gofod taclus gael effaith gadarnhaol ar ein meddylgarwch, ein hwyliau, a’n llesiant yn gyffredinol.
Programme Website