Bob blwyddyn mae tim C2 yn mynd ar daith rownd ysgolion Cymru a tydi eleni ddim gwahanol! Mi fydd y criw yn ymweld ag 16 ysgol dros 4 wythnos, am ddiwrnod ar y tro - ond beth allwch chi ei ddisgwyl os yw'r daith yn ymweld a'ch ysgol chi?
- gweithdai i ddod o hyd i gynhyrchwyr, cyflwynwyr a thechnegwyr newydd
- mi fydd criw Ciwdod yn cynnal gweithdai roc i'r rhai cerddorol sydd mewn bandiau neu sy'n gobeithio dechra band
- bydd criw Ffeil hefyd yn rhan o'r daith chwilio am ohebwyr y dyfodol
- a bydd y rapiwr hynod Ed Holden yn cynnal gweithdai beat bocsio!
Dyma restr o leoliadau Taith C2 / Ciwdod eleni...
Wythnos 1
- Dydd Llun 28 Medi - Ysgol David Hughes, Porthaethwy
- Mawrth 29 Medi - Ysgol Tryfan, Bangor
- Mercher 30 Medi - Ysgol Gyfun Llangefni
- Dydd Iau 1 Hydref - Ysgol Syr Tomos Jones, Amlwch
Wythnos 2
- Dydd Llun 5 Hydref - Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy
- Dydd Mawrth 6 Hydref - Ysgol Bryn Hyfryd, Rhuthun
- Dydd Mercher 7 Hydref - Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug
- Dydd Iau 8 Hydref - Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Wythnos 3
- Dydd Llun 12 Hydref - Ysgol Maes yr Yrfa, Cefn Eithin
- Dydd Mawrth 13 Hydref - Ysgol Tregib, Llandeilo
- Dydd Mercher 14 Hydref - Ysgol y Strade, Llanelli
- Dydd Iau 15 Hydref - Ysgol Gyfun Ystalyfera, Abertawe
Wythnos 4
- Dydd Llun 19 Hydref - Ysgol Plasmawr, Caerdydd
- Dydd Mawrth 20 Hydref - Ysgol Gyfun Llanhari
- Dydd Mercher 21 Hydref - Ysgol Uwchradd Cwm Rhymni
- Dydd Iau 22 Hydref - Ysgol Gyfun Rhyd-y-Waun, Hiurawun
Edrych ymlaen i ddod i'ch ysgol chi'n fuan!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
