Hen Bethe Crwn: Heather Jones

Heather Jones yn 1968

Mae Dyl Mei o'r Genod Droog a'r cyflwynydd Huw Evans yn dewis rhai o'r recordiau mwyaf dylanwadol o oes aur roc Cymru: 1967 i 1979. Yn y rhaglen hon, maen nhw'n edrych ar gefndir yr albwm 'Mae'r Olwyn Yn Troi' gan Heather Jones.

Not found

Ar yr awyr nesaf: Dydd Gwener, 6 Meh 2008, 21:00-21:45

Heather Jones: Mae'r Olwyn Yn Troi

Sain (1008M) 1973

Ganwyd yng Nghaerdydd ym 1950, yr ieuengaf o dri o blant. Tra yn yr ysgol, roedd hi'n aelod o sawl grŵp canu ysgafn fel Y Cyfeillion, Y Meillion ac Yr Eirlysiau, heb son am berfformio ar ei liwt ei hun. Ymddangosodd ar y teledu am y tro cyntaf ym 1966 yn canu Plaisir d'Amour ar Hob Y Deri Dando.

Ym 1967 roedd EMI yn chwilio am Mary Hopkin arall, a recordiodd Heather demos gyda Norman Newell yn Llundain, ond ni lwyddodd i ennill cytundeb gyda'r cwmni. Erbyn hyn roedd Heather yn mynd mas gyda Geraint Jarman ac yn chwarae yn gyson gyda fe mewn nosweithiau canu gwerin yn nhafarndai Caerdydd.

Yn yr un flwyddyn enillodd Heather Jones gystadleuaeth Gân Bop yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerfyrddin, gyda chân o waith Geraint sef "Beth Sydd i Mi".

Ym 1968 rhyddhawyd ei record gyntaf, sef yr EP Caneuon Heather Jones ar label Welsh Teldisc. Dilynwyd hon gan y sengl Ddoi Di ar label Cambrian ym 1969.

Ym 1969 fe ddechreuodd Geraint, Heather a Meic Stevens band o'r enw Y Bara Menyn. Rhyddhawyd dwy EP ar label Dryw. Ffurfiwyd y grŵp er mwyn gwneud arian ac i greu parodi o'r holl grwpiau gwladgarol fel Hogia'r Wyddfa, Y Pelydrau ac yn y blaen.

Erbyn Haf 1970, roedd Y Bara Menyn wedi chwalu, a rhyddhawyd Mini LP gan Heather ar label Newyddion Da. Gwasgwyd dim ond 500 copi o'r record yma, ac mae copïau yn newid dwylo ar y we am grocbris.

Perfformiodd Heather am y tro cyntaf gyda'r grŵp roc James Hogg mewn cynhyrchiad Theatr Cymru Sachliain a Lludw yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor ym 1971. Rhyddhawyd ei EP cyntaf i Sain ar ddiwedd y flwyddyn, sef Colli Iaith, yn defnyddio aelodau o James Hogg. Erbyn heddiw mae'r gân Colli Iaith yn glasur yn y canon o ganeuon pop Cymraeg, ond ni ymddangosodd ar gasgliad o oreuon Heather a rhyddhawyd gan Sain ym 2004.

Blwyddyn ar ôl hynny, fe wnaeth y BBC darlledu cyfres teledu cyntaf Heather, sef "Gwrandewch Ar Fy Nghân". Yn ystod y cyfnod yma fe sgrifennodd Geraint Jarman rai o ganeuon gorau Heather fel "Cwm Hiraeth", a'r glasur "Pan Ddaw'r Dydd" a gipiodd teitl Cân Disc a Dawn / Cân i Gymru i Heather ym 1972.

Rhyddhawyd ail EP i Sain, Gwrandewch Ar fy Nghân, unwaith eto gyda James Hogg. Roedd yr EP hefyd yn cynnwys Cwm Hiraeth, y cân roc trwm cyntaf yn yr iaith Gymraeg.

Erbyn yr Haf 1973 roedd digon o ganeuon gan Heather i gyfiawnhau recordio albwm.

Recordiwyd Mae'r Olwyn Yn Troi yn Rockfield rhwng Awst a'r Hydref, cyfnod o dri mis felly! Cynhyrchwyd gan Heather, Huw Jones a Geraint Jarman. Mae'n cynnwys un ar ddeg o ganeuon. Tair cân Geraint Jarman, tair cân Heather a Geraint Jarman, un gan Meic Stevens a Geraint Jarman, un gan Catrin Edwards, dwy gân traddodiadol ac un gan Meic Povey, Heather a Hefin Evans.

Uchafbwyntiau... hen gân Y Bara Menyn, sef Can y Bugail (teyrnged i Hedd Wyn), alaw hyfryd Catrin Edwards, Dan y Dŵr, a fersiwn unigryw Heather o'r hen gân werin Aderyn Pur. Mae'r cymysgedd o ganeuon tawel gwerinaidd gyda rocers fel Mynd yn ôl i'r Dre yn gweithio i wneud Mae'r Olwyn Yn Troi yn albwm cyflawn. ac un o'r recordiau gorau yn hanes cynnar y byd pop Cymraeg.

Gari Melville

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.