Hefin Thomas

Record cyntaf i ti brynu?
Albym Shakin Stevens (er taw mynnu fod Mam yn prynu wnes i ma'n siwr!)

Gig gorau i ti fynychu a pham?
Ma dau yn arbennig yn sefyll mas. Foo Fighters yn y Zenith Arena yn Paris yn 2007. Gig mewn lle eitha bach a Dave Grohl yn cael cystadleuaeth yfed cwrw gyda aelodau'r dorf! Hefyd, Super Furry Animals yn Cnapan 1996 pan odd Fuzzy Logic newydd ddod allan ac o'n nhw ar fin torri trwodd.

Dy arwr/arwres?
Dad / Mam

Be sy'n gwneud i ti grio?
Dau air - Paul Bodin

Beth yw dy hoff ddilledyn ar hyn o bryd?
Cot goch nes i brynu yn Barcelona

Pryd oedd y tro diwethaf i ti godi cywilydd arna ti dy hun?
Cwympo dros monitor wrth neidio o'r llwyfan tra'n canu cân gyda Ashokan mewn gig yn Llanarth - nath Slug y drummer stopio chwarae achos odd e'n chwerthin gymaint!

Dy gas gân neu grwp?
Kasabian !

Dy 'crush' cyntaf?
Tiffany pan nath 'I Think We're Alone Now' ddod allan!

Beth ydy'r peth gorau i ti erioed ennill?
Magnum o champagne 1976 Krug mewn raffl - dwi'n cadw fe tan fod albym Mattoidz yn mynd Platinum. Dal i aros!

Y peth gwaetha i ti wisgo'n gyhoeddus?
Ges i fy mherswadio i wisgo 'cravate' gwyrdd ar gyfer cyfres o Popty - odd e'n erchyll ar y pryd ac hyd yn oed yn fwy erchyll nawr!

Dathliad gorau erioed?
Parti priodas fi a Lisa, heb amheuaeth!


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.