Seinwedd America

Dydd Sul 5/7/26, 3.00pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Cyfieithu BSL: Julie Doyle

Aaron Copland
Appalachian Spring – cyfres 23’

Christopher Tin
Concerto i’r Piano, ‘The Pursuit of Happiness’ 25’
prèmiere y DU

EGWYL: 15 munud

William Grant Still
Festive Overture 10’

Samuel Barber
Agnus Dei 8’

Leonard Bernstein
Chichester Psalms 30’

Tomas Djupsjöbacka arweinydd
Lara Downes piano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 ar gyfer Radio 3 in Concert. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i chi i’r cyngerdd heddiw, cyngerdd olaf y tymor yma yn Neuadd Hoddinott y BBC. Mae’n briodol ein bod yn gorffen ar nodyn cadarnhaol, gyda rhaglen sy’n nodi 250 mlynedd ers Datganiad Annibyniaeth America, a ddathlwyd ddoe.

Yn cyfarwyddo rhaglen o gerddoriaeth Americanaidd o’r 20fed a’r 21ain ganrif mae’r arweinydd Tomas Djupsjöbacka. Dechreuwn gyda cherddoriaeth o fale poblogaidd Copland, Appalachian Spring, cerddoriaeth sy’n cyfuno dawns a’r ysbryd o dorri tir newydd; a bydd Festive Overture William Grant Still yn dod ag ymdeimlad o ddathlu i’r cyngerdd. Bydd Concerto Christopher Tin i’r Piano, ‘The Pursuit of Happiness’, a ysbrydolwyd gan yr addewidion yn Natganiad America, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf ym Mhrydain, dim ond ychydig ddyddiau ar ôl iddo gael ei ddatgelu yn Efrog Newydd gan Lara Downes, y pianydd dawnus y cafodd y darn ei ysgrifennu ar ei chyfer.

Bydd Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn camu i’r llwyfan ar gyfer trefniant lleisiol Barber ei hun o’i Adagio for Strings wedi’i osod ar eiriau Agnus Dei, a daw’r cyngerdd i ben gyda Chichester Psalms gan Bernstein, sy’n feiddgar o ysbrydol ac afieithus.

Cofion cynnes,

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Aaron Copland (1900–90)

Appalachian Spring – cyfres(1945)

Cafodd y bale Appalachian Spring ei berfformio am y tro cyntaf ar 30 Hydref 1944 yn lleoliad clyd Awditoriwm Coolidge yn Llyfrgell y Gyngres, Washington DC. Hwn oedd yr unig gydweithrediad rhwng Aaron Copland a’r arloeswraig dawns fodern, Martha Graham. Mae’r bale wedi’i osod yn nhalaith Pennsylvania yn y 19eg ganrif ac mae’n portreadu diwrnod priodas cwpl ifanc sy’n archwilio eu dyheadau a’u hofnau ar drothwy eu bywyd newydd gyda’i gilydd. Byddai’n waith diffiniol i’r rhai a oedd yn ymwneud â chelfyddyd Americanaidd yr 20fed ganrif ac a oedd o’i phlaid.

Enillodd Copland Wobr Pulitzer am ei sgôr, sy’n dyner ac yn ddathliadol ar yr un pryd. Mae’r darn yn cynnwys llawer o’r elfennau a oedd yn nodweddiadol yn ei gerddoriaeth rhwng y 1930au a’r 1950au – harmonïau agored a llydan, bywiogrwydd rhythmig, symlrwydd twyllodrus, a naws Americanaidd nodweddiadol. Mae hefyd yn adnabyddus am gynnwys amrywiadau ar alaw’r Siglwyr, ‘Simple Gifts’ (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel ‘Lord of the Dance’).

Daeth Copland ar draws yr alaw mewn antholeg ac roedd wedi dotio at sut mai bwriad y darn oedd dawnsio iddo a’i fod yn cyfleu ysbryd o undod, er, bu’n tynnu coes am hyd a lled ei ymchwil yn nes ymlaen: ‘Wnes i ddim sylwi bod dim Siglwyr wedi ymsefydlu yng nghefn gwlad Pennsylvania erioed!’ Roedd Copland wedi sgorio’r bale ar gyfer 13 o offerynnau yn wreiddiol, cyn cynhyrchu cyfres gerddorfaol wyth symudiad yn 1945, sef y gwaith a glywn heddiw.

Nodyn y rhaglen © Sophie Redfern

Christopher Tin (ganwyd 1976)

Concerto i’r Piano, ‘The Pursuit of Happiness’ (2026)
première y DU

1 Across America
2 Speaking Out –
3 Hymn, Rag and Groove

Lara Downespiano

Cysylltodd Lara Downes â mi yn 2022 i gyfansoddi’r concerto, ‘The Pursuit of Happiness’, i nodi 250 mlynedd ers llofnodi Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, rhapsodi fywiog a beiddgar yw’r darn, sy’n dathlu’r delfrydau yr anelir atynt – delfrydau y mae pob Americanwr yn ei haeddu, yn ogystal â phob person arall, beth bynnag fo’i darddiad neu ei hunaniaeth.

Mae’r concerto, sydd wedi’i strwythuro mewn tri symudiad, wedi’i gyfansoddi yn nhraddodiad mawr America o gyfuno cerddoriaeth glasurol ag iaith lafar. Clywir y gwrthgyferbyniad hwn rhwng yr urddasol a’r gorfoleddus yn amlwg yn y symudiad cyntaf, ‘Across America’, sy’n dwyn ei enw o’r thema fugeiliol agoriadol sy’n portreadu ysblander tirwedd America. Yn ganolog i’r symudiad mae emyn urddasol, sy’n gosod ar gerddoriaeth y frawddeg enwocaf yn y Datganiad: ‘We hold these truths to be self-evident …’. Yn fuan, caiff yr emyn hwn ei addurno ag unawdau yn arddull cerddoriaeth canu gwlad Americanaidd ar y piano a riffiau bluegrass ar y ffidil, gan bendilio rhwng mawredd urddasol a gorfoledd dilyffethair, cyn mynd ar garlam i mewn i jamborî bywiog.

Mae’r ail symudiad, ‘Speaking Out’, yn dangos y rôl bwysig y mae geiriau’r Datganiad yn ei chwarae drwy gydol y concerto. Yma, rhan hiraf y Datganiad – sef rhestr hir o gwynion yn erbyn Brenin Siôr III – sy’n hawlio’r sylw. Defnyddir union eiriau’r Sefydlwyr, neu’r ‘Founding Fathers’, i greu’r alawon y mae pob offeryn yn y gerddorfa yn eu ‘siarad’ yn eu tro – er enghraifft, gellir canu alaw agoriadol y piano i’r geiriau ‘A prince/whose character is thus marked/by every act which may define/a Tyrant/is unfit to be a ruler [a ailadroddir dair gwaith]/of a free people.’ Mae offeryn ar ôl offeryn yn llafarganu cwynion, gan ymuno â’r corws o ymosodiadau nes dod i grescendo erbyn y gytgan ‘unfit to be a ruler/of a free people’.

Mae’r symudiad olaf, ‘Hymn, Rag and Groove’, yn cyfuno tri arddull cerddorol gwahanol. Emyn a gyfansoddwyd gen i yw’r cyntaf, sy’n gosod llinell olaf y Datganiad Annibyniaeth ei hun:  ‘And for the support of this Declaration, with a firm reliance on the protection of divine Providence, we mutually pledge to each other our Lives, our Fortunes and our sacred Honor.’ Teyrnged yw’r ail i’r arddull piano cerddedog a geir yn y ‘rag’, sef cyfuniad Americanaidd o arddulliau clasurol a jazz. Y grŵf yw’r trydydd arddull –  sef cyfraniad cerddorol America i’r byd, a wthiodd y ‘curiad i lawr’ i’r neilltu a’i ddisodli â gyriant a bywiogrwydd rhythmig.

Nodyn y rhaglen © Christopher Tin

EGWYL: 15 munud

William Grant Still (1895–1978)

Festive Overture(1944)

Fe wnaeth y cyfansoddwr toreithiog a aned yn Mississippi, William Grant Still, dorri tir newydd dro ar ôl tro yn ystod ei yrfa hir a chyffrous: ef oedd y cyfansoddwr Affricanaidd-Americanaidd cyntaf i arwain cerddorfa flaenllaw yn yr Unol Daleithiau, i’w opera gael ei pherfformio gan gwmni cenedlaethol mawr, ac i un o’i operâu gael ei darlledu ar y teledu. Roedd yn ffigwr arloesol a chanddo gysylltiadau agos a sawl ffigwr yn yr Harlem Renaissance, sef y grŵp llac o awduron, artistiaid a meddylwyr eraill a geisiodd ail-lunio a dathlu hunaniaeth Affricanaidd-Americanaidd ar ddechrau’r 20fed ganrif. Yn wir, fe wnaeth ei Symffoni ‘Afro-American’ ennyn edmygedd eang ac fe glodforwyd y perfformiadau ohoni ar hyd a lled yr Unol Daleithiau yn dilyn première y gwaith yn 1931.

Ysgrifennodd Still ei Festive Overture yn ystod y degawd canlynol, mewn dim ond ychydig wythnosau, ac mewn ymateb i gystadleuaeth cyfansoddi agorawd a gynhaliwyd ledled yr Unol Daleithiau gan Gerddorfa Symffoni Cincinnati yn 1944. Enillodd ei ddarn drwy bleidlais unfrydol, ac nid yw’n anodd deall pam wrth wrando arno. Mae’n ddarn cyffrous sy’n hoelio sylw ar unwaith wrth iddo agor gyda ffanffer mawreddog, cyn lansio i mewn i brif thema sy’n brasgamu’n hyderus (ac y mae iddi naws jazz), sy’n gwrthgyferbynnu ag ail alaw dawelach a thywyllach yn ddiweddarach. Mae Still yn clatsio ei ddwy thema ynghyd, ac maent yn dychwelyd tua’r diwedd (gyda chyfraniadau amlwg gan seiloffon y gerddorfa), cyn i fwy o ffanfferau wthio’r agorawd i’w uchafbwynt disglair.

Nodyn y rhaglen © David Kettle

Samuel Barber (1910–81)

Agnus Dei(1967)

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Ailwampiad corawl o’i Adagio for Strings poblogaidd, a labelwyd ‘y gerddoriaeth dristaf yn y byd’, yw Agnus Dei gan Samuel Barber. Mae cysylltiad annileadwy rhwng yr Adagio a digwyddiadau emosiynol a gofidus, gan iddo gael ei chwarae yn angladdau Franklin Delano Roosevelt, Albert Einstein a Grace Kelly (ymhlith sawl un arall), a threfnodd Jackie Kennedy i Gerddorfa Symffoni Genedlaethol Washington ei chwarae i neuadd wag ar ôl i’w gŵr, JFK, gael ei lofruddio yn 1963.

Fodd bynnag, fel symudiad araf Pedwarawd Llinynnol Op. 11 Barber y dechreuodd y darn, lle mae’n gwahanu dau symudiad allanol hynod egnïol a chymhleth, ac wrth gwrs, mae’n dal i fodoli ar y ffurf honno. Roedd yr arweinydd Arturo Toscanini yn meddwl y byddai’r Adagio yn gwneud gwaith cerddorfaol gwych, a gofynnodd i’r cyfansoddwr 26 oed fynd ati i wireddu hynny. Perfformiwyd y gwaith am y tro cyntaf gan y Gerddorfa Symffoni Genedlaethol mewn darllediad radio yn 1938. Wrth ei ailwampio ar gyfer corws yn 1967, ni newidiodd Barber fawr ddim, gan adael i’w emosiwn calon-agored dreiddio drwy gyfres o alawon araf, troellog, tebyg i lafargan, sy’n codi i uchafbwynt angerddol ysgytwol.

Nodyn y rhaglen © David Kettle

TESTUN

Agnus Dei, qui tollis peccata mundi:
miserere nobis,
Agnus Dei, qui tollis peccata mundi:
dona nobis pacem.

CYFIEITHIAD

Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd,
trugarha wrthym,
Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd,
dyro i ni heddwch.

Leonard Bernstein (1918–90)

Chichester Psalms (1965)

1 Salmau 108 a 100
2 Salmau 23 a 2
3 Salmau 131 a 133

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Daeth Leonard Bernstein yn enwog ym mhedwar ban byd yn sydyn iawn yn sgil llwyddiant West Side Story yn 1957. Ac ar ôl cymryd yr awenau gyda Cherddorfa Ffilharmonig enwog Efrog Newydd y flwyddyn ganlynol, roedd yn teimlo bod angen seibiant arno yn 1965 – ond dim ond er mwyn iddo allu cyfansoddi sioe gerdd newydd sbon ar gyfer Hollywood, un a ysbrydolwyd gan y ddrama The Skin of Our Teeth gan Thornton Wilder.

Serch hynny, roedd yn gyfnod anodd i Bernstein ar lefel bersonol. Roedd eisoes yn ei chael yn anodd dod i delerau â llofruddiaeth John F. Kennedy – cyfaill yr oedd ganddo feddwl mawr ohono – ddwy flynedd ynghynt, ac fe gafodd ei siglo i’w seiliau gan lofruddiaeth ffrind arall – ei gyd-gyfansoddwr, Marc Blitzstein – ym mis Ionawr 1965. Yn waeth na hynny, aeth y prosiect The Skin of Our Teeth i’r gwellt.

Yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, derbyniodd Bernstein lythyr gan y Tra Pharchedig Walter Hussey, Deon Eglwys Gadeiriol Chichester yng Ngorllewin Sussex, ac un o hyrwyddwyr nodedig y celfyddydau cyfoes. Tybed a fyddai gan Bernstein ddiddordeb mewn ysgrifennu darn corawl newydd ar gyfer yr Eglwys Gadeiriol, yn seiliedig ar salm efallai? Bachodd Bernstein ar y syniad, ac atebodd gan awgrymu cyfres o salmau. Atebodd Hussey yn ei dro gan nodi y dylai Bernstein deimlo’n rhydd i gyfansoddi mewn modd ysgafnach: ‘Byddai llawer ohonom wrth ein boddau pe bai tinc o West Side Story yn y gerddoriaeth.’

Roedd mwy na thinc o West Side Story yng ngwaith gorffenedig Bernstein – a hyd yn oed mwy o’i gerddoriaeth anorffenedig ar gyfer The Skin of Our Teeth, a ailddefnyddiodd yn helaeth yn Chichester Psalms drwyddo draw. Roedd iaith, fodd bynnag, yn destun pryder: teimlai Bernstein o’r cychwyn na allai ei osodiad ond bod yn Hebraeg, gan na allai feddwl am y salmau mewn unrhyw ffordd arall. Roedd Hussey’n cytuno, ac fe aeth ar ofyn Is-Ganon yr Eglwys Gadeiriol – a oedd wedi astudio’r iaith – i hyfforddi’r côr i ynganu.

Trefnodd Bernstein i’r Chichester Psalms gael eu perfformio am y tro cyntaf yn Efrog Newydd ar 15 Gorffennaf 1965, lle bu’n arwain y New York Philharmonic a’r Camerata Singers – ond yn Chichester y rhoddwyd y perfformiad cyntaf ym Mhrydain, ar 31 Gorffennaf 1965. Diystyrwyd y gwaith yn ‘arwynebol ac yn slic’ gan un adolygydd, ond ers hynny mae wedi ennyn edmygedd ac wedi sicrhau ei le mewn rhaglenni cyngherddau. Yn wir, mae’n debyg mai Chichester Psalms Bernstein yw’r unig waith corawl Hebraeg yn y repertoire corawl rheolaidd.

Ar ôl corâl llawen (o’r gerddoriaeth ar gyfer The Skin of Our Teeth nas defnyddiwyd gan Bernstein, a oedd yn gosod y geiriau ‘Save the human race’), mae’r symudiad cyntaf yn parhau gyda cherddoriaeth gyflymach sy’n debycach i ddawns, gan adeiladu i dri uchafbwynt grymus. Yn ei hanfod, cân syml o heddwch i soprano unawdol yw’r ail symudiad, ond mae ymwthiadau ymosodol gan leisiau gwrywaidd y côr yn tarfu arni’n greulon mewn adran ganolog gyflym a ffyrnig.

Mae’r trydydd symudiad yn agor gyda cherddoriaeth fwyaf anghyseiniol y Chichester Psalms, harmoneiddiad llwm o alaw gorâl agoriadol y gwaith. Mae utgorn unawdol yn llafarganu ychydig frawddegau o gân yr ail symudiad yn ddifrifol, cyn i’r gerddoriaeth droi’n hwiangerdd sy’n siglo ac yn cysuro. Mae Chichester Psalms yn gorffen mewn tawelwch rhyfeddol wrth weddïo am undod.


Nodyn y rhaglen © David Kettle

TESTUN

Symudiad 1
Urah, hȧnevel, v’chinor!
A-irah shaḥar!

Hariu l’Adonai kol haarets.
Iv’du et Adonai b’simḥa.
Bo-u l’fanav bir’nanah.
D’u ki Adonai Hu Elohim.
Hu asanu, v’lo anaḥnu.
Amo v’tson mar’ito.
Bo-u sh’arav b’todah,
Ḣatseirotav bit’bilah,
Hodu lo, bar’chu sh’mo.
Ki tov Adonai, l’olam ḥas’do,
V’ad dor vador emunato.

Symudiad 2
Adonai ro-i, lo eḥsar.
Bin’ot deshe yarbitseini,
Al mei m’nuḥot y’naḥaleini,
Nafshi y’shovev,
Yan’ḥeini b’ma’aglei tsedek,
L’ma’an sh’mo.
Gam ki eilech
B’gei tsalmavet,
Lo ira ra,
Ki Atah imadi.
Shiv’t’cha umishan’tecba
Hemah y’naḥamuni.
Ta’aroch l’fanai shulchan
Neged tsor’rai
Dishanta vashemen roshi
Cosi r’vayah.
Ach tov vahesed
Yird’funi kȯl y’mei ḥayai,
V’shav’ti b’veit Adonai
L’orech yamim.

Lamah rag’shu goyim
Ul’umim yeh’gu rik?
Yit’yats’vu malchei erets,
V’roznim nos’du yaḥad
Al Adonai v’al m’shiḥo.
N’natkah et mos’roteimo,
V’nashlichah mimenu avoteimo.
Yoshev bashamayim
Yis’ḥak, Adonai
Yil’ag lamo!

Symudiad 3
Adonai, Adonai,
Lo gavah libi,
V’lo ramu einai,
V’lo hilachti
Big’dolot uv’nifl aot
Mimeni.
Im lo shiviti
V’domam’ti,
Naf’shi k’gamul alei imo,
Kagamul alai naf’shi.
Yaḥel Yis’rael el Adonai
Me’atah v’ad olam.

Hineh mah tov,
Umah nayim,
Shevet aḥim
Gam yaḥad.

CYFIEITHIAD

Symudiad 1
Deffro di, offeryn dectant a thelyn.
Fe ddeffroaf ar doriad gwawr!

Rhowch wrogaeth i’r Arglwydd, yr holl ddaear.
Addolwch yr Arglwydd mewn llawenydd.
Dewch o’i flaen â chân.
Gwybyddwch mai’r Arglwydd sydd Dduw;
Ef a’n gwnaeth, a’i eiddo ef yr ydym,
Ei bobl a defaid ei borfa.
Dewch i mewn i’w byrth â diolch,
Ac i’w gynteddau â mawl.
Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.
Oherwydd da yw’r Arglwydd; y mae ei gariad hyd byth,
A’i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Symudiad 2
Yr Arglwydd yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.
Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision,
A thywys fi gerllaw dyfroedd tawel,
Ac y mae ef yn fy adfywio.
Fe’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder,
Er mwyn ei enw.
Er imi gerdded
Trwy ddyffryn tywyll du,
Nid ofnaf unrhyw niwed,
Oherwydd yr wyt ti gyda mi,
A’th wialen a’th ffon
Yn fy nghysuro.
Yr wyt yn arlwyo bwrdd o’m blaen
Yng ngŵydd fy ngelynion;
Yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew,
Y mae fy nghwpan yn llawn.
Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd
Yn fy nilyn bob dydd o’m bywyd,
A byddaf yn byw
Yn nhŷ’r Arglwydd weddill fy nyddiau.

Pam y mae’r cenhedloedd yn terfysgu
A’r bobl yn cynllwyn yn ofer?
Y mae brenhinoedd y ddaear yn barod,
A’r llywodraethwyr yn ymgynghori â’i gilydd
Yn erbyn yr Arglwydd a’i eneiniog:
“Gadewch i ni ddryllio eu rhwymau,
A thaflu ymaith eu rheffynnau.”
Fe chwardd yr un sy’n eistedd yn y nefoedd;
Y mae’r Arglwydd
Yn eu gwatwar!

Symudiad 3
O Arglwydd,
Nid yw fy nghalon yn ddyrchafedig,
Na’m llygaid yn falch,
Nid wyf yn ymboeni
Am bethau rhy fawr
Nac am bethau rhy rhyfeddol i mi.
Ond yr wyf wedi tawelu
A distewi fy enaid,
Fel plentyn ar fron ei fam,
Fel plentyn y mae fy enaid.
O Israel, gobeithia yn yr Arglwydd
Yn awr a hyd byth.

Mor dda
Ac mor ddymunol yw
I frodyr
Fyw’n gytûn.

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Ymunwch â ni eto’r tymor nesaf wrth i ni barhau ar ein taith gerddorol gyda rhaglen ysbrydoledig o berfformiadau i’ch synnu, eich swyno a’ch symud. O gampweithiau poblogaidd i ddarganfyddiadau newydd cyffrous, bydd cyngherddau tymor 2026/27 yn dod ag artistiaid ardderchog a repertoire cyffrous ynghyd mewn cyfres sydd â rhywbeth ar ddant pawb. Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl ar gyfer tymor arall o brofiadau bythgofiadwy.

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £8 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Lara Downes piano

Ebru Yildiz

Ebru Yildiz

Cafodd Lara Downes ei hanrhydeddu’n ddiweddar fel Menyw Glasurol y Flwyddyn gan Performance Today NPR.

Mae’n cyfuno gwaith fel unawdydd y mae galw mawr amdani, artist recordio sydd wedi bod ar frig y siartiau, a phersonoliaeth ar NPR (National Public Radio) lle bu’n cyflwyno ei rhaglen fideo boblogaidd, Amplify with Laura Downes; darlledwyd y bennod olaf yr hydref diwethaf.

Mae ei chyngherddau diweddar a’r rhai sydd ganddi ar y gweill yn cynnwys ymddangosiadau gyda cherddorfeydd Philadelphia, Boston, Detroit, Dallas, Louisville a Indianapolis, ymysg eraill, a datganiadau a chyfnodau preswyl yn y Lincoln Center, Disney Hall, Ravinia, Tanglewood, Gŵyl Gilmore, Carolina Performing Arts, Washington Performing Arts, Caramoor, Cal Performances, a’r Saratoga Performing Arts Center, ymysg eraill.

Mae hi wedi cydweithio â grŵp eclectig o artistiaid, gan gynnwys Pedwarawd Miró, Rhiannon Giddens, Rita Dove, Brian Stokes Mitchell, John McWhorter a Daniel Hope. Mae ei phartneriaethau agos â chyfansoddwyr blaenllaw yn rhychwantu genres a chenedlaethau, gyda phremières a chomisiynau ar y ffordd gan Billy Childs, Valerie Coleman, Arturo O’Farrill, Teddy Abrams a Clarice Assad, a llawer mwy.

Mae hi’n gwneud mwy a mwy o waith fel curadur a phartner creadigol, gan weithio gyda sefydliadau fel y Lincoln Center, Cerddorfa Siambr Los Angeles a Gŵyl Brevard, yn ogystal â bod yn Artist Preswyl gyda Classical KDFC yn San Francisco a Classical KUSC yn Los Angeles.

Mae hi wedi rhyddhau albymau ar labeli Pentatone, Sony Masterworks a Sono Luminus. Ei recordiad diweddaraf yw Rhapsody in Blue Reimagined, sy’n dilyn ei halbwm Love at Last a ryddhawyd yn 2023. Mae ei halbwm newydd, sef Concerto Florence Price i’r Piano gyda Cherddorfa Philadelphia a Yannick Nézet-Séguin, yn cael ei ryddhau fis nesaf.

Mae ei hymrwymiad brwd i ddinasyddiaeth ac eiriolaeth wedi arwain at ei rôl fel Llysgennad Artistig ar gyfer Headcount, sefydliad amhleidiol sy’n defnyddio pŵer cerddoriaeth i gofrestru pleidleiswyr ac i annog pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth.

Yn ddiweddar, lansiodd Lara Downes y ‘Declaration Project’, sef menter genedlaethol sy’n nodi 250 mlynedd ers sefydlu’r Unol Daleithiau drwy ddod â chymunedau o America at ei gilydd i ddod o hyd i dir cyffredin drwy fynd i graidd addewid sylfaenol y wlad: yr hawliau diymwad ‘Life, liberty and the pursuit of happiness’. Drwy ymgysylltu â chymunedau aml-genhedlaeth ar ffurf sgyrsiau bwrdd crwn, gweithdai ysgrifennu cynhyrchiol, ac ymarfer creadigol cydweithredol, mae hi’n annog myfyrdod a mynegiant sy’n ailddychmygu’r addewid o ddyfodol ar y cyd.

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae dros 120 o gantorion yng Nghorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ac mae’n un o’r prif gorau symffoni cymysg yn y Deyrnas Unedig. Tra’n cadw ei statws amatur, mae’n gweithio i’r safonau proffesiynol uchaf o dan y Cyfarwyddwr Artistig, Adrian Partington. Yn cynnwys cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd, mae’r corws, sydd wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, yn cydweithio’n rheolaidd a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â chynnal ei gyngherddau ei hun.

Ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar mae perfformiadau o Stabat mater Poulenc a pherfformiad cyntaf y byd o Sound of Stardust Alexander Campkingydag enillydd Gwobr y Gynulleidfa yng nghystadleuaeth y BBC Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano Rolong a’r arweinydd corawl Sofi Jeannin; 13eg Symffoni Shostakovich gyda’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft; a Dewi Sant Syr Karl Jenkins ym mlwyddyn ei 80fed pen-blwydd. Mae’r corws yn ymddangos yn flynyddol hefyd yn y BBC Proms, ac ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar mae Requiem Verdi, Harmonium John Adamsgyda Ryan Bancroft a Sea Symphony Vaughan Williams gydag Andrew Manze.

Y tymor diwethaf perfformiodd y corws Stabat mater Rossinigydag enillydd Gwobr Cân Canwr y Byd Caerdydd 2021, Masabane Cecilia Rangwanasha a Nil Venditti; Messiah Handel gyda’r arbenigwr ar gerddoriaeth gynnar, John Butt; a Missa solemnis Beethoven gydag Andrew Manze, yn ogystal â’r cyngerdd carolau blynyddol a rhaglen o waith Brahms gyda Ryan Bancroft.

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn frwd dros gerddoriaeth Gymreig a chyfoes a rhoddodd yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl ei pherfformiad cyntaf, a ryddhawyd hefyd ar CD. Mae wedi rhoi perfformiadau cyntaf o waith sawl cyfansoddwr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out Kate Whitley, wedi’i osod ar eiriau Araith Malala Yousafzai i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.

Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar drac sain Paul Mealor i Wonders of the Celtic Deep ar BBC Wales.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys ei Ph Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Cyfarwyddwr Artistig
Adrian Partington

Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Christopher Williams

Soprano 1
Amelia Beecroft
Bethan Evans
Bethan Nicholas-Thomas
Claire Hardy
Eleanor Cantrill
Elizabeth Aitken
Elizabeth Phillips
Ella Edwards Beavington
Hannah Robertson
Helen Thomas
Isabel D’Avanzo
Iustina Chirila
Janaki Wickramasinghe
Joanna Osborn
Katie Cross
Leila Saleh
Lucie Jones
Lydia Wilson
Rachael Leary
Rosie Moore
Sally Glanfield
Sarah Jane Griffiths
Vanessa John-Hall 

Soprano 2
Caitlin O’Boyle
Caroline Thomas
Carolyn Lee
Emily Hopkins
Esme Daniell-Greenhalgh
Florence Waddington
Frankie Ingall
Hannah Williams
Margaret Lake
Melanie Taylor
Penelope George
Rebecca Reavley
Rhian Davies
Rhiannon Humphreys 

Alto 1
Alison Davies
Avery Rabbitt
Catherine Bradfield
Cerys Thomas
Denise Cooke
Heather Price
Jessica Williams
Kate Reynolds
Kathrin Hammer
Lisa May
Matilda Holder
Megan Veiga-Troso
Naomi Hitchings
Nazanin Dast Afkan
Rhian Pullen
Sara Peacock
Shanta Miller
Sophie Yelland
Vicki Westwell
Yirui Wang
Zozi Sookanadenchetty 

Alto 2
Alex Butler
Cerian Rolls
Josie Nemeth
Julie Wilcox
Meredith Gardiner
Sarah Willmott
Sian Schutz
Yasmin Browne
Yvonne Higginbottom

Tenor 1
Andrew Lunn
Andrew Morris
Jake Bussell
Keith Davies
Meilyr Dafydd
Nick Willmott
Philip Holtam 

Tenor 2
Ethan Stockham
Michael Willmott
Orin Daniel
Paul Mizen
Peter Holmes
Richard Shearman
Rory McIver
Sam Proll 

Bas 1
Alun Williams
Charlie Gedge
Daniel Williams
David John Davies
Emyr Wynne Jones
Ethan Davies
John Davies
Lucas Maunder
Miles Smith
Noah Boneham-Hill
Peter Cooke
Will Walshe-Grey 

Bas 2
David Hutchings
Evan Hancock
Gareth Nixon
Gregg Hollister
Jack Irwin
James Downs
Mike Osborn
Oliver Hodgson

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Savva Zverev
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Alejandro Trigo
Carmel Barber
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Kerry Gordon-Smith
Ruth Heney **
Emilie Godden
Laura Senior
Grace Shepherd
Kirsty MacLeod

Ail Ffidlau
Anna Smith *
James Wicks
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Christiana Mavron
Siân McInally
Gary George-Veale
Tom Bott

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Anna Growns
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Dáire Roberts
Nancy Johnson
Mungo Everett-Jordan

Soddgrythau
Rachel Helleur-Simcock ‡
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Kathryn Graham

Basau Dwbl
Alexander Jones #
Richard Lewis
Emma Prince
Yat Hei Lee
Ketan Curtis
Aisling Reilly

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Charlotte Thomas

Piccolo
Charlotte Thomas

Oboau
Polly Bartlett
Sam Baxter
Amy McKean

Cor anglais
Amy McKean †

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White
Lenny Sayers +**

Clarinét Bas
Lenny Sayers †+**

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Patrick Bolton
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn

Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Jack Pilcher May
Jack Sewter
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †

Trombonau
Donal Bannister *
Ross Johnson

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Ramon Branch

Timpani
Steve Barnard *

Offrynnau Taro
Phil Girling
Phil Hughes
Andrea Porter
Rhydian Griffiths
Max Ireland
Sarah Mason
Sam Jowett

Telynau
Sally Pryce
Nia Evans

Piano/Selesta
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Uwch Oruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications