

Adleisiau o Ffrainc
Nos Iau 26/2/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Jean Sibelius
Pelléas et Mélisande – cyfres 29’
Maurice Ravel
Concerto Piano i’r Llaw Chwith 19’
EGWYL: 15 munud
Ernest Chausson
Symffoni yn B feddalnod fwyaf 30’
Clelia Cafiero arweinydd
Nicholas McCarthy piano
Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf
Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Classical Live; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Croeso cynnes i’n cyngerdd heno, lle mae’r arweinydd addawol o’r Eidal Clelia Cafiero yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i gyflwyno rhaglen â cherddoriaeth Ffrengig yn ganolog iddi.
Yn ei gyfres Pelléas et Mélisande trodd Sibelius at ddrama Maurice Maeterlinck o’r un enw – trasiedi a ysbrydolodd ymatebion gan gyfansoddwyr mor wahanol â Debussy a Schoenberg. Addasodd Sibelius y gerddoriaeth yr oedd wedi’i chyfansoddi’n wreiddiol i gyd-fynd â llwyfaniad o’r ddrama yn Helsinki i lunio cyfres gyngerdd sy’n llawn teimlad ac yn amlygu ei glust fain ar gyfer lliwio cerddorfaol.
Mae Nicholas McCarthy – sydd hefyd yn ymddangos gyda BBC NOW am y tro cyntaf – yn artist sydd wedi arfer goresgyn rhwystrau, ac yntau wedi cael ei eni heb law dde.Mae ganddo berthynas arbennig o agos â Choncerto Ravel i’r Llaw Chwith, a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer Paul Wittgenstein (a gollodd ei fraich dde yn y Rhyfel Byd Cyntaf), ac roedd canmol mawr i’w berfformiad o’r gwaith yng nghyngerdd BBC Proms y llynedd.
I gloi, cawn Symffoni Chausson yn B feddalnod fwyaf, gwaith sy’n llawn cyfoeth Wagneraidd mewn strwythur tyn sy’n dangos dylanwad ei athro, César Franck.
Mwynhewch!
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Jean Sibelius (1865–1957)
Pelléas et Mélisande – cyfres, Op. 46 (1905)

1 Wrth Borth y Castell
2 Mélisande
3 Ar Lan y Môr
4 Gwanwyn yn y Parc
5 Y Tair Chwaer Ddall
6 Pastorale
7 Mélisande wrth y Droell
8 Entr’acte
9 Marwolaeth Mélisande
Anaml y gwelir drama symbolaidd drasig Maurice Maeterlinck, Pelléas et Mélisande, mewn theatrau heddiw, ond fe fwriodd gysgod rhyfeddol o hir dros gyfansoddwyr ar droad yr 20fed ganrif. Cyfansoddodd Gabriel Fauré sgôr y cynhyrchiad cyntaf yn Llundain ym 1898, bedair blynedd cyn i Claude Debussy gwblhau’r fersiwn derfynol o’i opera bwysig, ac i Arnold Schoenberg ddechrau gweithio ar ei gathl symffonig. Ymunodd Jean Sibelius yn yr hwyl yn fuan wedyn, gan ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer cynhyrchiad yn Helsinki, cyn ei hailweithio i greu’r gyfres gyngerdd naw rhan hon.
Ar ôl ymchwydd mawreddog yr agoriad, a gafodd ail fywyd 64 mlynedd yn ddiweddarach fel thema The Sky at Night ar deledu’r BBC, cwrddwn â’r fenyw yng nghanol triongl serch y ddrama: yn briod ag un dyn ond ar fin syrthio mewn cariad â’i frawd. Mae’r cariadon condemniedig yn cwrdd ger y môr (i drac sain drwgargoelus iawn) ac yn y parc (i walts hwyliog), cyn i obeithion Mélisande am hapusrwydd ddechrau pylu – ac yna, yn ‘Mélisande wrth y Droell’, chwalu’n gyfan gwbl yn ôl pob tebyg. Mae’r ‘Entr’acte’ rhyfedd o sionc (rhagarweiniad i act olaf y ddrama yn wreiddiol) yn teimlo fel petai wedi’i gludo i mewn o ddarn cwbl wahanol, cyn i Sibelius gau pen y mwdwl mewn diweddglo hiraethus ond trasig, fel sy’n briodol. Does dim haul ar fryn yma.
Nodyn y rhaglen © Will Fulford-Jones
Maurice Ravel (1875–1937)
Concerto Piano i’r Llaw Chwith (1929–30)

Lento – Più lento – Allegro – Più vivo ed accelerando – Tempo primo – Allegro
Nicholas McCarthy piano
Cyfansoddodd Ravel ei Goncerto i’r Llaw Chwith mewn ymateb i gomisiwn gan y pianydd o Awstria Paul Wittgenstein (brawd yr athronydd) a gollodd ei fraich dde yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Er bod Ravel eisoes yn gweithio ar y Concerto i’r Piano yn G fwyaf pan gyfarfu â Wittgenstein yn ystod ymweliad â Fienna ym mis Mawrth 1929, taflodd ei hun yn egnïol i mewn i’r prosiect, a chyfansoddi’r ddau goncerto ar yr un pryd. Wedi’i gwblhau ym 1930, cafodd y Concerto i’r Llaw Chwith ei berfformiad cyntaf yn Fienna ar 5 Ionawr 1932, ychydig ddyddiau’n unig cyn première Paris o’r Concerto yn G fwyaf. Ravel a arweiniodd y perfformiad cyntaf o'r Concerto i'r Llaw Chwith ym Mharis gyda Wittgenstein yn unawdydd yn Ionawr 1933.
Er bod y ddau goncerto’n adlewyrchu hoffter Ravel o jazz, mae’r Concerto i’r Llaw Chwith yn wahanol i’r un yn G fwyaf nid yn unig yn ei ffurf un symudiad rhapsodig ond hefyd yn ei naws dywyll, fygythiol. Mae yma ryw ymdeimlad dirgelaidd, rhybuddiol o’r cychwyn cyntaf. Gan agor yn nyfnderoedd y gerddorfa gyda rwmblan anghlywadwy bron yn y basau dwbl a’r soddgrythau, sleifia basŵn dwbl i mewn i gyflwyno’r thema gyntaf ac yna ceir motiff hiraethus ar y cyrn, hwythau mewn cwmpasran isel. Mae’r ddau syniad hyn yn adeiladu’r cyflwyniad cerddorfaol sy’n ymledu trwy’r cwmpasrannau offerynnol mewn crescendo estynedig sy’n cyrraedd uchafbwynt gyda nodau cyntaf y piano yn unawd dramatig y cadenza.
Er mai ar gyfer un llaw yr oedd yn sgrifennu, roedd Ravel eisiau rhoi’r argraff o soniaredd lawn fel pe bai dwy law wrthi. Mae’r cadenza piano, sy’n ymsefydlu yng nghywair y tonydd, D fwyaf, yn datgelu ymagwedd newydd ddisglair at bianyddiaeth sy’n nodweddu’r concerto cyfan; manteisir ar ystod lawn yr allweddell drwy gyfuniad o neidiau athletaidd (mewn dilyniant cyflym yn aml), cordiau rhaeadrol, arpeggios eang a chyferbynnu eithafion y gwmpasran, a’r cyfan yn atseinio’n gyfoethog drwy’r pedal cynnal. Caiff llinellau melodig eu lleisio’n ddeheuig diolch i siâp y llaw chwith ei hun, a’r bawd mewn lleoliad delfrydol i bwysleisio nodyn uchaf pob cord.
Yn dilyn telynegiaeth hiraethus yr adran gyntaf, mae naws ymdeithgan yr Allegro yn cyflwyno cyferbyniad dramatig o ran awyrgylch, gwead a chywair (E fwyaf). Yn llawn curiad, egni ac ostinato obsesiynol, mae’r Allegro’n gyfuniad o dri phrif syniad: cordiau tripled yn rhaeadru (yn dod i mewn yn fortissimo ar driawd o utgyrn), motiff cord cromatig jazzaidd, a phrif thema sionc mewn tripledi staccato. Mae’r rhythmau di-baid yn creu effaith moto perpetuo hir sy’n cael ei chwtogi yn y pen draw gan ddychweliad dramatig y thema o’r adran araf agoriadol. Yn dilyn cadenza olaf hir y piano, daw deunydd yr Allegro’n ôl am ennyd i roi diweddglo ysgubol.
Nodyn y rhaglen © Caroline Rae
EGWYL: 15 munud
Ernest Chausson (1855–99)
Symffoni yn B feddalnod fwyaf, Op. 20 (1889–91)

Gyda’i delynegiaeth ysgubol a llyfnder ei arddull, mae unig Symffoni Chausson yn adleisio chwyrliadau moethus a llinellau hirion y mudiad Art Nouveau. Dechreuodd ar y gwaith ym 1889 ar sail awgrym gan frawd-yng-nghyfraith ei wraig, yr arlunydd Argraffiadol Henry Lerolle (1848–1929), y mae’r gwaith wedi’i gyflwyno iddo. Mae’r modd y gwnaeth Chausson ailweithio, dileu ac ychwanegu at lawysgrif ei sgôr yn dangos yn eglur gymaint yr oedd yn amau ei hun wrth gyfansoddi’r symffoni, a bu raid iddo droi at ei gydweithwyr am gyngor ac anogaeth. Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf ar 18 Ebrill 1891, gan y Société Nationale de Musique o dan arweiniad Chausson.
Roedd Chausson yn ddisgybl i César Franck ac mae ei symffoni’n dilyn ôl traed y meistr gyda’i ddifrifoldeb a’i ffurf gylchol, gan ailgyflwyno a thrawsffurfio themâu cynharach mewn symudiadau diweddarach. Mae sawl agwedd ar y gwaith yn rhyfedd o debyg i Symffoni Franck ei hun yn D leiaf (1886–88), gyda strwythurau cyfatebol o ran cywair a ffurf, a’r defnydd o unawd cor anglais yn yr ail symudiad. Ond mae hyblygrwydd yn symffoni Chausson sy’n creu undod rhwng y tri symudiad. Yn ogystal â Franck, roedd Chausson yn edmygydd brwd o Wagner, i’r fath raddau nes iddo sicrhau ymweliad â Bayreuth i weld Parsifal yn ystod ei fis mêl. Cyfansoddodd Chausson ei symffoni ar yr un pryd â’i opera La roi Arthus (1886–95), sy’n gyforiog o ddefnydd Wagneraidd o leitmotifs. Ymdreiddiodd dylanwad Wagner i’r symffoni hefyd, yn y trefniant cerddorfaol a’r arddulliadau harmonig sydd mor nodweddiadol ohono.
Efallai bod symffoni Chausson yn y cywair mwyaf, ond roedd ei gyd-gyfansoddwr Vincent d’Indy yn iawn pan ddywedodd fod ‘llen o dristwch’ yn fantell amdani. Mae’r cyflwyniad hir araf i’r symudiad cyntaf yn gosod naws hiraethus, er bod dechrau’r Allegro vivo, a gyhoeddir yn frwd ar y ffidlau a’r chwythbrennau, yn lliniaru’r dwyster gydag alaw fwy gobeithiol, a glywir gyntaf ar gorn a basŵn cyn cael ei harddel yn fywiog gan y gerddorfa.
Mae’r ail symudiad – a achosodd y gwewyr mwyaf i’r cyfansoddwr – yn parhau i bendilio fel hyn rhwng golau a thywyllwch trwy ddwy alaw gyferbyniol. I ddechrau, mae Chausson yn ffrwyno effaith lawn yr alaw gyntaf, cytgan fynegiannol a dwys ar y llinynnau, a cheir adran ganol dawelach a mwy gobeithiol cyn i honno ddychwelyd yn ei holl ogoniant.
Mae’r symudiad olaf yn ffrwydrad o linynnau cythryblus, yn ailgyflwyno’r themâu a glywyd drwy gydol y gwaith, ac arwriaeth ac ymdrech yn cystadlu i gael llais. Ar ôl ildio i gorawl pres cynnil ond urddasol, daw’r symffoni i ben gan gau’r cylch llawn gyda datganiad terfynol o’r thema bum nodyn fygythiol a’n cychwynnodd ar y daith drom, ond angerddol.
Nodyn y rhaglen © Kerry Bunkhall
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:
Os ydych chi wedi mwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’r cyngerdd hwn sydd ar y gweill. Fel aelod cyfredol o’r gynulleidfa, cewch brynu tocynnau ar ei gyfer am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.
Cariad a Thrawsnewid
Nos Iau 12/3/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Britten An American Overture
Joan Tower Love Letters première y DU
Weber Symffoni Rhif 2
Hindemith Metamorffosis Symffonig o Themâu gan Carl Maria von Weber
Tomas Djupsjöbacka arweinydd
Steven Banks sacsoffon
GODIDOG | GOSGEIDDIG | TRAWSFFURFIOL
Ymunwch â BBC NOW am noson sy’n dathlu cariad, egni a thrawsnewid cerddorol. Bydd American Overture gwefreiddiol Britten yn agor y cyngerdd gyda naws bywiog, ac yna ceir y première Prydeinig o Love Letters cariadus Joan Tower, wedi’i berfformio gan y sacsoffonydd rhagorol, Steven Banks. Yna, byddwn yn teithio i fyd Weber, yn gyntaf drwy swyn a ffraethineb ei Ail Symffoni, cyn i ni glywed ailddychmygiad lliwgar Hindemith o alawon Weber yn ei Fetamorffosis Symffonig. Dyma noson o synau beiddgar, straeon teimladwy a cherddoriaeth sy’n ailddyfeisio ei hun yn gyson.
Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw
Bywgraffiadau
Clelia Cafiero arweinydd
Cyril Cosson
Cyril Cosson
Enillodd yr arweinydd o Napoli Clelia Cafiero sylw rhyngwladol am y tro cyntaf gyda’i hymddangosiad cyntaf yn y Chorégies d’Orange yn 2023, lle arweiniodd Carmen, ac yn fwy diweddar wrth gamu i mewn ar fyr rybudd i arwain y fersiwn Ffrangeg o Don Carlos yn yr Opéra de Paris.
Y tymor hwn mae hi’n gwneud sawl ymddangosiad cyntaf pwysig, yn eu plith Carmen yn Opera Australia, La bohème yn y Staatsoper Berlin a La traviata yn y Semperoper Dresden. Mae hi’n dychwelyd at English National Opera hefyd.
Yn y neuadd gyngerdd mae’n gwneud ymddangosiadau cyntaf gyda Cherddorfa Sinfonica di Milano, Orchestre National de France, Cerddorfa Ffilharmonig y BBC, Cerddorfa Symffoni Malmö, Cerddorfa Symffoni La Monnaie, a Cherddorfa Symffoni Lucerne. Mae hi’n dychwelyd hefyd at yr Orchestre national Montpellier Occitanie am gyfres o gyngherddau.
Ymhlith uchafbwyntiau’r tymor diwethaf cafwyd ymddangosiadau cyntaf gyda’r ENO, Opéra Royal de Wallonie yn Liège, Cincinnati Opera a Sefydliad Opera Nikikai yn Tokyo, yn ogystal ag Orchestre National de Lyon, Cerddorfa Genedlaethol Iwerddon a Gŵyl Napa Valley.
Rhwng 2022 a 2025 hi oedd Prif Arweinydd Gwadd yr Opéra de Tours, lle arweiniodd gynyrchiadau opera a chyngherddau symffonig.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae hi wedi arwain Madama Butterfly yn yr Opéra de Québec; Carmen a La traviata yn yr Opéra de Marseille; Tosca yn Opéra Angers-Nantes ac Opéra de Rennes; a Barbwr Seville yn yr Opéra de Tours. Mae hi hefyd wedi ymddangos mewn cyngerdd gyda Cherddorfa Gulbenkian, Cerddorfa Symffoni Radio Cenedlaethol Gwlad Pwyl, Orchestre National de Lorraine a Cherddorfa Accademia della Scala.
Dechreuodd Clelia Cafiero ei gyrfa fel pianydd, gan ymddangos yn yr Amsterdam Concertgebouw, Carnegie Hall, y Royal Albert Hall a’r Philharmonie de Paris. Rhwng 2013 a 2019, bu’n gweithio’n rheolaidd fel répétiteur yn Teatro alla Scala. Astudiodd biano ac arwain yn y conservatoires yn Napoli a Milan, yn ogystal ag yn y Mozarteum yn Salzburg. Mae ganddi radd meistr mewn athroniaeth hefyd o Brifysgol Napoli.
Nicholas McCarthypiano
Paul Marc Mitchell
Paul Marc Mitchell
Ganwyd Nicholas McCarthy yn 1989 heb ei law dde ac mae wedi mynd ymlaen i ennill clod rhyngwladol fel pianydd trwy dalent, penderfyniad ac ysbryd beiddgar. Heriodd ddisgwyliadau i ddilyn ei gariad at y piano, nes graddio o’r Coleg Cerdd Brenhinol yn 2012 – y pianydd un llaw cyntaf i raddio yn hanes 130 mlynedd y sefydliad. I gydnabod ei gamp, dyfarnwyd Aelodaeth er Anrhydedd iddo o’r Coleg Cerdd Brenhinol yn 2018.
Yn un o’r ychydig artistiaid clasurol proffesiynol ag anabledd, mae’n eiriolwr brwd dros y repertoire i law chwith yn unig, sy’n aml yn cael ei anwybyddu. Dyma gorff o waith a ddaeth i’r amlwg yn y 19eg ganrif ac a ehangodd yn sylweddol ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, pan aeth llawer o filwyr clwyfedig ati i barhau â’u gyrfaoedd cerddorol trwy gyfansoddiadau llaw chwith.
Daeth eiliad ddiffiniol yn ei yrfa gyda’i berfformiad yn Seremoni Gloi Gemau Paralympaidd Llundain 2012, lle ymddangosodd gyda Pharagerddorfa Prydain a Coldplay, gan chwarae’n fyw i gynulleidfa fyd-eang o dros 500 miliwn. Ers hynny, mae wedi perfformio’n helaeth ledled y byd, mewn cyngherddau datganiad a hefyd gyda cherddorfeydd mawr.
Oddi ar y llwyfan cyngerdd mae galw mawr amdano fel siaradwr anogol, ac mae’n un o’r prif siaradwyr yn aml i sefydliadau a chyrff blaenllaw dros y byd i gyd.
Ar y cyd â Bwrdd Cysylltiedig yr Ysgolion Cerdd Brenhinol (ABRSM), lansiodd faes llafur graddedig cyntaf y byd ar gyfer pianyddion un llaw yn 2024.
Y tymor diwethaf gwnaeth Nicholas McCarthy ei ymddangosiad cyntaf gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a cherddorfeydd Symffoni Bournemouth a Llundain, yn ogystal â rhoi ei ddatganiad cyntaf yn Konzerthaus Fienna. Yr haf diwethaf chwaraeodd am y tro cyntaf yn y BBC Proms yn y Royal Albert Hall, gan berfformio Concerto Llaw Chwith Ravel gyda Cherddorfa Symffoni Bournemouth a Mark Wigglesworth.
Ymhlith uchafbwyntiau’r tymor hwn mae perfformiadau gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne, ei berfformiad concerto cyntaf yn Ne Corea a’i ddatganiadau cyntaf yn y Berlin Konzerthaus a’r Glasshouse yn ogystal â choncertos cyntaf gyda Cherddorfa Aurora a Cherddorfa Ffilharmonig Slofacia.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf Lesley Hatfield blaenwr
Savva Zverev Gwenllian Hâf MacDonald
Suzanne Casey Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith Anna Cleworth Ruth Heney **Žanete UškāneAlejandro TrigoGrace ShepherdGary George-VealeRowan PattersonNaomi Warburton
Ail Ffidlau
Anna Smith *Kirsty Lovie #Ros ButlerSheila SmithRoussanka KaratchivievaLydia Caines **Beverley WescottMichael ToppingKatherine MillerJoseph WilliamsLaurence Kempton
Elizabeth Whittam
Fiolâu
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer
Anna Growns
Lydia Abell
Laura Sinnerton
Robert Gibbons
Carl Hill
Lucy Theo
Soddgrythau
Pedro Silva Jessica FeaverSandy BartaiRachel FordCarolyn HewittAlistair HowesKeith HewittKathryn Graham
Basau Dwbl
Sebasian Pennar ‡
Roberto Carillo Garcia
Ketan Curtis
Christopher Wescott
Emma Prince
Nathan Perry
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †Lindsey Ellis
PiccoloLindsey Ellis †
Oboau
Steve Hudson *Amy McKean Emily Cockbill
Cor anglais
Emily Cockbill
Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White
Chris Gibbons
Lenny Sayers **+
Clarinét E feddalnod
William White
Clarinét Bas
Lenny Sayers †**+
Baswnau
Jarosław Augustyniak *Llinos OwenDavid Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Henry Ward
Flora Bain
John Davy
Utgyrn
Phillipe Schartz *Robert SamuelCorey Morris †
Giovanni Re
Trombonau
Donal Bannister *Dafydd Thomas †
Trombôn Bas
Darren Smith †
TiwbaJonathan Gawn
TimpaniSteve Barnard *
Offrynnau TaroFeargus Brennan
Phil Girling
Sarah Mason
Sam Jowett
Heledd Fflur Gwynant
Telynau
Elen Hydref
Aisha Palmer
* Prif Offerynnwr yr Adran† Prif Offerynnwr‡ Prif Offerynnwr Gwadd# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyolRoedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale Rheolwr y Gerddorfa Liz WilliamsRheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **Rheolwr Staff y GerddorfaKevin MyersCydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor HallCydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George LeeRheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **Cynhyrchydd Mike SimsCynorthwyydd DarlleduEmily PrestonPennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)Cynhyrchydd Digidol Angus RaceCydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet BaughPrentis Marchnata Mya ClaydenCynhyrchydd AddysgBeatrice CareyCynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa BlofeldRheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead + Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications




