Cariad a Thrawsnewid

Nos Iau 12/3/26, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Benjamin Britten
An American Overture
10’

Joan Tower
Love Returns première y DU 23’

EGWYL: 15 munud

Carl Maria von Weber
Symffoni Rhif 2 yn C fwyaf 18’

PaulHindemith
Symphonic Metamorphosis of Themes by Carl Maria von Weber 21’

Tomas Djupsjöbacka arweinydd
Steven Banks 
sacsoffon alto

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Radio 3 in Concert; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i’n cyngerdd heno, a chroeso i’r arweinydd o’r Ffindir, Tomas Djupsjöbacka, sy’n gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Gymreig y BBC gyda rhaglen sydd â gwythïen Americanaidd gref yn rhedeg drwyddi.

Mae An American Overture gan Britten yn dyddio o’i arhosiad yn yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dyma waith na chafodd ei berfformio tan ar ôl marwolaeth y cyfansoddwr, er bod ynddo ddigonedd o nodweddion na allai fod yn waith neb arall. Concerto pwerus i’r sacsoffon gan un o gawresi cerddoriaeth America, Joan Tower, yw Love Returns. Caiff ei berfformio am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig heno gan y cerddor yr ysgrifennodd hi’r darn iddo, Steven Banks.

Mae Ail Symffoni Weber yn cynnig esiampl wych o’i synnwyr o ddrama, ynghyd â’i glust fain am soniaredd offerynnol – rhinweddau a fyddai maes o law yn ei wneud yn ffigwr pwysig iawn yn y tŷ opera.

I gloi, Symphonic Metamorphosis of Themes by Carl Maria von Weber, gan Hindemith. Fe’i cyfansoddwyd gwta ddwy flynedd ar ôl agorawd Britten, tra oedd Hindemith yn alltud yn yr Unol Daleithiau, ac ynddo mae’n trawsnewid deuawdau piano gan Weber mewn modd hyfryd dros ben.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Benjamin Britten (1913–76)

An American Overture (1941)

Mae cefndir cymhleth i An American Overture gan Britten: yn gryno, fe’i hysgrifennwyd yn America ym mis Hydref 1941, ond chafodd y gwaith mo’i berfformio ar y pryd, hyd y gwyddom, ac yna cafodd ei anghofio’n llwyr am ryw 30 mlynedd. Daeth i’r fei maes o law yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd. Ym mis Gorffennaf 1972 cysylltodd catalogydd â Britten, a dywedodd y cyfansoddwr ei fod wedi gweld copi o’r llawysgrif ychydig flynyddoedd ynghynt ond nad oedd ganddo unrhyw atgof o gwbl o ysgrifennu’r gwaith. Roedd yn amlwg iddo fod y sgôr yn ei lawysgrifen ei hun, a nododd ‘the music had obviously some of my mannerisms (not my happiest!)’. Gofynnodd Britten iddo gael ei ddinistrio, neu o leiaf na ddylid ei atgynhyrchu eto. Ni chafodd y gwaith ei berfformio tan 1983, saith mlynedd ar ôl ei farwolaeth.

Yn wir, roedd y darn wedi cael ei gwblhau braidd yn ffwrdd-â-hi er mwyn ei gwblhau erbyn y dyddiad a bennwyd gan y comisiynydd (Artur Rodzinski, arweinydd Cerddorfa Cleveland). Ond mae’n sicr yn dangos dawn offerynnol nodweddiadol Britten (yn enwedig yn adran yr offerynnau taro), yn ogystal â rhai o’r cyffyrddiadau nodweddiadol yr oedd wedi’u mabwysiadu tra oedd yn byw yng Ngogledd America. Mae tinc jazzaidd yn ei adran ganol drawsacennog, yn ogystal ag amlinellau melodig eang, Coplandaidd. Ond hefyd, yn ei linellau bas taer, mae’n cynnwys awgrym o awyrgylch bygythiol Peter Grimes oedd eisoes yn cyniwair, a byddai hwnnw’n dod i’w anterth ymhen ychydig flynyddoedd.

Nodyn y rhaglen © Lucy Walker

Joan Tower (ganwyd 1938)

Love Returns (2024)

première y DU

Steven Banks sacsoffon alto

Cyfansoddodd Joan Tower Love Returns, concerto i sacsoffon alto a cherddorfa, ar gyfer ein hunawdydd heno, Steven Banks. Yn Banks, daeth Tower o hyd i gydweithiwr delfrydol: wedi iddo ymweld â’i chartref yn Red Hook, Efrog Newydd, cadwodd y ddau mewn cysylltiad agos dros fisoedd lawer wrth i’r darn ganfod ei gydbwysedd o ddisgleirdeb technegol a mynegiant diffuant. Daeth y syniad am y concerto gan yr arweinydd Peter Oundjian, un o gydweithwyr agosaf Tower, a arweiniodd y perfformiadau cyntaf gyda Banks yng Ngŵyl Gerdd Colorado yn Boulder, Colorado, ar 10–11 Gorffennaf 2025. Roedd wedi arwain y perfformiadau cyntaf o weithiau Tower, A New Day a Suite fromConcerto for Orchestra, cyn hynny.

Rhoddodd consortiwm rhyngwladol o gerddorfeydd dan arweiniad Gŵyl Gerdd Colorado gefnogaeth i’r broses o greu Love Returns; y comisiynwyr eraill yw’r Gerddorfa Symffoni Genedlaethol, Gŵyl ac Ysgol Gerdd Aspen, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Symffoni Indianapolis, Cerddorfa Siambr Los Angeles, a Cherddorfa Symffoni Toronto.

Mae Love Returns wedi’i adeiladu ar thema allan o Love Letter, darn piano unigol byr ond ingol a greodd Tower er cof am ei diweddar ŵr Jeff Litfin, a fu farw yn 2022 yn 95 oed. ‘Fe wnes i chwarae Love Letter i lawer o bobl oherwydd roeddwn i’n ei ymarfer ar gyfer sgwrs TEDx,’ meddai. ‘Roedd pobl wrth eu bodd â’r darn. Dw i erioed wedi cael ymateb mor angerddol i unrhyw beth arall.’

Thema ac amrywiadau mewn chwe adran yw ffurf Love Returns. Ar y dechrau roedd Tower yn amheus a fyddai’r thema o Love Letter yn gwneud synnwyr yn y cyd-destun newydd hwn. ‘Dechreuais feddwl, “Beth sydd gan y concerto hwn i’w wneud â ’mherthynas 50 mlynedd gyda fy ngŵr?” Wel, mae unrhyw berthynas i fyny ac i lawr, ac rydych chi’n mynd trwy wahanol dreialon a gwahanol gyfnodau hyfryd. Mae’r darn yma’n debyg i hynny. Mae’n dod yn ôl o hyd at y thema serch hon.’

Mae’r brif thema wedi’i hadeiladu ar gyfres o gyfyngau pumed esgynnol. Ar ôl adran agoriadol araf a myfyriol, caiff y thema ei thrawsnewid trwy wahanol weadau a chyd-destunau. Mae pob adran yn gyflymach na’r un gynt, ac eithrio’r pumed, cadenza unigol ar gyfer y sacsoffon. Yn y diweddglo presto, mae’r unawdydd yn gwibio ac yn gweu trwy linyn o sylwebaeth gerddorfaol.

Nodyn y rhaglen © Wise Music

EGWYL: 15 munud

Carl Maria von Weber (1786–1826)

Symffoni Rhif 2 yn C fwyaf(1807)

1 Allegro
2  Adagio ma non troppo
3  Menuetto
4 Finale: Scherzo presto

Ganwyd Carl Maria von Weber yn Eutin, Schleswig-Holstein, yn 1786; bu farw yn Llundain yn 1826. Roedd ei deulu’n bobl weithgar ac artistig, os nad yn ddosbarth uwch yn hollol, er gwaethaf y ‘von’ aristocrataidd yn y cyfenw. Tad Weber ei hun oedd wedi ychwanegu’r ‘von’ mewn ymgais ddigywilydd i ddringo ysgol cymdeithas. Mewn gwirionedd, doedd Carl Maria yn ddim mwy o uchelwr na Duke Ellington. Ond roedd o leiaf lawn mor dalentog. Yn ei dridegau, ef i bob pwrpas a sylfaenodd opera Ramantaidd Almaenig gyda Der Freischütz (Y Saethwr) ym 1821, stori Deutonaidd ddieflig a ysgubodd drwy theatrau Ewrop. Roedd yr olygfa ddychrynllyd enwog ‘Glyn y Blaidd’ i’r 19eg ganrif yn cyfateb i Hammer Horror i’r 1960au. Esgorodd y Freischütz ar beth wmbredd o gopïau, fel Der Vampyr (Y Fampir) gan Marschner a Robert le Diable (Robert y Diafol) gan Meyerbeer. Ond rhywbeth yn perthyn i’r dyfodol pell oedd y cynyrfiadau diafolaidd hyn pan gyflogwyd Carl Maria (von) Weber, yn llawer iau a chymharol ddibrofiad o hyd, yn Gyfarwyddwr Cerdd Llys y Dug Eugen o Württemberg-Öls ym 1806.

Ym mhalas crand y Dug yn Carlsruhe (Pokój yng Ngwlad Pwyl erbyn hyn – nid y Karlsruhe enwocach yn Baden-Württemberg) roedd cerddorfa ryfeddol o dda, os bechan. Manteisiodd Weber ar y cyfle i roi cynnig ar ysgrifennu cerddoriaeth a fyddai’n arddangos doniau’r ensemble eiddgar. Felly y ganwyd dwy symffoni eithaf tila ond llawn hwyl a lliw yn C fwyaf, y clywir yr ail ohonynt (a gwblhawyd ym 1807) heno. Roedd y Dug ei hun yn chwaraewr obo brwd ac mae’n siŵr mai hynny oedd ar feddwl Weber pan ysgrifennodd yr unawdau obo niferus yn y ddwy symffoni, er bod dyletswyddau milwrol ei feistr yn golygu ei fod yn absennol yn aml o Carlsruhe yn ystod preswyliad y cyfansoddwr.

Mae Allegro agoriadol sionc y symffoni hon yn rhoi lle amlwg hefyd i ddoniau’r baswnydd a’r chwaraewr corn, tra bor ail symudiad melodaidd yn rhoi llwyfan i fiola unigol, cyn i’r thema gael ei throsglwyddo i – ie, yr obo. Miniwét bach cwta, yn dod i ben bron cyn ichi sylwi arno, yw’r trydydd symudiad, yn para llai na dau funud. (A wnaeth Weber golli diddordeb, neu a gafodd ei alw i swper?) Scherzo ffraeth yw’r symudiad olaf, yn ffug-gychwyn sawl gwaith ac yn tynnu ambell gwningen o het. Mae fel petai’n diweddu gyda chord uchel C-fwyaf, ond mae’r basŵn afrosgo a’r llinynnau is wedi camgyfrif. Maen nhw’n ychwanegu bar ychwanegol ar ôl i bawb arall orffen: jôc gerddorol sydd, am unwaith, yn ddoniol go iawn.

Nodyn y rhaglen © Monika Hennemann

Paul Hindemith (1895–1963)

Symphonic Metamorphosis of Themes by Carl Maria von Weber (1943)

1 Allegro
2  Scherzo
3  Andantino
4 March

Ym 1940 fe wnaeth Paul Hindemith a’i wraig, Gertrud Rottenberg, ffoi o Ewrop i’r Unol Daleithiau. Roedd y ‘swnyn digywair’, fel y bytheiriodd Josef Goebbels am y cyfansoddwr, wedi denu dicter y gyfundrefn Natsïaidd yn yr Almaen ers tro byd. Gwaharddwyd perfformio ei weithiau, er iddyn nhw gael rhywfaint o gyhoeddusrwydd am ddim trwy eu cynnwys mewn arddangosfa hynod o boblogaidd ym 1938 o ‘Entartete Musik’ (Cerddoriaeth Ddirywiol).

Ymhlith y pethau yr aeth y pâr â nhw i America roedd casgliad o ddeuawdau piano gan Carl Maria von Weber. Roedden nhw’n mwynhau chwarae’r rhain gyda’i gilydd, er nad oedd y naill na’r llall yn bianydd arbennig o ddawnus. Anaml y clywir y darnau heddiw, ond ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, pan oedd perfformio deuawdau piano yn arwydd sicr o hapusrwydd domestig, roedd cylchrediad eang iddynt. Yn wreiddiol roedd Hindemith wedi dechrau trefnu detholiad ohonynt i gerddorfa ar gyfer bale i’w goreograffu gan Léonide Massine, cyfansoddwr y Ballets Russes, ond rhoddwyd y gorau i’r prosiect oherwydd ‘gwahaniaethau creadigol’. Serch hynny, parhaodd y cyfansoddwr i weithio ar y Weber, ac fe’i cwblhaodd ym 1943 fel gwaith cerddorfaol llawn gyda’r teitl Symphonic Metamorphosis of Themes by Carl Maria von Weber, o bosibl mewn teyrnged i ddarn piano cyfrwys o drofaus Leopold Godowsky – ‘Symphonic Metamorphoses’ ar waltsau gan Johann Strauss II.

Dyma ddarn mwyaf poblogaidd Hindemith, fel y digwyddodd. Mewn gwirionedd, doedd o erioed wedi bod yn gyfansoddwr ‘digywair’. Roedd ei gerddoriaeth wedi cwmpasu’r holl arddulliau diweddar, o Ramantiaeth i Fynegiadaeth i Neo-Baróc. Roedd ei hoffter o ffiwgiau, a’i gnwd toreithiog o ddeuawdau ar gyfer pob offeryn dan haul bron, wedi rhoi enw iddo fel cerddor sych a ‘di-ysbrydoliaeth’. Mae’r Symphonic Metamorphosis yn gwrth-ddweud hyn: mae’n ddychmygus, yn fyrlymus ac yn llawn hwyl.

Mae’r symudiad cyntaf, seiliedig ar ddeuawd dan y pennawd ‘Alla Zingara’ (Yn Arddull y Sipsiwn) gan Weber, yn cynnig alaw herfeiddiol gydag awgrym o rapsodi Hwngaraidd. Mae chwythbrennau aflafar yn cwafrio dros drawsacennu egnïol yr offerynnau pres, fel parti swnllyd nad oedd Weber wedi cael gwahoddiad iddo. Mae’r ail symudiad yn seiliedig ar alaw Tsieineaidd o Dictionnaire de Musique Jean-Jacques Rousseau, a ddefnyddiwyd gan Weber ar gyfer ei gerddoriaeth achlysurol i’r ddrama Turandot (sail yn ddiweddarachi opera Puccini). Dan law Hindemith mae’r alaw’n dwysáu’n wyllt, gyda chefnogaeth casgliad sylweddol o offerynnau taro ‘dwyreiniol’, gan arwain at ffiwg annisgwyl o jazzaidd. Mae’r trydydd symudiad bugeiliol yn gymharol sobr: y math o beth, mae’n debyg, yr oedd Massine wedi’i ddisgwyl ar gyfer ei fale. Ar y llaw arall, roedd Mahler yn ysbrydoliaeth ychwanegol ar gyfer Ymdeithgan y symudiad olaf. Hawdd dychmygu addasiad Hindemith yn ffitio i mewn i’w Chweched Symffoni, sy’n gwneud i ni sylweddoli lawn cystal yr oedd Mahler ei hun wedi adnabod deuawdau Weber, mae’n rhaid. Tybed a fu yntau’n eu chwarae gyda’i wraig Alma?

Nodyn y rhaglen © Monika Hennemann

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Enigma

Dydd Sadwrn 18/4/26, 3.00pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Dydd Sul 19/4/26, 3.00pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Grace Williams Sea Sketches
Saint-Saëns Concerto Rhif 3 i'r Ffidil
Elgar Enigma Variations

Jaime Martínarweinydd
Akiko Suwanaiffidil

ELEGANT | GRAND | ILLUSTRATIVE

Ymunwch â ni am brynhawn o gerddoriaeth llawn ceinder ag urddas sy’n dod â straeon yn fyw. Mae’r rhaglen hon yn cynnig taith emosiynol gyfoethog, o forweddau disglair Sea Sketches Grace Williams – sydd wedi’u hysbrydoli gan lannau ei thref enedigol, y Barri – i delynegiaeth a drama Concerto Rhif 3 Saint-Saëns i’r Ffidil, a berfformir gan yr anhygoel Akiko Suwanai. Daw’r cyngerdd i ben gydag Amrywiadau ‘Enigma’ poblogaidd Elgar, sy’n gyfuniad meistrolgar o gynhesrwydd, ffraethineb ac urddas, gyda phob symudiad yn bortread cerddorol o gyfeillion agosaf y cyfansoddwr. Gyda’n Prif Arweinydd Gwadd Jaime Martin yn arwain y gerddorfa, bydd y perfformiadau hyn yn Abertawe a Chaerdydd (gyda ffrwd fyw ar gael) yn uchafbwynt bythgofiadwy i’r tymor. Peidiwch â cholli'ch cyfle i fwynhau’r rhaglen bwerus ac atgofus hon.

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Tomas Djupsjöbacka arweinydd

Elina Simonen

Elina Simonen

Arweinydd a sielydd o’r Ffindir yw Tomas Djupsjöbacka a chanddo gefndir cryf mewn cerddoriaeth siambr, a phroffil rhyngwladol cynyddol. Fel chwaraewr soddgrwth fe sefydlodd bedwarawd llinynnol gwych Meta4 ac mae’n aelod o Gerddorfa Siambr Ewrop.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel arweinydd gyda Cherddorfa Siambr Ostrobothnian yn 2013 ac ers hynny mae wedi arwain y rhan fwyaf o gerddorfeydd y Ffindir, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni Radio’r Ffindir, Cerddorfa Ffilharmonig Helsinki, Cerddorfa Ffilharmonig Turku, Oulu Sinfonia a Sinfonia Lahti.

Yn rhyngwladol, mae wedi ymddangos gyda cherddorfeydd Symffoni Gävle a Radio Sweden a chyda Cherddorfa Siambr Norwy, lle mae’n arweinydd gwadd rheolaidd.

Cafodd ei benodi gan gerddorion Cerddorfa Siambr Lapland yn Brif Arweinydd Gwadd cyntaf erioed arnynt, swydd a ddaliodd rhwng 2019 a 2022. Rhwng 2021 a 2024, gwasanaethodd fel Prif Arweinydd Cerddorfa Dinas Vaasa. Roedd y pedwarawd Meta4 hefyd yn Brif Westai gyda Jyväskylä Sinfonia rhwng 2022 a 2024.

Astudiodd Tomas Djupsjöbacka grefft arweinydd yn breifat gyda Yannick Nézet-Séguin. Cwblhaodd ei astudiaethau arwain ffurfiol yn Academi Sibelius yn 2017 ac mae wedi cymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda Jorma Panula.

Steven Bankssacsoffon alto

Angela Orellana

Angela Orellana

Mae’r perfformiwr a’r cyfansoddwr Steven Banks yn gwneud ei orau i ddod â’i offeryn i galon y byd clasurol. Mae’n comisiynu ac yn ysgrifennu cerddoriaeth sy’n ehangu’r repertoire i sacsoffon, gan gyflwyno cynulleidfaoedd i bosibiliadau newydd ar gyfer mynegiant artistig.

Ymhlith uchafbwyntiau’r tymor hwn mae’n ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni’r BBC, Indianapolis, Oregon, Montréal a St Louis a Cherddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd. Mae hefyd yn perfformio Love Returns gan Joan Tower, yn dilyn ei première byd yng Ngŵyl Gerdd Colorado y llynedd.

Ymhlith premières diweddar eraill mae Diaspora gan Billy Childs, hear them gan Carlos Simon, Haemosu’s Celestial Chariot Ride gan Augusta Read Thomas a Visions of the Hereafter gan Christopher Theofanidis, a mwy.

Mae’n perfformio datganiadau gyda’r pianydd Xak Bjerken mewn cyfresi pwysig ledled yr Unol Daleithiau. Fel cerddor siambr, mae’n mwynhau cydweithio’n agos gyda Phedwarawdau Miró a Verona, yn ogystal â bod yn un o sylfaenwyr yr ensemble sacsoffonau Kenari Quartet, sydd wedi ennill sawl gwobr.

Mae galw cynyddol am ei gyfansoddiadau ac mae wedi cael ei gomisiynu gan Young Concert Artists, gwyliau cerddoriaeth siambr Tulsa, Tucson, Bridgehampton a Chamber Music North West a Cherddorfa Symffoni Chicago.

Fel rhan o’i eiriolaeth barhaus dros amrywiaeth a chynhwysiant, y tymor yma lansiodd Steven Banks y prosiect ‘Come As You Are’ – menter ymgysylltu cymunedol arloesol mewn partneriaeth â cherddorfeydd, wedi’i chynllunio i gynyddu cynrychiolaeth yn y neuadd gyngerdd trwy berfformiadau cymunedol pwerus a phrisiau tocynnau fforddiadwy.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Savva Zverev
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Emilie Godden
Anna Cleworth
Ruth Heney **
Žanete Uškāne
Alejandro Trigo
Gary George-Veale

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines **
Elizabeth Whittam
Laurence Kempton

Fiolâu
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Lydia Abell
Catherine Palmer
Anna Growns
Robert Gibbons
Laura Sinnerton
Dáire Roberts
Charlotte Limb

Soddgrythau
Miwa Rosso
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Rachel Ford
Kathryn Graham

Basau Dwbl
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Emma Prince
Chris Kelly

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean
Emily Cockbill

Cor anglais
Emily Cockbill

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White
Lenny Sayers **+

Clarinét Bas
Lenny Sayers †**+

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Llinos Owen
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Pedro Meseguer Magaña
Dave Ransom
John Davy

Utgyrn
Phillipe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †

Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Sasha Koushk-Jalali

Timpani
Steve Barnard *

Offrynnau Taro
Elliott Gaston-Ross
Phil Girling
Max Ireland
Sarah Mason
Sam Jowett

Y Delyn
Tomos Xerri

Piano
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications