Swyn a Soniaredd

Nos Iau 19/3/26, 7.30pm

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Nos Wener 20/3/26, 7.30pm

Neuadd Prichard-Jones, Bangor

Grace Williams
Agorawd Cyngerdd 7’

Jean Sibelius
Concerto i’r Ffidil yn D leiaf31’

EGWYL: 15 munud

Pyotr Tchaikovsky
Symffoni Rhif 1 yn G leiaf, ‘Breuddwydion y Gaeaf’ 44’

Nil Venditti arweinydd
Liya Petrova ffidil

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Classical Live ac ar Radio Cymru. Bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddodol.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i’n cyngerdd heno, ac mae’n bleser mawr estyn croeso’n ôl i Nil Venditti, a lansiodd ein tymor yn y fath steil yn ôl ym mis Medi.

Mae peth wmbredd o angerdd Rhamantaidd yn y rhaglen, gyda champweithiau gan Sibelius a Tchaikovsky. Ond fe ddechreuwn ni’n agosach at adref, gyda gwaith cerddorfaol cynharaf Grace Williams hyd y gwyddom, un sy’n dangos yn glir ei bod wedi canfod ei llais unigryw ei hun.

Mae Liya Petrova yn ymuno â’r gerddorfa ar gyfer Concerto Sibelius i’r Ffidil. Dyma offeryn oedd yn gyfarwydd iawn i’r cyfansoddwr, ac yntau unwaith wedi gobeithio creu gyrfa fel feiolinydd. Gyda’i gymysgedd o harddwch oer a cherddoriaeth hynod heriol i’r unawdydd – a’r cyfan ar gefndir sydd fel petai’n darlunio tirweddau’r Ffindir, ei famwlad – mae’n ffefryn gan offerynwyr a chynulleidfaoedd ers tro byd.

I orffen, Symffoni Gyntaf Tchaikovsky, â’r is-deitl ‘Breuddwydion y Gaeaf’. Fe’i hysgrifennodd pan oedd yn ei ugeiniau, a’i dibrisio’n ddiweddarach fel ‘un o bechodau fy ieuenctid melys’, ond nid yw hynny’n gwneud cyfiawnder â’i swyn sylweddol, ac mae clust Tchaikovsky am alaw eisoes yn amlwg.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Grace Williams (1906–77)

Agorawd Cyngerdd (tua 1932)

Ar wahân i’r agorawd Hen Walia (1930) a phedwar symudiad y Suite for Orchestra (1932), Agorawd Cyngerdd yw’r cyntaf o weithiau cerddorfaol Grace Williamssydd wedi goroesi. Fe’i hysgrifennwyd ar gyfer cystadleuaeth a gynhaliwyd gan y Daily Telegraph ym 1932–3 lle cafodd gymeradwyaeth arbennig, ac, fel y ddau ddarn cynharach, cafodd y gwaith ei berfformio am y tro cyntaf (yn 1935) yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan Gerddorfa Symffoni Llundain. Does dim cofnodion o berfformiadau pellach – efallai oherwydd bod y cyfansoddwr ei hun yn ddiweddarach wedi dinistrio unrhyw gopïau cerddorfaol gwreiddiol. (Mae tystiolaeth o hyn i’w gweld ar y sgôr llawysgrif ei hun, lle nodir ‘ddim yn werth ei berfformio’, ac yn nyddiadur Williams, sy’n cofnodi 10 Mai 1951 – pan ddinistriodd nifer o’i sgoriau llawysgrif – fel ‘DIWRNOD DINISTRIO’.)

Yn wahanol i Hen Walia, nid yw’r Agorawd Cyngerdd yn defnyddio unrhyw alawon traddodiadol a does dim rhaglen amlwg yn perthyn iddo. Yn gofyn am feistrolaeth o’r cychwyn cyntaf, heb wyro fawr ddim oddi wrth y tempo Allegro con brio agoriadol neu’r Agitato di molto dilynola’u tebyg, mae’r gwaith yn rhannu agweddau o’i iaith gerddorol â gweithiau eraill gan Grace Williams o’r 1930au a’r 1940au – lle sylwodd cofiannydd y cyfansoddwr, Malcolm Boyd, fod ‘cyweiredd yn aml yn brin eithriadol’. Ond mae wedi’i saernïo’n gain ac yn cynrychioli arddull gynnar Williams yn yr un modd ag y mae gweithiau mwy adnabyddus fel Penillion a’r Concerto i’r Utgorn yn cynrychioli ei gwaith diweddarach.

Nodyn y rhaglen © Graeme Cotterill

Jean Sibelius (1865–1957)

Concerto i’r Ffidil yn D leiaf, Op. 47 (1903–4, adol. 1905)

1 Allegro moderato
2 Adagio di molto
3 Allegro, ma non tanto

Liya Petrova ffidil

Am gyfnod pan oedd yn ifanc, nod Sibelius oedd mynd yn unawdydd ffidil. Ond mae’n debyg bod rhywbeth wedi chwalu ei hyder, a dioddef wnaeth ei dechneg o ganlyniad. Meddyliodd am droi ei gefn ar gerddoriaeth yn gyfan gwbl ‘a byw bywyd twpsyn, yr wyf yn gymwys iawn iddo’. Yn y diwedd, roedd yr awydd i gyfansoddi yn rhy gryf ond, er hynny, gellir dychmygu pa mor gymysg oedd ei deimladau, mae’n rhaid, pan ddaeth i geisio creu concerto i’r offeryn ym 1903.

Mae’n arwyddocaol, efallai, fod y cyfnod yn union cyn ac yn ystod gwaith Sibelius ar y Concerto i’r Ffidil yn un o’i gyfnodau gwaethaf o alcoholiaeth. Byddai ei wraig arwrol o amyneddgar Aino yn mynd allan yn aml i chwilio clybiau, bariau a bwytai ffasiynol Helsinki amdano, gan obeithio yn erbyn gobaith y gallai sobri ddigon i gwblhau’r gwaith. Mae’n debyg bod symudiad araf y concerto wedi’i fraslunio yn ystod hangofyr a barodd dri diwrnod. Erfyniodd brawd Sibelius, Christian (seiciatrydd clinigol) arno i roi’r gorau i yfed. Ond atebodd Sibelius ei fod yn rhy wan. ‘Pan fydda i’n sefyll o flaen cerddorfa fawr ac wedi yfed hanner potel o siampên, yna rwy’n arwain fel duw ifanc. Fel arall rwy’n nerfus ac yn crynu, yn teimlo’n ansicr ohonof fy hun, ac wedyn mae popeth ar goll. Mae’r un peth yn wir am fy ymweliadau â rheolwr y banc.’ Ac eto ni ellid disgrifio’r gwaith fel cerddoriaeth hunanfoddhaus na llac. Mae’r ysgrifennu i’r ffidil yn feistrolgar – gan ddangos mor drylwyr yr oedd Sibelius yn deall ei offeryn. Mae yna eiliadau sy’n gallu achosi i’r chwaraewr mwyaf dawnus fod yn chwys oer drosto – ac nid y darnau sy’n swnio anoddaf yw’r rheini bob tro.

Mae’r syniad o feistrolaeth yn ymestyn i bob dimensiwn o’r concerto. Mae’r adeiladwaith yn dynn, yr emosiynau’n bwerus ond nid heb reolaeth, ac mae’r paragraffau telynegol hir (fel y llinell ffidil arnofiol, esgynnol ar y dechrau) wedi’u siapio’n hyfryd drwyddi draw – dydyn nhw byth yn mynd ar chwâl. Mae yna ambell ennyd, fel ail thema angerddol y symudiad cyntaf, neu bron y cyfan o’r symudiad araf canolog, lle mae’r naws yn boenus o hiraethus. Ond mae llaw Sibelius y symffonydd mawr, meistr rhesymeg organig, bob amser yn amlwg. Ac ar ôl y ddau symudiad cyntaf emosiynol daw symudiad olaf egnïol, penderfynol. Mae’r diweddglo llym, stormus, pendant yn y cywair mwyaf yn awgrymu bod tywyllwch mewnol wedi cael ei wynebu a’i herio. O ran bywyd Sibelius ei hun ar y pryd, efallai mai mynegiant o’i ddyhead oedd hyn, ond fel gwaith celf mae’n argyhoeddi’n llwyr.

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

EGWYL: 15 munud

Pyotr Tchaikovsky (1840–93)

Symffoni Rhif 1 yn G leiaf, Op. 13, ‘Breuddwydion y Gaeaf’ (1866, adol. 1868, 1874)

1 Breuddwydion ar Daith Aeafol
2 Gwlad y Gwyll, Gwlad y Niwl
3 Scherzo
4 Diweddglo

Ni pherfformiwyd Symffoni Gyntaf Tchaikovsky yn aml yn ystod oes y cyfansoddwr, ond byddai’n cyfeirio ati yn gynnes fel ‘un o bechodau fy ieuenctid melys’. Mae’n wir yn swnio’n uniongyrchol ac yn newydd o’r cychwyn, gydag alaw sy’n eich ysgubo i ffwrdd ar gerbyd tri cheffyl cain trwy ehangder eira yn nhirwedd Rwsia. Roedd ysbrydoliaeth felodig Tchaikovsky eisoes yn llifo’n rhwydd pan ddechreuodd gyfansoddi’r symffoni yn 26 oed, ychydig ar ôl graddio o Gonservatoire St Petersburg. Ond mae ffurfiau symffonig yn anodd eu trin, ac mae’r mesur yn cario baich trwm o draddodiad a disgwyliadau uchel. Yn ystod haf 1866, cafodd Tchaikovsky gymaint o drafferth ysgrifennu’r symffoni nes iddo ddioddef chwalfa nerfol. Byth wedyn, bu raid iddo gymryd pwyll, ac osgoi’r trap o weithio’n obsesiynol ddydd a nos. Doedd o ddim yn fodlon â’r sgôr gorffenedig, felly fe’i hadolygodd cyn y première ym 1868, ac unwaith eto ym 1874.

Mae’r symudiad cyntaf, a gyhoeddwyd o dan y teitl ‘Breuddwydion ar Daith Aeafol’, yn dechrau gyda thema delynegol sydd wedi’i gwreiddio mewn caneuon gwerin Rwsiaidd. Caiff y naws dawel ei thorri bron yn syth gan fotiff cromatig pigog sy’n gweithredu fel grym deinamig ac yn ychwanegu arlliwiau tywyllach, ffantasïol. Mae synnwyr llifeiriant naturiol yn y symudiad, sy’n awgrymu dyfnderoedd dramatig fyddai’n nodweddu’r Tchaikovsky aeddfed.

Mae teitl i’r symudiad araf hefyd: ‘Gwlad y Gwyll, Gwlad y Niwl’, sy’n cyfeirio at dirwedd ogleddol llym Ynys Valaam ar Lyn Ladoga. Roedd Tchaikovsky wedi ymweld â’r fan hon sy’n denu pererinion ac sy’n enwog am ei mynachlog, ac mae’r corâl agoriadol yn awgrymu naws o dduwioldeb tawel. Gan yr obo unigol clywn adleisiau o alawon gwerin Rwsiaidd dwys, ond mae thema gynhesach yn cydredeg yn y llinynnau. Pan ddaw’r themâu hyn yn eu hôl, maen nhw’n blodeuo’n llawn, diolch i fedr Tchaikovsky fel sgoriwr. A phan drosglwyddir thema’r obo i’r cyrn, mae’n cyflawni cyseinedd emynol.

Mae’r Scherzo ysgafn yn tarddu o sonata piano cynnar gan Tchaikovsky, ond mae’n adleisio’n berffaith enydau mwy pryderus y symudiad cyntaf. Mae rhythmau obsesiynol y Scherzo yn ildio i walts hamddenol yn y Triawd, sy’n dychwelyd ar ddiwedd y symudiad, ond bellach wedi’i thywyllu gan gywair lleiaf a phresenoldeb rhythm pryderus yn y timpani. Mae’r diweddglo gosgeiddig yn atgoffa rhywun o scherzo enwog Mendelssohn o’i gerddoriaeth ar gyfer A Midsummer Night’s Dream.

Dechreua’r symudiad olaf yn araf a thywyll: dyfyniad sydd yma o gân stryd Rwsiaidd go iawn, er i Tchaikovsky newid y cywair o’r mwyaf i’r lleiaf. Mae’r cymylau’n ymagor ar gyfer thema Allegro byrlymus a daw’r gân stryd yn ei hôl hefyd, yn hyderus a hyd yn oed yn swagro erbyn hyn, gan awgrymu llawenydd syml yn mynd dros ben llestri. Mae Tchaikovsky yn adfer trefn a safonau symffonig gyda ffiwg, ond wedyn mae’r gerddoriaeth yn disgyn i iselder, cyn i hynny gael ei ddisodli’n wallgo gan reiat wylltach fyth. Efallai bod y symudiad yn dweud rhywbeth wrthym am fywyd trwblus Tchaikovsky ac yn rhagweld yr ymgodymu caletach gyda ‘Tynged’ a fydd yn sail i’w weithiau diweddarach.

Nodyn y rhaglen © Marina Frolova-Walker

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’n cyngherddau nesaf. Fel un sydd eisoes yn aelod o’n cynulleidfa, gallwch brynu’r tocynnau hyn am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

Dawnsiau Symffonig

Nos Iau 4/6/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Ffrwd fyw

Nos Wener 5/6/26, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

StravinskyCân yr Eos
Brahms
Concerto Dwbl
Rachmaninov
Dawnsiau Symffonig

Ryan Bancroft arweinydd
Lesley Hatfield ffidil
Alice Neary soddgrwth

HUDOLUS | BYWIOG | THEATRIG

Peidiwch â cholli’r cyfle i fwynhau diweddglo’r tymor a chyngerdd olaf Ryan Bancroft fel Prif Arweinydd BBC NOW. Gan ddechrau gyda Cân yr Eos, cathl symffonig Stravinsky, cawn wedyn glywed ein harweinydd Lesley Hatfield, a’n prif chwaraewr soddgrwth gynt, Alice Neary, yn perfformio Concerto Dwbl Brahms. Byddwn ni’n cloi gyda Dawnsiau Symffonig Rachmaninov, ei gyfansoddiad cyflawn terfynol, lle cyfunir motiffau sy’n deillio o gerddoriaeth eglwysig Rwsia gyda dyfyniadau o’i Symffoni Gyntaf ei hun.

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Nil Venditti arweinydd

Alessandro Bertani

Alessandro Bertani

Mae’r arweinydd Eidalaidd-Twrcaidd, Nil Venditti, yn prysur sefydlu perthynas â cherddorfeydd ac ensembles mawr ym mhedwar ban byd, gan gynnwys y Royal Northern Sinfonia, y mae hi wedi bod yn Brif Arweinydd Gwadd arni ers tymor 2024/25.

Y tymor hwn, mae hi’n perfformio ledled y byd. Mae ei huchafbwyntiau’n cynnwys nifer o gyngherddau yn y DU, lle mae’n gweithio’n helaeth gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, yn ogystal ag ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa’r Philharmonia a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham. Mae hi hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Barbican yn Llundain gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC. Mae hi hefyd yn ymddangos gyda’r Deutsche Symphonie-Orchester Berlin, y Beethoven Orchester Bonn, y Musikalische Akademie Mannheim, Cerddorfeydd Symffoni Bilbao a Quebec a Cherddorfa Ffilharmonig Tampere, ymysg eraill.

Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Radio’r Ffindir, Cerddorfa Ffilharmonig y BBC ac Ensemble Cerddorfa Kanazawa, yn ogystal â dychwelyd i’r BBC Proms, Gŵyl Schleswig-Holstein, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, a’r Deutsche Kammerphilharmonie Bremen.

Mae hi’n cyfuno cysylltiad cryf â repertoire Clasurol a Rhamantaidd cynnar gyda diddordeb arbennig mewn cyfansoddwyr o Dwrci ac o’r Eidal. Mae hi’n parhau i gryfhau ei henw da yn y tŷ opera, ac mae wedi arwain operâu fel Così fan tutte Mozart a The Lighthouse Peter Maxwell Davies. Yr haf nesaf, bydd hi’n arwain Macbeth ar gyfer Opera Gŵyl Longborough.

Astudiodd Nil Venditti arwain ym Mhrifysgol y Celfyddydau, Zurich gyda Johannes Schlaefli, yn ogystal â mynychu’r Academi Arwain sy’n gysylltiedig â Gŵyl Gerddoriaeth Pärnu o dan Paavo Järvi, Neeme Järvi a Leonid Grin. Cyn hyn, bu hi’n astudio’r soddgrwth yn yr Eidal gyda Francesco Pepicelli.

Liya Petrovaffidil

Simion Fowler

Simion Fowler

Daeth Liya Petrova i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf pan enillodd Gystadleuaeth Carl Nielsen 2016. Ddwy flynedd yn ddiweddarach recordiodd goncerto Nielsen a choncerto cyntaf Prokofiev gyda Cherddorfa Symffoni Odense a Kristiina Poska a chael canmoliaeth fawr.

Mae hi wedi ymddangos fel unawdydd gyda cherddorfeydd blaenllaw, gan gynnwys Orchestre de Paris, cerddorfeydd Ffilharmonig Brwsel, Lwcsembwrg, Monte-Carlo, Radio Ffrainc, Radio’r Iseldiroedd, Strasbwrg, Tokyo a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, yn ogystal â cherddorfeydd Symffoni Antwerp, Bournemouth, Fflandrys, Odense, a Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Tsieina, Weimar Staatskapelle, Orchestre National de Lyon, Orchestre National de Bordeaux ac Orchestre National des Pays de la Loire.

Mae hi wedi gweithio gydag arweinwyr fel Elim Chan, Stanislav Kochanovsky, Aziz Shokhakimov, Tan Dun, Pierre Bleuse, Duncan Ward, Martyn Brabbins, Kristiina Poska, Riccardo Minasi, Michael Sanderling, Kirill Karabits, Diego Fasolis, Michael Schønwandt, Philippe Herreweghe, Krzysztof Penderecki, Nikolaj Szeps-Znaider, Alexander Liebreich, Xian Zhang, Ariane Matiakh, Christopher Warren-Green, Michel Tabachnik a Jesús López Cobos.

Fis Awst diwethaf gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn y BBC Proms, gan chwarae The Lark Ascending Vaughan Williams gydag arweinydd a cherddorfa ein cyngerdd ni heno.

Mae’n chwarae cerddoriaeth siambr yn rheolaidd gydag Alexandre Kantorow ac wedi perfformio gyda llawer o gerddorion blaenllaw eraill, gan gynnwys Beatrice Rana, Emmanuel Pahud, Pablo Ferrández, Martha Argerich, Nicholas Angellich, Yuri Bashmet, Mischa Maisky, Renaud Capuçon, Augustin Dumay, James Ehnes, Frank Braley, Yuja Wang, Gérard Caussé, Antoine Tamestit, Bruno Philippe, Aurélien Pascal a Gautier Capuçon.

Mae hi wedi ennill gwobrau am ei recordiadau, ac mae’r diweddaraf ohonynt yn cyfuno Concerto Korngold i’r Ffidil a Sonata Richard Strauss i’r Ffidil.

Cafodd ei geni ym Mwlgaria i deulu o gerddorion ac astudiodd gydag Augustin Dumay yn Chapelle Musicale Reine Elisabeth ym Mrwsel, gydag Antje Weithaas yn yr Hochschule für Musik Hans Eisler Berlin ac efo Renaud Capuçon yn yr Haute Ecole de Musique yn Lausanne.

Sefydlodd La Musikfest Parisienne yn 2020 yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Enillodd yr ŵyl ganmoliaeth yn gyflym ac erbyn hyn caiff ei chynnal yn y Philharmonie de Paris, dan ei chyfarwyddyd artistig hi ar y cyd ag Alexandre Kantorow.

Mae Liya Petrova yn chwarae’r ffidil ‘Rovelli’, a wnaed ym 1742 gan Guarneri del Gesù, ar fenthyciad hael gan noddwyr preifat, yn ogystal â’r ‘Consolo’, a wnaed ym 1733 gan Guarneri del Gesù, ar fenthyg gan Wladwriaeth Bwlgaria.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield Leader
Gongbo Jiang *
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Anna Cleworth
Emilie Godden
Žanete Uškāne
Alejandro Trigo
Carmel Barber
Ruth Heney
Grace Shepherd

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Ros Butler
Sheila Smith
Michael Topping
Katherine Miller
Vickie Ringguth
Beverley Wescott
Lydia Caines
Roussanka Karatchivieva

Fiolâu
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Lydia Abell
Catherine Palmer
Anna Growns
Laura Sinnerton

Soddgrythau
Miwa Rosso *
Sandy Bartai
Alistair Howes
Rachel Ford
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt

Basau Dwbl
Siân Hicks
Cécile-Laure Kouassi
James Manson
Christopher Wescott

Ffliwtiau
Mark Taylor
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccoli
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Patrick Bolton

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Jack Pilcher May
Flora Bain
Dave Ransom

Utgyrn
Corey Morris †
Robert Samuel

Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Darren Smith †

Timpani
Phil Hughes

Offrynnau Taro
Rebecca Celebuski
Phil Girling

Harp
Tomos Xerri

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications