Requiem Brahms

Nos Iau 26/3/26, 7.30pm

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Wolfgang Amadeus Mozart
Symffoni Rhif 40 yn G leiaf 35’

EGWYL: 15 munud

Johannes Brahms
Requiem Almaenig 68’

Thomas Zehetmair arweinydd
Elizabeth Watts soprano
Andrew Foster-Williams baswr-bariton
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC 

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Classical Live ac ar Radio Cymru. Bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddodol.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i’n cyngerdd heno, a chroeso’n ôl i Thomas Zehetmair i arwain BBC NOW mewn rhaglen o gerddoriaeth gan ddau gyfansoddwr sy’n arbennig o agos at ei galon.

Dechreuwn gyda Mozart. Mae ei 40fed Symffoni yn G leiaf yn un o driawd rhyfeddol o symffonïau a gyfansoddodd ar wib mewn un haf. Mae’r cyfansoddwr yn manteisio ar y cywair lleiaf i’r eithaf mewn gwaith sydd, yn ei angerdd a’i egni ynghyd â’i harddwch telynegol, fel petai’n rhagweld y cyfnod Rhamantaidd.

Ar ôl yr egwyl bydd yr unawdwyr Elizabeth Watts ac Andrew Foster-Williams a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn ymuno â’r gerddorfa ar gyfer Ein deutsches Requiem godidog Brahms. Yma, mae’r cyfansoddwr rhoi dehongliad personol iawn o’r requiem traddodiadol, ac mae’r teitl amgen a awgrymodd – ‘Requiem Dynol’ – yn ddadlennol. Yn fyfyrdod personol ar farwoldeb dyn, galar a heddwch, mae yr un mor bwerus heddiw.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Wolfgang Amadeus Mozart (1756–91)

Symffoni Rhif 40 yn G leiaf, K550 (1788)

1 Molto allegro
2 Andante
3 Minuet
4 Finale: Allegro assai

Roedd canol y 1780au yn gyfnod prysur i Mozart, yn enwedig o ran ei gynnyrch operatig. Ym 1786 gwelwyd adfywiad o Idomeneo a pherfformiadau cyntaf o Priodas Figaro a Der Schauspieldirektor, ac ym 1787 cafwyd perfformiad cyntaf Don Giovanni ym Mhrâg. Dim rhyfedd felly fod llai a llai o amser ar ôl ganddo i ysgrifennu darnau eraill. Ond yn haf 1788, cyfansoddodd Mozart dair symffoni, ei symffonïau olaf, pob un yn cynnwys arbrofion beiddgar ac annisgwyl i’w gynulleidfa. Y Symffoni yn G leiaf, K550, oedd yr ail i gael ei hysgrifennu, a chafodd ei chwblhau ar 25 Gorffennaf 1788.

Mae cymaint o gwestiynau ag o atebion gyda’r symffoni hon a’r ddwy arall o 1788. Wyddon ni ddim, er enghraifft, a gawsant eu hysgrifennu ar gyfer perfformiad arbennig; ac nid yw’n glir chwaith a oedd Mozart yn eu hystyried yn fath o drioleg ynteu a oedd pob un i fod i sefyll ar ei phen ei hun. Y gred am flynyddoedd oedd na chlywodd Mozart erioed nhw’n cael eu perfformio, hyd yn oed – ond mae dogfennau wedi dod i’r golwg yn awgrymu ei fod o leiaf wedi clywed profion preifat yng nghartref y noddwr cerddoriaeth dylanwadol y Barwn van Swieten. Roedd Mozart yn gweithio i van Swieten ar y pryd, yn trefnu ac yn arwain gweithiau corawl gan Handel (gan gynnwys y Meseia) ar gyfer ei glwb cerdd preifat.

Mae’r symffoni’n dechrau gyda thema daer, synfyfyriol yn y ffidlau, i gyfeiliant fiolâu herciog y mae Mozart yn eu rhannu’n ddau grŵp. Anaml y rhoddid y math hwn o bwysigrwydd ac annibyniaeth i’r adran fiolâu, ac mae’n rhoi sain gyfoethocach a chadarnach. Pan gyrhaedda’r ail destun, yn y cywair mwyaf, mae’n llithro i lawr yr erwydd fesul hanner tôn; ac mae’r sgorio bron yn siambraidd wrth i’r chwythbrennau a’r llinynnau basio’r baton melodig rhyngddynt. Mae’r newidiadau cywair sydyn yn ddiweddarach yn y symudiad yn ychwanegu at ymdeimlad o ddrama sy’n llawn ing, ymdeimlad na chaiff ei chwalu’n llwyr gan ddyfodiad Andante swynol yr ail symudiad. Ceir gohiriannau gosgeiddig ac alawon ysgafn ochr yn ochr â llinellau bas trymaidd ac ergydion cromatig rhyfedd, a dim ond yn ysbeidiol iawn y cawn ddianc i ddyfroedd cwbl lonydd. Daw’r Miniwét â ni’n ôl yn sionc at y cywair cartref G leiaf, gyda seibiant bach yn y cywair mwyaf yn y Trio, a’r llinynnau a’r chwythbrennau unwaith eto mewn deialog ysgafn. Gêm o gyferbyniadau mawr yw’r symudiad olaf egnïol, a’r gerddoriaeth yn pendilio rhwng piano a forte: model pwysig mae’n siŵr i’r Ludwig van Beethoven ifanc, a ddathlodd ei benblwydd yn 18 oed ym mlwyddyn cwblhau’r symffoni hon.

Nodyn y rhaglen © Katy Hamilton

EGWYL: 15 munud

Johannes Brahms (1833–97)

Requiem Almaenig, Op. 45 (1865–8)

1 Selig sind, die da Leid tragen
2 Denn alles Fleisch es ist wie Gras
3 Herr, lehre doch mich
4 Wie lieblich sind deine Wohnungen
5 Ihr habt nun Traurigkeit
6 Denn wir haben hie keine bleibende Statt
7 Selig sind die Toten

Elizabeth Watts soprano
Andrew Foster-Williamsbaswr-bariton
BBC National Chorus of Wales 

Pam Requiem ‘Almaenig’? Yr ateb amlwg yw bod Brahms, yn wahanol i unrhyw gyfansoddwr Requiem bondigrybwyll arall o’r 19eg ganrif, yn defnyddio nid y testun litwrgaidd Lladin safonol ond detholiad o’r Beibl Almaeneg. Ond gall y teitl fod yn broblemus o hyd. Fe wnaeth Brahms droi’n fwyfwy cenedlaetholgar yn y blynyddoedd diweddarach, yn enwedig ar ôl uno tiroedd yr Almaen ym 1871, ond hyd yn oed wedyn mae’n debyg ei fod wedi magu amheuon am ddoethineb ei ddewis o eiriad, fel y datgelodd mewn ymateb i lythyr oddi wrth organydd yr eglwys gadeiriol Karl Martin Reinthaler. Roedd Reinthaler wedi bod yn awyddus i amddiffyn Brahms rhag cyhuddiadau fod ei Requiem mewn rhyw ffordd arwyddocaol yn anghrefyddol – roedd rhai wedi gwneud pwynt o nodi nad yw’r geiriau ‘Iesu’ na ‘Crist’ yn ymddangos yn unman yn y gwaith. Mae ymateb Brahms yn ofalus, ond eto’n ddadlennol:

O ran y teitl, mi wnaf gyfaddef y dylwn fod wedi hepgor ‘Almaenig’ a rhoi ‘Dynol’ yn ei le. Hefyd fy mod yn ymwybodol ac yn fwriadol wedi hepgor adnodau fel Ioan 3:16 (‘Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig fab’). Ar y llaw arall, yn sicr rwyf wedi cynnwys llawer am mai cerddor ydw i, am mai dyma roeddwn i’n ei ddeisyfu, am na allaf ddadlau yn erbyn na dileu unrhyw air o’m detholiadau hybarch. Ond gwell i mi dewi cyn imi ddweud gormod.

Hawdd deall pam y byddai Brahms efallai wedi teimlo ei fod wedi dewis y pennawd anghywir, yn enwedig ar adeg pan oedd rhai mathau o genedlaetholdeb Almaenig yn mynd yn fwyfwy ymosodol. Er hynny, yr oedd rhyw elfen o falchder diwylliannol yn bendant y tu ôl i’w ddewis gwreiddiol. Roedd y Diwygiad Protestannaidd wedi dechrau yn yr Almaen, ac ar dir Almaenig yr heriwyd grym gwleidyddol yr Eglwys Gatholig yn llwyddiannus am y tro cyntaf. Roedd cyfieithiad Martin Luther o’r Beibl – ffynhonnell testun Brahms – wedi helpu i ddiffinio’r iaith Almaeneg yn ei datblygiad ac wedi nodi dechrau proses lle byddai’r ysgrythur yn peidio â bod yn eiddo i elît addysgedig ac yn dod yn agored i’r bobl. Roedd cyfansoddiadau eglwysig Protestannaidd mawr Schütz, Bach a Handel – a adawodd eu marc ar y Requiem Almaenig – wedi parhau â’r broses hon o ddemocrateiddio dirgelion ffydd.

Roedd gweithiau fel Y Dioddefaint yn ôl Sant Mathew gan Bach a Meseia Handel hefyd wedi rhoi pwyslais newydd ar ddynoliaeth Crist – dioddefaint bod dynol go iawn, yn hytrach na symbol cyfriniol. Roedd hyn yn dir ffrwythlon ar gyfer ymddangosiad math mwy dyneiddiol o gred. Mae’n siŵr mai dyna oedd ar feddwl Brahms pan awgrymodd ‘Requiem Dynol’ fel teitl amgen. Gellid cydnabod gwerth y traddodiad crefyddol, yn enwedig ei allu i gysuro yn wyneb marwolaeth, ond dylid ei gadw mor ddi-ddogma â phosibl. Marwoldeb dyn, ei alar a’i derfyniad ddylai fod yn wrthrychau myfyrdod, nid unrhyw dduw penodol. 

Roedd gan Brahms reswm da i fyfyrio ar farwoldeb a galar ym 1865, y flwyddyn y dechreuodd weithio ar y Requiem Almaenig. Ym mis Ionawr dioddefodd ei fam strôc. Brysiodd Brahms at erchwyn ei gwely, ond roedd yn rhy hwyr. Roedd yn brofiad dirdynnol. Pan ddaeth ffrind i alw arno’n fuan wedyn, daeth o hyd i Brahms yn ymarfer Bach wrth y piano gyda dagrau’n llifo i lawr ei wyneb. Roedd chwarae’r piano’n un ffordd o weithio trwy emosiwn poenus; roedd cyfansoddi yn amlwg yn un arall. Mae’n bosib iawn fod teimladau Brahms yn sgil marwolaeth ei fam wedi llifo i mewn i symudiad araf marwnadol rymus y Trio i’r Corn, Op. 40, a gyfansoddwyd yn haf 1865. Ac erbyn Ebrill y flwyddyn honno roedd Brahms wedi anfon dau symudiad o’r Requiem Almaenig at ei gyfeilles, Clara Schumann, pianydd o fri a gweddw’r cyfansoddwr Robert Schumann. ‘Rwy’n gobeithio cynhyrchu rhyw fath o gyfanwaith o’r peth,’ meddai wrthi, ‘a gobeithio y caf gadw digon o ddewrder a brwdfrydedd i’w gwblhau.’

Ond efallai bod colled arall wedi gadael ei hôl ar y Requiem Almaenig. Mae’n debyg bod yr ail symudiad, y ‘Denn alles Fleisch, es ist wie Gras’ (‘Y mae pob un meidrol fel glaswellt’), yn deillio o’r ‘Scherzo araf’ yr oedd Brahms wedi’i gynnwys yn y Symffoni y rhoddodd y gorau i’w chyfansoddi yn 1854–5, a adolygodd yn ddiweddarach i greu ei Goncerto Cyntaf i’r Piano. Dyna’r blynyddoedd pryd yr oedd mentor a hyrwyddwr Brahms, Robert Schumann, wedi dioddef ei chwalfa feddyliol derfynol drychinebus. Ar ôl i Schumann farw mewn gwallgofdy ym 1856, dywedodd Brahms wrth Clara mai ‘requiem i Schumann’ fyddai symudiad araf y Concerto newydd i’r Piano. Felly, yn yr ymdeithgan angladd ‘Denn alles Fleisch’, mae’r Requiem Almaenig yn ailweithio deunydd sy’n gysylltiedig ym meddwl Brahms â phrofedigaeth ofnadwy arall. Ar ddechrau’r symudiad hwn mae’r corws yn canu alaw corâl o gantata Bach BWV 27, ‘Wer weiss, wie nähe mir mein Ende!’ (‘Pwy a ŵyr pa mor agos fydd fy niwedd!’). Mae adleisiau o’r corâl hwnnw i’w clywed yn themâu rhai o symudiadau eraill y Requiem Almaenig; yn wir, dywedodd Brahms wrth ffrind fod ‘y gwaith cyfan, yn y bôn, wedi’i seilio ar y corâl’. Nid arwyddocâd technegol yn unig sydd i’r cysylltiadau hyn: maen nhw’n ein tywys oddi wrth y casgliad mai Requiem i fam Brahms yn unig yw’r gwaith. Yn yr achos hwn, rhan o’r broses greadigol oedd troi teimladau preifat yn wrthrych: galar fel un o agweddau cyffredinol y cyflwr dynol – neu, fel y geiriwyd y peth gan Brahms, Requiem ‘Dynol’.

O gymryd cipolwg sydyn ar destun y Requiem Almaenig gwelwn pa mor wahanol yw hi i’r Offeren Gatholig Rufeinig i’r Meirw. Does dim erfyn taer am drugaredd, dim darluniau brawychus o’r Farn Olaf na gweledigaethau o Uffern. Yn gerddorol, prin y gallai fod mwy o gyferbyniad rhwng hyn a drama operatig fawreddog Messa da Requiem Verdi, a gwblhawyd chwe blynedd yn ddiweddarach; mae’n osgoi’r mynegiant uniongyrchol o fraw ac ing a geir yn Requiem Mozart hefyd. Yn hytrach, yng ngeiriau’r athronydd Almaenig Ernst Bloch, ceir ‘dyfnder gwerthfawr sy’n osgoi apotheosis’.

Mae rhywfaint o’r ‘dyfnder gwerthfawr’ hwnnw i’w deimlo yn y symudiad agoriadol, ‘Selig sind, die da Leid tragen’ (‘Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru’): emyn ymataliol, urddasol i’r broses o alaru – digon poenus ynddo’i hun, ond sy’n dal gobaith am adferiad wedi colled.

Wedyn daw’r ymdeithgan angladd enbyd ‘Denn alles Fleisch’ (‘Mae pob un meidrol’); ond mae hon hefyd yn cynnig gobaith: mae’r gaeaf yn troi’n wanwyn, mae’r hedyn yn goroesi ac yn tyfu eto.

Rhaid dod i delerau â’ch marwolaeth eich hun, felly mae’r weddi ar ddechrau’r trydydd symudiad, ‘Herr, lehre doch mich, dass ein Ende mit mir haben muss’ (‘Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd’). Ond atebir y cwestiwn ‘Nun, Herr, wess soll ich mich trösten?’ (‘Ac yn awr, Arglwydd, am beth y disgwyliaf?’) gan ffiwg Bachaidd mawreddog ar gyfer corws a cherddorfa lawn, wedi’i angori drwy’r cyfan ar nodyn D parhaus yn y bas, symbol o afael diogel llaw Duw.

Gweledigaeth o fywyd dedwydd yr ymadawedig yw ‘Wie lieblich sind deine Wohnungen’ (‘Mor brydferth yw dy breswylfod’), wedi’i chyfleu mewn math o walts ddigyffro. Dyma galon y Requiem Almaenig. Mewn ffordd, mae holl adeiledd y gwaith yn troi arno; gellid ei weld fel conglfaen bwa enfawr. O hyn ymlaen, dychwelyd a wneir, ar y cyfan, at y ddelwedd o wynfyd, ac at wres cynnil y gerddoriaeth oedd yn ei hymgorffori. 

Mae’r pumed symudiad, ‘Ihr habt nun Traurigkeit’ (‘Yr ydych yn awr mewn tristwch’), yn caniatáu cipolwg inni ar rywbeth personol wrth gloi. Wrth i’r corws ar y diwedd ganu’r geiriau ‘wie einen seine Mutter tröstet’ (‘fel y cysurir plentyn gan ei fam’), mae’r unawdydd soprano’n ailadrodd yn dawel deimladwy y geiriau ‘wieder sehen’ (‘Fe’ch gwelaf chwi eto’).

Ond wedyn daw’r symudiad mwyaf dramatig oll: ‘Denn wir haben hie keine bleibende Statt’ (‘Oherwydd nid oes dinas barhaus gennym yma’), ei herfeiddiwch stormus yn wyneb angau yn troi’n sydyn yn ffiwg godidog arall (adleisiau o Bach a Handel, a hefyd o Missa solemnis Beethoven).

Dychwelwn yn y symudiad olaf i gyweirnod y symudiad cyntaf (F fwyaf), gydag adleisiau o’i ddeunydd thematig. Bellach, y meirw eu hunain, yn hytrach na’r rhai sy’n eu galaru, sy’n cael eu dathlu – fel yng ngweddi olaf ‘In paradisum’ yr Offeren Ladin dros y Meirw. Gair olaf y corws yw’r gair a glywsom ar ddechrau’r Requiem Almaenig: ‘Selig’ (‘Gwyn eu byd’). Mae’r bwa mawr wedi’i gwblhau. 

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

Testun

1 Selig sind, die da Leid tragen
Selig sind, die da Leid tragen,
denn sie sollen getröstet werden.

Die mit Tränen säen,
werden mit Freuden ernten.
Sie gehen hin und weinen
und tragen edlen Samen,
und kommen mit Freuden
und bringen ihre Garben.

Mathew 5:4; Salm 126: 5–6


2 Denn alles Fleisch es ist wie Gras
Denn alles Fleisch es ist wie Gras

und alle Herrlichkeit des Menschen
wie des Grases Blumen.
Das Gras ist verdorret
und die Blume abgefallen.

So seid nun geduldig, lieben Brüder,
bis auf die Zukunft des Herrn.
Siehe, ein Ackermann wartet
auf die köstliche Frucht der Erde
und ist geduldig darüber, bis er empfahe
den Morgenregen und Abendregen.

Aber des Herrn Wort bleibet in Ewigkeit.

Die Erlöseten des Herrn werden wieder kommen,
und gen Zion kommen mit Jauchzen;
ewige Freude wird über ihrem Haupte sein;
Freude und Wonne werden sie ergreifen
und Schmerz und Seufzen wird weg müssen.

1 Pedr 1:24, 25; Iago 5:7; Eseia 35:10

3 Herr, lehre doch mich
Herr, lehre doch mich,
dass ein Ende mit mir haben muss,
und mein Leben ein Ziel hat,
und ich davon muss.

Siehe, meine Tage sind
einer Hand breit vor dir,
und mein Leben ist wie nichts vor dir.

Ach wie gar nichts sind alle Menschen,
die doch so sicher leben.

Sie gehen daher wie ein Schemen,
und machen ihnen viel vergebliche Unruhe;
sie sammeln und wissen nicht
wer es kriegen wird.

Nun Herr, wess soll ich mich trösten?
Ich hoffe auf dich.

Der Gerechten Seelen sind in Gottes Hand
und keine Qual rühret sie an.

Salm 39:4–7; Doethineb Solomon 3:1

4 Wie lieblich sind deine Wohnungen
Wie lieblich sind deine Wohnungen,

Herr Zebaoth!
Meine Seele verlanget und sehnet sich
nach den Vorhöfen des Herrn;
mein Leib und Seele freuen sich
in dem lebendigen Gott.
Wohl denen, die in deinem Hause wohnen,
die loben dich immerdar.

Salm 84:1, 2, 4

5 Ihr habt nun Traurigkeit
Ihr habt nun Traurigkeit;

aber ich will euch wieder sehen
und euer Herz soll sich freuen
und eure Freude soll niemand von euch nehmen.

Ich will euch trösten,
wie Einen seine Mutter tröstet.

Sehet mich an:
Ich habe eine kleine Zeit Mühe und Arbeit gehabt
und habe grossen Trost funden.

Ioan 16:22; Eseia 66:13; Ecclesiasticus 51:27

6 Denn wir haben hie keine bleibende Statt
Denn wir haben hie keine bleibende Statt,

sondern die zukünftige suchen wir.

Siehe, ich sage euch ein Geheimnis:
Wir werden nicht alle entschlafen,
wir werden aber alle verwandelt werden;
und dasselbige plötzlich, in einem Augenblick,
zu der Zeit der letzten Posaune.
Denn es wird die Posaune schallen,
und die Toten werden auferstehen unverweslich,
und wir werden verwandelt werden.
Dann wird erfüllet werden
das Wort, das geschrieben steht:
Der Tod ist verschlungen in den Sieg.
Tod, wo ist dein Stachel?
Hölle, wo ist dein Sieg?

Herr, du bist würdig zu nehmen
Preis und Ehre und Kraft,
denn du hast alle Dinge geschaffen,
und durch deinen Willen haben sie das Wesen
und sind geschaffen.

Hebreaid 13:14; 1 Corinthiaid 15:51–55; Datguddiad 4:11

7 Selig sind die Toten
Selig sind die Toten,

die in dem Herrn sterben,
von nun an.
Ja, der Geist spricht,
dass sie ruhen von ihrer Arbeit;
denn ihre Werke folgen ihnen nach.

Datguddiad 14:13

Cyfieithiad

Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru
Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru,
oherwydd cânt hwy eu cysuro. 

Bydded i’r rhai sy’n hau mewn dagrau
fedi mewn gorfoledd.
Bydd yr un sy’n mynd allan dan wylo,
ac yn cario ei sach o hadyd,
yn dychwelyd drachefn mewn gorfoledd,
ac yn cario ei ysgubau. 

Y mae pob un meidrol fel glaswellt
Y mae pob un meidrol fel glaswellt,
a’i holl ogoniant
fel blodeuyn y maes.
Y mae’r glaswellt yn crino,
a’r blodeuyn yn syrthio.

Byddwch yn amyneddgar, gyfeillion,
hyd ddyfodiad yr Arglwydd.
Gwelwch fel y mae’r ffermwr yn aros
am gynnyrch gwerthfawr y ddaear,
yn fawr ei amynedd amdano
nes i’r ddaear dderbyn y glaw cynnar a diweddar.

Ond y mae gair yr Arglwydd yn aros am byth.

A gwaredigion yr Arglwydd fydd yn dychwelyd.
Dônt i Seion dan ganu,
bob un gyda llawenydd tragwyddol;
hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd,
a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.

Arglwydd, pâr i mi wybod
Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd,
a beth yw nifer fy nyddiau;
dangos imi mor feidrol ydwyf.

Wele, gwnaethost fy nyddiau
fel dyrnfeydd,
ac mae fy oes fel dim yn dy olwg.

Yn wir, chwa o wynt
yw pob dyn byw. 

Ac y mae’n mynd a dod fel cysgod,
yn wir, ofer yw’r holl gyfoeth a bentyrra,
ac ni ŵyr pwy fydd yn ei gasglu.

Ac yn awr, Arglwydd, am beth y disgwyliaf?
Y mae fy ngobaith ynot ti. 

Y mae eneidiau’r cyfiawn yn llaw Duw,
ac ni ddaw poenedigaeth byth i’w rhan.

Mor brydferth yw dy breswylfod
Mor brydferth yw dy breswylfod,
O Arglwydd y Lluoedd.
Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at lewyg
am gynteddau’r Arglwydd;
y mae’r cyfan ohonof yn gweiddi’n llawen
ar y Duw byw.
Gwyn eu byd y rhai sy’n trigo yn dy dŷ,
yn canu mawl i ti’n wastadol.

Yr ydych yn awr mewn tristwch
Yr ydych yn awr mewn tristwch;
ond fe’ch gwelaf chwi eto,
ac fe lawenha eich calon,
ac ni chaiff neb ddwyn eich llawenydd oddi arnoch. 

Fel y cysurir plentyn gan ei fam
byddaf fi’n eich cysuro chwi.

Gwelwch â’ch llygaid gyn lleied y llafuriais
i ennill imi orffwystra mor fawr.

Oherwydd nid oes dinas barhaus gennym yma
Oherwydd nid oes dinas barhaus gennym yma;
ceisio yr ydym, yn hytrach, y ddinas sydd i ddod.

Clywch! Yr wyf yn mynegi dirgelwch ichwi:
nid ydym i gyd i huno,
ond yr ydym i gyd i gael ein newid,
mewn eiliad, ar drawiad amrant,
ar ganiad yr utgorn diwethaf.
Oherwydd bydd yr utgorn yn seinio,
y meirw’n cael eu cyfodi yn anllygredig,
a ninnau’n cael ein newid.
Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth,
ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb.
Yna bydd y geiriau hyn,
sydd yn ysgrifenedig, yn dod yn wir:
Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth.
O angau, ble mae dy fuddugoliaeth?
O angau, ble mae dy golyn?

Teilwng wyt ti, ein Harglwydd a’n Duw,
i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r gallu,
oherwydd tydi a greodd bob peth,
a thrwy dy ewyllys y daethant i fod
ac y crëwyd hwy. 

Gwyn eu byd y meirw
Gwyn eu byd y meirw
sy’n marw yn yr Arglwydd.
Ie, medd yr Ysbryd,
cânt orffwys o’u llafur,
oherwydd y mae eu gweithredoedd yn eu canlyn hwy.

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’n cyngherddau nesaf. Fel un sydd eisoes yn aelod o’n cynulleidfa, gallwch brynu’r tocynnau hyn am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

Enigma

Dydd Sadwrn 18/4/26, 3.00pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Dydd Sul 19/4/26, 3.00pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Ffrwd fyw

Grace Williams Sea Sketches
Saint-Saëns Concerto Rhif 3 i’r Ffidil
Elgar Enigma Variations

Jaime Martín arweinydd
Akiko Suwanai ffidil

CAIN | URDDASOL | DARLUNIADOL

Os cawsoch chi eich cyffwrdd gan ddyfnder emosiynol Requiem Almaenig Brahms a dwyster dramatig Symffoni Rhif 40 Mozart, rydyn ni’n eich gwahodd i brofi’r un grym cerddorol yn Enigma Variations eiconig Elgar. Ceir yn y campwaith hwn gyfres o bortreadau cerddorol byw – sy’n dyner, yn ffraeth, yn urddasol ac yn afieithus bob yn ail – gan orffen gyda’r rhyfeddol ‘Nimrod’, un o’r rhannau mwyaf teimladwy yn y repertoire cerddorfaol. Yn union fel y gwnaeth Brahms archwilio’r ysbryd dynol ac fel y gwnaeth Mozart archwilio emosiwn amrwd, mae Elgar yn agor y ffenestr i gyfeillgarwch ac yn datgelu enaid cerddoriaeth Brydeinig. Ymunwch â ni ar gyfer cyngerdd sy’n cyfuno lliw cerddorfaol godidog â dawn adrodd straeon wych a theimladwy – yr union beth i unrhyw un sydd wrth ei fodd â cherddoriaeth sy’n dal i atseinio ymhell ar ôl i’r nodyn olaf dewi.

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Thomas Zehetmair arweinydd

Mae Thomas Zehetmair yn fawr ei fri yn rhyngwladol fel feiolinydd yn ogystal ag fel arweinydd. Ef yw Prif Arweinydd Orchestre National d’Auvergne et Rhone-Alps ac mae ei swydd fel Prif Arweinydd Cerddorfa Siambr Stuttgart wedi’i hymestyn tan haf 2029.

Cafodd gryn ysbrydoliaeth wrth weithio fel unawdydd gyda Nikolaus Harnoncourt, Frans Brüggen, David Zinman, Daniel Barenboim, Syr Simon Rattle a Paavo Järvi. Fel arweinydd mae wedi ymddangos gyda cherddorfeydd sy’n cynnwys cerddorfeydd Ffilharmonig Hamburg, Llundain, Rotterdam a Seoul, yr Hallé, cerddorfeydd Siambr yr Alban a Sweden, cerddorfeydd Symffoni Detroit a Seattle, Cerddorfa’r 18fed Ganrif, Cerddorfa Gŵyl Budapest, Mozarteum Orchester ac Orquesta Sinfónica de Castilla y León.

Mae ganddo ddisgograffeg helaeth ac amrywiol fel feiolinydd, arweinydd a gyda phedwarawd y Zehetmair Quartett. Enillodd ei recordiad o Caprices Paganini Wobr MIDEM Classic a derbyniodd Wobrau Gramophone am ei Goncerto Elgar gyda Syr Mark Elder a choncertos Szymanowski gyda Syr Simon Rattle. Enillodd recordiad y Zehetmair Quartett o Schumann wobr Record y Flwyddyn gan Gramophone ynghyd â phedair gwobr ryngwladol arall. Yn 2020 derbyniodd Wobr Opus Klassik am ei recordiad o Sonatas a Phartitas Bach i ffidil unigol. Ymhlith ei recordiadau diweddar mae symffonïau gan Haydn a gweithiau gan Schoenberg, Bartók, Beethoven, Brahms a Mozart.

Yn fwy diweddar mae wedi bod yn datblygu ei ddiddordeb mewn cyfansoddi a threfnu; ymhlith ei gyfansoddiadau nodedig mae ei Rondo ar gyfer ffidil a soddgrwth, Passacaglia, Bwrlésg a Chorâl ar gyfer triawd llinynnol ac Amrywiadau dros thema ganoloesol i fiola unigol. Perfformiwyd ei Goncerto Dwbl i fiola, soddgrwth a llinynnau am y tro cyntaf ym mis Tachwedd.

Ymhlith uchafbwyntiau’r tymor hwn mae taith yn Asia gydag Orchestre National d’Auvergne et Rhone-Alps a Cherddorfa Siambr Stuttgart, dychweliad at Gerddorfa Siambr St Paul a pherfformiadau o Ail Concerto Szymanowski i’r Ffidil gydag Orchestre National de Lyon. Mae hefyd yn perfformio mewn deuawd gyda Pierre-Laurent Aimard.

Mae’r Zehetmair Quartett wedi derbyn Gwobr Paul Hindemith gan Ddinas Hanau am gyflawniad cerddorol eithriadol. Anrhydeddwyd Thomas Zehetmair gan y Preis der Deutschen Schallplattenkritik ac mae ganddo ddoethuriaethau er anrhydedd gan Brifysgol Liszt yn Weimar a Phrifysgol Newcastle.

Elizabeth Wattssoprano

Mae Elizabeth Watts bellach wedi’i sefydlu’i hun yn un o brif sopranos Prydain. Daeth i sylw gyda’i recordiad cyntaf o Lieder Schubert ac erbyn hyn mae hi’n artist recordio toreithiog sydd wedi ennill llu o wobrau ac anrhydeddau. Yn fwyaf diweddar, cafodd ei recordiad o Spring Symphony Britten gyda Syr Simon Rattle a Cherddorfa Symffoni Llundain ei enwi’n Albwm Cerddorfaol y Flwyddyn gan gylchgrawn Classica.

Mae hi’n gyn-Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3 ac mae galw mawr amdani fel datgeiniad. Mae wedi rhoi datganiadau yn neuaddau mwyaf blaenllaw Prydain, gan gynnwys Neuadd Wigmore, Neuadd Bridgewater, Ystafell Purcell ac yng ngwyliau Aldeburgh, Caeredin, y Gelli a Cheltenham. Dramor, mae hi wedi perfformio mewn neuaddau a gwyliau mawreddog fel Concertgebouw Amsterdam, Gŵyl Hardanger yn Norwy, Gŵyl Haf Bad Kissingen, y Musée d’Orsay ym Mharis a Tonhalle Zurich.

Ar y llwyfan cyngerdd, mae ganddi repertoire eang yn ymestyn o Bach trwy Brahms a Richard Strauss, i premières cyfansoddwyr fel Richard Blackford a Ryan Wigglesworth.

A hithau bellach yn enwog fel soprano ysgafn, mae ei rhannau operatig diweddar yn cynnwys Aspasia (Mitridate Mozart) ar gyfer Opera Garsington a’r Iarlles (Priodas Figaro) i Opera Cenedlaethol Lloegr. Gynt, ymddangosodd mewn operâu fel Zerlina (Don Giovanni) a Marzelline (Fidelio) i’r Opera Brenhinol, Covent Garden; Susanna (Priodas Figaro) ar gyfer Opera Santa Fe ac Opera Cenedlaethol Cymru, lle mae hi hefyd wedi canu rhan Donna Elvira, Pamina (Y Ffliwt Hud) a Fiordiligi (Così fan tutte). Ar y llwyfan cyngerdd mae ei repertoire lleisiol bellach yn cynnwys WarRequiem Britten a The Apostles a The Kingdom (première Gwlad Pwyl) gan Elgar.

Roedd Elizabeth Watts yn aelod o gôr Eglwys Gadeiriol Norwich ac enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Archaeoleg a Chynhanes ym Mhrifysgol Sheffield, cyn mynychu’r Coleg Cerdd Brenhinol. Ymhlith ei gwobrau niferus mae Gwobr Kathleen Ferrier, Gwobr Artist Ifanc Eithriadol MIDEM Classique a Gwobr Cân Datganiad Rosenblatt yn BBC Canwr y Byd Caerdydd. Yn gyn-aelod o Raglen Cantorion Ifanc Opera Cenedlaethol Lloegr, bu’n Artist Preswyl yng Nghanolfan Southbank, Llundain ac mae hi wedi derbyn Gwobr Ymddiriedolaeth Borletti-Buitoni. Yn fwy diweddar, fe’i gwnaed yn Ddoethur er Anrhydedd mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Sheffield ac yn Gymrawd y Coleg Cerdd Brenhinol.

Andrew Foster-Williamsbaswr-bariton

Mae Andrew Foster-Williams wedi mwynhau gyrfa ryngwladol arbennig yn chwarae amrywiaeth eang o rolau operatig, gan ddod â phob un yn fyw gydag awdurdod lleisiol, mewnwelediad dramatig a sglein o ran arddull.

Yn ei bortread o Don Pizarro (Fidelio) yn Theater an der Wien a’r Philharmonie de Paris amlygwyd ei allu i sianelu bygythiad gyda phwyslais ar gywirdeb lleisiol. Fel y Pedwar Dihiryn (Les contes d’Hoffmann), dangosodd ei amlochredd mewn cynhyrchiad newydd gan Andreas Homoki yn Nhŷ Opera Zurich ac mewn cynyrchiadau dilynol i Opera Gothenburg a’r Komische Oper Berlin, tra cafodd ei Nick Shadow (The Rake’s Progress) yn Opéra National de Lorraine ei ganmol am y modd y cyfunai swyn a pherygl. Mae’n dychwelyd at yr ENO y tymor hwn fel Don Alfonso (Così fan tutte), dan arweiniad Dinis Sousa.

Mae hefyd wedi ennill canmoliaeth mewn rhannau fel Gunther (Götterdämmerung) a Kurwenal (Tristan und Isolde), y ddau yn La Monnaie; Capten Balstrode (Peter Grimes) yn Theater an der Wien ac Opéra de Lyon; Lysiart (Euryanthe) yn Theater an der Wien; a Golaud (Pelléas et Mélisande) yn Theater Basel. Y tu allan i’r tŷ opera, mae wedi ymddangos gyda Cherddorfa Cleveland, Symffoni San Francisco, Cerddorfa Frenhinol Concertgebouw a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain. Y tymor hwn mae’n perfformio mewn dau ddarn cyfarwydd iddo: The Dream of Gerontius gan Elgar gyda Cherddorfa Ffilharmonig Munich o dan arweiniad Andrew Manze a gyda Cherddorfa Ffilharmonig Tampere dan arweiniad Matthew Halls; ac Ein deutsches Requiem Brahms gyda Cherddorfa Radio Cenedlaethol Gwlad Pwyl ac Andrew Manze. Mae’n ymddangos hefyd mewn cyngerdd gyda Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Estonia yn Kullervo Sibelius ac yn Requiem Michael Haydn gyda Cherddorfa Ffilharmonig Munich a Riccardo Minasi.

Mae disgograffeg Andrew Foster-Williams yn cynnwys Cantata ar Farwolaeth yr Ymerawdwr Joseph II gan Beethoven a The Seasons gan Haydn, ac mae wedi ennill gwobrau am ei gyfraniadau i’r gyfres Opéra français. Enillodd Wobr Gramophone am ei berfformiad yn The Fairy Queen gydag Opera Gŵyl Glyndebourne, a ryddhawyd ar DVD, a hefyd am ei recordiad o The Dream of Gerontius gyda Paul McCreesh a’r Gabrieli Consort and Players.

 

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae dros 120 o gantorion yng Nghorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ac mae’n un o’r prif gorau symffoni cymysg yn y Deyrnas Unedig. Tra’n cadw ei statws amatur, mae’n gweithio i’r safonau proffesiynol uchaf o dan y Cyfarwyddwr Artistig, Adrian Partington. Yn cynnwys cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd, mae’r corws, sydd wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, yn cydweithio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â chynnal ei gyngherddau ei hun.

Ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar mae perfformiadau o Stabat mater Poulenc a pherfformiad cyntaf y byd o Sound of Stardust Alexander Campkingydag enillydd Gwobr y Gynulleidfa yng nghystadleuaeth y BBC Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano Rolong a’r arweinydd corawl Sofi Jeannin; 13eg Symffoni Shostakovich gyda’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft; a Dewi Sant Syr Karl Jenkins ym mlwyddyn ei 80fed pen-blwydd. Mae’r corws yn ymddangos yn flynyddol hefyd yn y BBC Proms, ac ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar mae Requiem Verdi, Harmonium John Adamsgyda Ryan Bancroft a Sea Symphony Vaughan Williams gydag Andrew Manze.

Y tymor diwethaf perfformiodd y corws Stabat mater Rossinigydag enillydd Gwobr Cân Canwr y Byd Caerdydd 2021, Masabane Cecilia Rangwanasha a Nil Venditti; Meseia Handel gyda’r arbenigwr ar gerddoriaeth gynnar, John Butt; a Missa solemnis Beethoven gydag Andrew Manze, yn ogystal â’r cyngerdd carolau blynyddol a rhaglen o waith Brahms gyda Ryan Bancroft.

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn frwd dros gerddoriaeth Gymreig a chyfoes a rhoddodd yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl ei pherfformiad cyntaf, a ryddhawyd hefyd ar CD. Mae wedi rhoi perfformiadau cyntaf o waith sawl cyfansoddwr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out Kate Whitley, wedi’i osod ar eiriau Araith Malala Yousafzai i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.

Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar drac sain Paul Mealor i Wonders of the Celtic Deep ar BBC Wales.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Cyfarwyddwr Artistig
Adrian Partington

Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Christopher Williams

Soprano 1
Amelia Beecroft
Kate Bidwell
Eleanor Cantrill
Iustina Chirila
Isabel D’Avanzo
Phoebe Dry
Martha Eddowes
Ella Edwards Beavington
Bethan Evans
Faith Gerber
Olivia Ghanem
Claire Hardy
Vanessa John-Hall
Lucie Jones
Bethan Nicholas‑Thomas
Joanna Osborn
Elizabeth Phillips
Hannah Robertson
Helen Thomas
Lydia Wilson 

Soprano 2
Megan Allen
Esme Daniell‑Grenhalgh
Penelope George
Emily Hopkins
Rhiannon Humphreys
Margaret Lake
Carolyn Lee
Qianyu Lin
Lucy Paterson
Rebecca Reavley
Melanie Taylor
Megan Veiga 

Alto 1
Nazanin Dastafkan
Alison Davies
Catherine Duffy
Rachel Farebrother
Kathrin Hammer
Naomi Hitchings
Eleri Hurley
Matilda Holder
Lisa May
Shanta Miller
Rhian Pullen
Avery Rabbitt
Kate Reynolds
Zozi Sookanadenchetty
Vicki Westwell
Yirui Wang
Jessica Williams 

Alto 2
Annette Hecht
Yvonne Higginbottom
Max Keith
Sian Schutz
Sarah Willmott
Julie Wilcox 

Tenor 1
Jake Bussell
Meilyr Dafydd
Keith Davies
Phil Holtam
Andrew Lunn
Andrew Morris
Nick Willmott 

Tenor 2
Roland George
Peter Holmes
Rory McIver
Richard Shearman
Michael Willmott 

Bas 1
Noah Boneham‑Hill
Peter Cooke
John Davies
David John Davies
James Downs
Charlie Gedge
Rafael Grigoletto
David Hopkins
Geraint Jones
Emyr Wynne Jones
Lucas Maunder
Joseph Pasley
Joseph Pitkethly
Neil Schofield
Will Walshe‑Grey
Alun Williams
Daniel Williams 

Bas 2
Jeffrey Davies
Lyndon Davies
Evan Hancock
Oliver Hodgson
Gregg Hollister
Stuart Hogg
David Hutchings
David McLain
Luke Monkhouse
Gareth Nixon
Mike Osborn
David Rodgers

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Juliette Roos
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Emilie Godden
Kerry Gordon-Smith
Žanete Uškāne
Alejandro Trigo
Carmel Barber
Ruth Heney **
Anna Cleworth
Zhivko Georgiev

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Ros Butler
Sheila Smith
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Katherine Miller
Lydia Caines **
Michael Topping
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Gary George-Veale

Fiolâu
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Laura Sinnerton
Robert Gibbons
Anna Growns
Lydia Abell
Catherine Palmer
Nancy Johnson
Mungo Everett-Jordan

Soddgrythau
Pedro Silva
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Alistair Howes
Rachel Ford
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Tabitha Selley

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
David F. C. Johnson
Christopher Wescott
Emma Prince
Imogen Fernando

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Patrick Bolton
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Sarah Pennington
Michael Gibbs
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel

Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Andrew McDade

Timpani
Steve Barnard *

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications