Main content

Rwbath efo Mick Jagger

Pa ddylanwad fydd Ashley Williams ac Alan Sheehan yn ei gael ar garfan Cymru?

Penodiad Ashley Williams ac Alan Sheehan i dîm hyfforddi Craig Bellamy gyda Chymru sy'n hawlio prif sylw Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones ar y bennod yma. Mae 'na gryn edrych ymlaen hefyd i gynhadledd y wasg wythnos nesaf pan fydd Bellamy yn cael ei gwestiynu am y tro cyntaf am ei gysylltiadau gyda Burnley dros yr haf.

Mae'r bennod yn cael ei amharu gan argyfwng Mal gyda'i giw iâr, a tydi ei hwyliau'n gwella dim wrth i Owain wrthod datgelu sut gafodd o docyn i eistedd nesaf i Mick Jagger yn Stadiwm Emirates dydd Sul.

Release date:

11 months left to listen

50 minutes

Featured in...

Podcast