Main content

Syrthio mewn cariad yn Aberystwyth yn 15 oed

Ymddangosiad Noah Anyadike, y bachgen 15 mlwydd oed, i Gaerdydd sy'n hawlio prif sylw Owain Llyr, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.

Beth oeddech chi'n neud yn 15 mlwydd oed? Ddim yn chwarae i Gaerdydd, mae hynny'n sicr. Ond dyna mae Noah Anyadike wedi ei gyflawni ar ôl cael ei ddewis i gychwyn mewn gêm yng Nghwpan y Gynghrair i'r Adar Gleision. Yn sicr, mae gan y rheolwr Brian Barry-Murphy meddwl mawr o'r Cymro ifanc. Ai dyma'r seren nesaf i gamu allan o'r academi?

Ychydig wythnosau'n ôl, roedd Bobby Kamwa yn arwr i gefnogwyr Casnewydd. Tydi o ddim bellach. Aeth Kamwa rhy bell wrth ddathlu yn wynebau'r cefnogwyr Casnewydd ar ôl sgorio i'w glwb newydd Bristol Rovers?

Owain Llŷr sy'n ymuno gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.

Release date:

11 months left to listen

53 minutes

Featured in...

Podcast